Gall y geiriau a ddefnyddir ym maes Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl yn aml fod yn ddryslyd!  

Isod fe welwch esboniad am y llu o wahanol dermau a thalfyriadau y mae ein timau’n eu defnyddio.   

Os oes gennych fyth unrhyw gwestiynau am ystyr rhywbeth, rhowch wybod i’ch ymarferydd. Mae gennych yr hawl i gael eich cynnwys yn llawn yn eich gofal – bydd deall eich gofal yn ei gwneud hi’n haws i chi wneud hyn.  

Os oes gennych unrhyw eiriau neu ddiffiniadau eraill yr hoffech i ni eu cynnwys yn Chwalu’r Jargon, rhowch wybod i ni.  

Cliciwch ar lythyren ar yr wyddor i ddod o hyd i air penodol, neu sgrolio i lawr.

A  B  C  D  E  F  G

H  I  J  K  L  M  N  O  P

Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z

Adferiad yw’r daith yn ôl i les, a gellir ei defnyddio i ddisgrifio iechyd corfforol a meddyliol. Weithiau mae pobl yn galw hwn yn adsefydlu.  

 

Bydd adferiad yn edrych yn wahanol i bawb felly mae’n bwysig bod y person yn gallu rhannu ei farn ar ei amcanion a sut mae adferiad yn edrych iddo. 

Anhwylder bwyta yw pan fydd gennych agwedd afiach at fwyd, i’r pwynt ei fod yn cymryd drosodd eich bywyd ac yn eich gwneud yn sâl.  Gall anhwylderau bwyta gynnwys bwyta gormod neu rhy ychydig, neu ddatblygu obsesiwn gyda’ch pwysau neu siâp eich corff.  

 

Gall person ddal i gael anhwylder bwyta ar bwysau iach oherwydd ei fod yn cael ei bennu gan y berthynas sydd ganddynt â bwyd yn eu meddwl, sy’n aml yn mynd ymlaen i achosi sgil-effeithiau corfforol fel ennill neu golli pwysau.  

Anhwylder Deubegynol yw pan fydd eich hwyliau’n uchel iawn neu’n isel iawn am ddyddiau neu wythnosau di-ddiwedd. Mae symptomau’n amrywio ond gallant gynnwys hwyliau eithafol, episodau manig (cyfnodau hir o fod yn or-weithgar neu’n or-gyffrous sy’n cael effaith ar eich bywyd), hwyliau isel, egni isel a meddyliau am hunan-niweidio.  

 

Ewch i Young Minds i gael rhagor o wybodaeth am Anhwylder Deubegynol.   

Mae ADCG yn anhwylder sy’n ei gwneud yn anodd talu sylw neu eistedd yn llonydd am gyfnodau hir. Yn ogystal â chael trafferth yn canolbwyntio neu’n aros yn dawel, gall pobl ag ADCG hefyd fod yn fyrbwyll a chael trafferth meddwl cyn iddynt weithredu.  

 

I gael rhagor o wybodaeth am ADCG cliciwch yma.

Mae ADC yn gyflwr iechyd meddwl lle mae person yn treulio llawer o amser yn poeni am ddiffygion yn eu hymddangosiad, ond nid yw’r diffygion hyn yn amlwg i bobl eraill.  

 

Er y gall fod gan lawer ohonom bethau nad ydym yn eu hoffi am ein hymddangosiad, gall pobl ag ADC dreulio oriau’n meddwl amdanynt, i’r pwynt lle maent yn eu hatal rhag gallu byw bywyd llawn a gwneud y pethau y maent yn eu mwynhau.  

Math o anhwylder gorbryder yw anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD).  Mae gan bobl ag OCD feddyliau, delweddau neu deimladau sy’n peri gofid – gelwir y rhain yn ‘feddyliau obsesiynol’.   

 

Weithiau, pan fydd ein meddwl yn llawn meddyliau gofidus, rydym yn ceisio cymryd camau a fydd yn gwneud i’r meddyliau hynny fynd i ffwrdd.  Efallai y byddwn yn dechrau credu bod y camau gweithredu’n gwneud i’r meddyliau drwg fynd i ffwrdd.  Mae’r defodau hyn (mae rhai pobl yn eu galw’n arferion) yn ein tawelu ac yn gallu ymddangos yn ddefnyddiol, ond weithiau maent yn dod yn ‘orfodaeth’, sy’n golygu ein bod yn meddwl bod yn rhaid i ni eu gwneud, ac y bydd rhywbeth drwg yn digwydd i ni neu’r bobl o’n cwmpas os na wnawn ni eu gwneud.   

 

Gall rhai defodau OCD gael eu gweld gan bobl eraill (fel diffodd y golau) neu gallant ddigwydd y tu mewn i’ch pen (fel cyfrif pethau).   

 

Gall defodau gorfodol wneud i ni deimlo’n waeth, gan y bydd y meddyliau pryderus yn rhuthro’n ôl unwaith i’r ddefod ddod i ben. Gall hyn adael pobl yn sownd mewn cylch o ailadrodd eu defod dro ar ôl tro, a theimlo na allant stopio.  

 

Nid yw OCD yn ymwneud â bod yn daclus neu’n drefnus yn unig. Gall meddyliau OCD gynnwys llawer o wahanol ddefodau, gan ganolbwyntio’n aml ar bethau fel perygl, baw neu bryderon am grefydd neu rywioldeb. Mae rhai pobl yn teimlo’n euog neu’n gywilyddus o’u meddyliau a’u defodau.   

 

Dysgwch fwy yma.  

Mae anhwylder panig yn anhwylder gorbryder lle mae person yn parhau i brofi pyliau o banig yn rheolaidd ac yn aml.  

 

Gall symptomau corfforol gynnwys poenau yn y frest, pendro, cyfradd gyflym y galon a diffyg anadl.   

Mae awtistiaeth yn anhwylder datblygiadol sy’n effeithio ar tua 1 o bob 100 o blant.  Mae anhwylder datblygiadol yn rhywbeth sydd gan bobl cyn, yn ystod neu’n fuan ar ôl eu geni.   

 

Mae’n effeithio ar sut mae’r person yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’r byd o’u cwmpas.  

 

Mae awtistiaeth yn gyflwr sbectrwm. Mae pawb ag awtistiaeth yn rhannu rhai anawsterau, ond bydd yn effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol.  

 

Nid yw Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl yn rhoi diagnosis i blant a phobl ifanc Os yw person awtistig yn wynebu anawsterau gyda’u hiechyd meddwl, efallai y byddwn yn eu cefnogi. 

 

Dewch i wybod mwy am awtistiaeth yma: 

Achosir anhwylder straen wedi trawma (PTSD) gan ddigwyddiadau straenus, brawychus neu hyd yn oed beryglus iawn.  

 

Gall person sydd â PTSD ail-fyw’r digwyddiad trawmatig drwy hunllefau ac ôl-fflachiadau, brofi teimladau o unigedd ac euogrwydd, anhunedd a’i chael hi’n anodd canolbwyntio. Gall y rhain effeithio’n wirioneddol ar fywyd person o ddydd i ddydd.   

 

Dysgwch fwy yn Young Minds   

Mae anorecsia yn anhwylder bwyta pan fo person yn ceisio rheoli pwysau ei gorff mewn ffordd sy’n obsesiynol neu’n afiach.   

 

Er y gellir ei ystyried yn anhwylder sy’n effeithio ar ferched yn unig, gall dynion a menywod ei brofi a chael cymorth a thriniaeth.  

 

Gall symptomau eraill gynnwys cyfrif calorïau, ymarfer corff yn ormodol, gor-boeni am ddelwedd y corff, trafferth cysgu, teimlo’n flin, dim misglwyf a thyfu haen denau o wallt ar bob rhan o’r corff.  

Os yw rhywun yn wynebu heriau sy’n gysylltiedig â’i les emosiynol, bydd ein hymarferwyr yn cyfarfod ag ef/hi i siarad am ei symptomau, yr effaith ar ei fywyd/bywyd a pha nodau y mae am eu cyflawni.  Byddan nhw wedyn yn datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r heriau hyn.  

 

Gelwir hyn yn asesiad neu apwyntiad dewis.  Dyma’r term a ddefnyddiwn ar gyfer apwyntiad cychwynnol i ddarganfod beth sy’n digwydd ym mywyd rhywun a’r hyn y maent am ei gyflawni.  

 

Yn aml, gofynnir i aelodau o’r teulu rannu eu persbectif ar gyfer yr asesiadau, oni bai bod y plentyn neu’r person ifanc yn dweud nad ydynt am iddynt gymryd rhan.  Gall hyn helpu’r ymarferydd i gael gwell dealltwriaeth o sut mae eich heriau’n effeithio ar eich bywyd, ond nid yw’n orfodol.    

Os yw rhywun yn wynebu heriau sy’n gysylltiedig â’i les emosiynol, bydd ein hymarferwyr yn cyfarfod ag ef/hi i siarad am ei symptomau, yr effaith ar ei fywyd/bywyd a pha nodau y mae am eu cyflawni.  Byddan nhw wedyn yn datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r heriau hyn.  

 

Gelwir hyn yn asesiad neu apwyntiad dewis.  Dyma’r term a ddefnyddiwn ar gyfer apwyntiad cychwynnol i ddarganfod beth sy’n digwydd ym mywyd rhywun a’r hyn y maent am ei gyflawni.  

 

Yn aml, gofynnir i aelodau o’r teulu rannu eu persbectif ar gyfer yr asesiadau, oni bai bod y plentyn neu’r person ifanc yn dweud nad ydynt am iddynt gymryd rhan.  Gall hyn helpu’r ymarferydd i gael gwell dealltwriaeth o sut mae eich heriau’n effeithio ar eich bywyd, ond nid yw’n orfodol.    

Brysbennu yw pan fydd ymarferwyr o Les Emosiynol a Iechyd Meddwl yn gwneud penderfyniad ynglŷn â beth fydd yn digwydd i’ch atgyfeiriad. Efallai y bydd angen iddynt ofyn i chi, eich teulu neu’ch atgyfeiriwr am ragor o wybodaeth i ddeall yn llawn beth sy’n digwydd yn eich bywyd.   

 

Efallai bod timau neu sefydliadau eraill mewn sefyllfa well i ddiwallu eich anghenion.  Os felly, byddwn yn esbonio pam a naill ai’n rhoi eu gwybodaeth gyswllt i chi neu’n gofyn i chi a allwn rannu eich gwybodaeth â nhw’n uniongyrchol.  

 

Mae Bwlimia yn anhwylder bwyta sy’n gallu gwneud i bobl deimlo nad oes ganddynt reolaeth dros eu bwyta na’u perthynas â bwyd. 

 

Gallant geisio adennill y rheolaeth hon drwy fwyta llawer o fwyd ar unwaith (binjio) a chael gwared arno’n gyflym (puro) drwy wneud llawer o ymarfer corff, taflu fyny neu ddefnyddio moddion gweithio’r corff.   

Bwlio yw pan fydd unigolyn neu grŵp o bobl yn achosi niwed i unigolyn neu grŵp arall.  

 

Mae llawer o fathau gwahanol o fwlio. Gall gynnwys trais corfforol (e.e. taro), cam-drin geiriol (e.e. galw enwau, bwrw sen) ac ynysu (peidio â chynnwys pobl mewn sefyllfaoedd cymdeithasol). Gall ddigwydd yn bersonol neu ar-lein (gelwir hyn yn seiberfwlio).   

 

Ewch i’n tudalen ar fwlio am fwy o wybodaeth ac adnoddau. 

Caethiwed yw pan fydd person yn mynd yn gaeth i sylwedd neu weithred benodol. Efallai y bydd angen mwy arno i gael yr un effaith (goddefiant) neu bydd yn ddioddef pan nad yw ar gael (diddyfnu).  

 

Mae enghreifftiau cyffredin o gaethiwed yn cynnwys cyffuriau, alcohol a gamblo.  

Cam-drin corfforol yw pan fydd person yn achosi anaf bwriadol neu drawma i rywun arall drwy gyswllt corfforol.  Nid damwain yw hon.  Gall ddigwydd unwaith yn unig neu ddigwydd yn aml.   

 

Cofiwch, os bydd rhywun yn eich cam-drin yn gorfforol, nid eich bai chi ydyw ac nid ydych yn ei haeddu.  Does gan neb yr hawl i wneud i chi deimlo’n ddrwg mewn unrhyw ffordd.  Nid oes dim a wnewch yn gwneud i chi haeddu niwed ac nid eich bai chi ydyw byth. 

 

Os ydych chi’n meddwl eich bod, neu wedi cael eich cam-drin yn gorfforol, rydym yn argymell eich bod yn siarad ag oedolyn dibynadwy fel athro neu feddyg teulu. Gall plant a phobl ifanc hefyd siarad â Childline.  Gall oedolion gysylltu â’r NSPCC os ydynt yn poeni am blentyn neu berson ifanc. 

Mae cam-drin emosiynol yn golygu darostwng rhywun, gweiddi arnyn nhw, eu hanwybyddu, eu bychanu neu wneud iddyn nhw deimlo’n ddrwg amdanynt eu hunain.   

 

Mae cam-drin emosiynol yn aml yn rhan o fathau eraill o gam-drin (fel cam-drin corfforol), sy’n gallu ei gwneud yn anodd adnabod yr arwyddion, ond gall hefyd ddigwydd heb unrhyw fathau eraill o gamdriniaeth.   

 

Mae’n bwysig cofio nad oes gan unrhyw un yr hawl i wneud i chi deimlo’n wael, ac os ydyn nhw, nid eich bai chi ydyw. Mae gan Go to ChildLine ragor o wybodaeth am gam-drin emosiynol yma:  

Cam-drin rhywiol yw pan fydd rhywun yn cael ei orfodi, ei bwyso arno neu ei dwyllo i gymryd rhan mewn unrhyw fath o weithgaredd rhywiol. Gall hefyd gynnwys camfanteisio rhywiol.  

 

Ni all neb dan 16 oed gydsynio i weithgarwch rhywiol – mae hyn yn golygu bod unrhyw weithredoedd rhywiol gyda phobl o’r oedran hyn yn anghyfreithlon.  

 

Ewch i Childline i gael rhagor o wybodaeth  

Defnyddir y gair canlyniad i ddisgrifio a yw ymyriad yn gweithio i blentyn neu berson ifanc.  

 

Canlyniad da fyddai pan fydd ymyriad yn helpu.  Er enghraifft, pe bai therapi siarad yn gwneud i chi deimlo’n fwy hyderus i fynd i’r ysgol. Canlyniad gwael yw pan na fydd ymyriad yn helpu.   

 

Canlyniad gwael yw pan na fydd ymyriad yn eich helpu i gyrraedd eich amcanion.   

Mae canmoliaeth yn beth hyfryd i’w gael, a gobeithiwn y cewch chi beth gan bobl bwysig o’ch cwmpas am yr holl rinweddau sydd gennych chi. 

Rydym am wella pan fyddwn wedi gwneud rhywbeth o’i le, ond rhowch wybod i ni hefyd pan fyddwn wedi gwneud pethau’n dda drwy gysylltu â ni.   

Mae claf allanol yn berson sy’n cael triniaeth mewn ysbyty neu ganolfan heb aros yno dros nos.   

 

Er enghraifft, pe baech yn dod i Ysbyty Dewi Sant i gael sesiwn gyda’ch ymarferydd, byddech yn glaf allanol.   

Claf mewnol yw rhywun sy’n dod i ysbyty neu ganolfan ar gyfer diagnosis, cymorth neu driniaeth ac ac sydd angen arhosiad dros nos.   

Creisis neu argyfwng iechyd meddwl yw pan fyddwch yn teimlo eich bod angen help rhywun ar frys.  

 

Os ydych chi neu rywun arall yn mynd drwy argyfwng ar hyn o bryd, ewch i Mae angen help arna i nawr i weld eich opsiynau a sut i gysylltu â rhywun a all eich helpu.  

 

Os derbynnir eich atgyfeiriad gan y tîm Cyswllt Argyfwng, cynigir asesiad i chi o fewn 48 awr.   

Mae cwnsela yn air sy’n cael ei ddefnyddio’n aml i ddisgrifio therapïau siarad yn gyffredinol, felly mae cwnselydd yn therapydd sydd wedi’i hyfforddi i wrando arnoch chi a’ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â materion emosiynol.  Gallwch gael mynediad at gwnselydd os ydych mewn ysgol, neu drwy eich meddyg teulu (neu sefydliadau trydydd sector) os ydych dros 18 oed. 

Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn, dylech ofyn am gael gweld y polisi cwynion.  Gellir gweld polisi’r Grŵp Gofal Lles Emosiynol a  Iechyd Meddwl yma ond byddem bob amser yn eich annog i siarad â’r person rydych yn gweithio gydag ef yn gyntaf, neu ofyn am gael siarad â’i reolwr, gan mai dyma’r cam mwyaf defnyddiol weithiau. 

Os byddwch yn rhoi cydsyniad, mae’n golygu eich bod yn dweud y gall rhywbeth ddigwydd.  O ran Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, mae’n golygu bod yn rhaid i chi neu warcheidwad gytuno  cyn y gall unrhyw ymarferydd sy’n gofalu am eich iechyd eich gweld neu eich trin.  

 

Os ydych yn 16 neu’n 17 oed tybir y byddwch yn gallu rhoi cydsyniad.  Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i’ch ymarferydd ofyn i’ch rhieni na’ch gofalwyr am gydsyniad hefyd.  

 

Os ydych o dan 16 oed, efallai y byddwch yn dal i allu rhoi cydsyniad cyn belled â’ch bod yn gallu deall beth sy’n gysylltiedig.  Bydd eich ymarferydd yn siarad â chi, yn esbonio beth fydd yn digwydd a sut y gallai wneud i chi deimlo.  Os ydynt yn credu eich bod yn deall yr hyn sy’n gysylltiedig, yna byddwch yn gallu rhoi cydsyniad a gwneud y penderfyniad i gael y driniaeth.   

 

Hyd yn oed os na allwch roi cydsyniad, bydd eich ymarferydd yn siarad â chi am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd, a bydd hefyd yn siarad â’ch rhiant neu ofalwr am yr hyn sydd er eich lles gorau.   

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru ar gydsyniadd mewn gofal iechyd

Cyfeirio yw pan fyddwch yn cael gwybodaeth am wasanaeth a allai eich helpu neu’n cael eich cyfeirio ato. 

 

Mae llawer o wasanaethau ar draws Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol. Nid oes yr un o’r rhain yn well nag unrhyw un arall – mae’n ymwneud â’r heriau yr ydych yn eu hwynebu a’r hyn sydd ei angen arnoch.  

 

Pan fyddwch yn cwrdd ag un o’n hymarferwyr, os nad ni yw’r bobl iawn i’ch helpu, byddant yn eich cyfeirio at wasanaeth sy’n fwy addas i ddiwallu eich anghenion.  

 

Ewch i’n tudalen Adnoddau Lleol i gael gwybod am sefydliadau eraill sy’n gallu eich cefnogi yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.  

Pan fyddwch yn ceisio cymorth gyda’ch lles emosiynol, mae cyfrinachedd yn golygu bod yn rhaid i’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhannu â’r bobl sy’n eich cefnogi aros yn breifat ac na ddylid ei  rhannu ag unrhyw un arall heb eich caniatâd (cytundeb).

 

Fodd bynnag, mae hyn yn berthnasol os oes gan y gweithiwr proffesiynol yr ydych yn gweithio gydag ef bryderon am eich diogelwch neu ddiogelwch person arall.

Cymorth cynnar yw pan fydd problemau neu heriau’n cael eu nodi a’u cefnogi’n gynnar.  Gall cael cymorth yn gynnar leihau’r effaith y bydd y broblem yn ei chael ar fywyd person.   

 

Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar penodol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n cael eu rhedeg gan y cynghorau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.   

Pan fydd person yn cael ei dderbyn i’r ysbyty am driniaeth.

Gwneir cynllun pontio ar gyfer unrhyw fath o newid o Les Emosiynol a Iechyd Meddwl.  Bydd yn cael ei wneud gan y person ifanc a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi.  

 

Mae enghreifftiau o bontio’n cynnwys gadael Lles Emosiynol a Iechyd Meddwl pan nad oes angen cymorth ar berson ifanc mwyach neu symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion unwaith y bydd person ifanc yn 18 oed.  

Defnyddio sylweddau yw defnyddio cyffuriau at ddibenion hamdden.

 

Mae bob amser yn well cael gwybod am gyffuriau a sut y gallant effeithio ar eich corff a’ch meddwl.  Anfonwch neges destun neu ffoniwch DAN 247 am fwy o wybodaeth

Mae defnyddiwr gwasanaeth yn berson sy’n defnyddio cyngor neu wasanaethau gwasanaeth neu sefydliad.  Weithiau defnyddir y gair ‘claf’ yn lle hynny.

 

Os ydych chi ar y wefan hon neu’n cael cymorth drwy Wasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, rydych chi’n un o’n defnyddwyr gwasanaeth.

Mae diagnosis yn ffordd o ddisgrifio cyfuniad o symptomau a ddangosir gan berson pan fyddant yn gofyn am help.  Mae’n ffordd fer o ddisgrifio profiadau, ac mae’n helpu ymarferwyr i ymchwilio i’r hyn sy’n gweithio i bwy, esbonio pam mae rhywbeth yn digwydd a chynnig cyngor neu gymorth i helpu.

 

Nid pawb sy’n wynebu heriau iechyd meddwl sy’n cael diagnosis.  Nid yw hyn yn gwneud eu profiad yn llai dilys na phobl sydd â diagnosis meddygol.

Mae diogelu’n gyfrifoldeb i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau bod pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel.

 

Os oes gan weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda chi bryderon bod rhywun yn eich niweidio neu eich bod yn niweidio eich hun neu berson arall, mae ganddynt gyfrifoldeb i rannu’r wybodaeth honno i’ch cadw’n ddiogel.

 Gall dyddiadur bwyd helpu person i olrhain sut mae’r bwyd y mae’n ei fwyta yn effeithio ar ei hwyliau a’i ymddygiad. Os byddwch yn nodi’r hyn rydych yn ei fwyta a’i yfed, yn ogystal â’ch iechyd meddwl a chorfforol bob dydd, efallai y byddwch yn gallu gweld patrymau a allai fod yn effeithio ar eich lles.

Dysfforia rhywedd yw pan fydd person yn teimlo nad yw eu rhyw biolegol a’u hunaniaeth o ran rhywedd yn cydweddu (er enghraifft, person a anwyd gydag organau rhywiol benywaidd yn adnabod ei hun fel dyn).

 

Bydd ein Gwasanaethau Lles Emosiynol a Iechyd Meddwl yn helpu i drafod y materion hyn gyda chi ac yn rhoi gwybod i chi pa wasanaethau all eich cefnogi.

 Mae emosiynau’n cynnwys teimladau da a drwg.  Mae’n arferol profi teimladau da a drwg yn ystod eich bywyd o ddydd i ddydd.

 

Gall emosiynau fod yn ddryslyd.  Rydym weithiau’n teimlo sawl emosiwn ar yr un pryd.

 

Cliciwch yma i weld ffilm fer ar YouTube i gael rhagor o wybodaeth am deimladau bob dydd.

Mae ffobia yn ofn eithafol o wrthrych, person, lle neu sefyllfa.  Fel arfer, bydd pobl yn ceisio osgoi beth bynnag y mae arnynt ofn ohono, a gall ei weld neu fod yn agos ato wneud iddynt deimlo’n sâl, yn sigledig neu roi’r bendro iddynt.

 

Mae ffobias yn aml yn gysylltiedig â phryder a gellir eu trin ag amrywiaeth o ymyriadau.

Mae ffactorau amddiffynnol yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag risgiau i’w lles emosiynol ac yn lleihau eu siawns o fynd yn sâl yn feddyliol.

 

Gall ffactorau amddiffynnol ddod o’r unigolyn (er enghraifft, eu natur), eu teulu, eu cymuned a’u hysgol.

 Yn gyffredinol, mae galar yn golygu tristwch dwfn, a brofir fel arfer wrth golli rhywbeth, neu wrth golli rhywun yn fwy penodol.

 

Er ei fod yn aml yn gysylltiedig â thristwch, gall galar fod yn llawer o emosiynau; ond mae galar yn cael ei deimlo gan amlaf gennym ni ar ôl i rywun rydyn ni’n ei garu farw.

Mae gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn canolbwyntio ar anghenion y plentyn neu’r person ifanc sy’n cael cymorth.  Mae hyn yn golygu bod eich dewisiadau, eich anghenion a’ch barn yn cael eu hystyried a’ch bod yn ymwneud ag unrhyw benderfyniadau am eich gofal.

 

Rydych chi a’ch ymarferydd yn dîm. Rydych chi’n gwybod eich hun orau, felly mae eich persbectif a’ch gwybodaeth yn bwysig iawn.  Gan gydweithio â’ch ymarferydd, dylech allu nodi’r hyn sy’n digwydd a chreu rhai amcanion ar gyfer eich triniaeth a’ch dyfodol y tu hwnt i hynny.

Rhywun rhwng 18 a 25 oed sy’n gofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â heriau iechyd meddwl neu sy’n gaeth i gyffuriau neu alcohol.

Mae gofalwr yn berson sy’n gofalu am rywun sy’n cael trafferth gydag anhwylder, caethiwed, problem iechyd meddwl neu anabledd. Gallai gofalwr fod yn gofalu am riant neu warcheidwad, brawd neu chwaer, partner neu ffrind.

 

Gall plant a phobl ifanc fod yn ofalwyr ifanc ond heb sylweddoli hynny. Gallent fod yn gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl neu sydd angen cymorth.

 

Mae gofalu am anwyliaid yn gyfrifoldeb ychwanegol ym mywyd rhywun.  Ewch i’n tudalen ar ofalwyr ifanc i gael rhagor o wybodaeth.

Rhywun o dan 18 oed sy’n gofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â heriau iechyd meddwl neu sy’n gaeth i gyffuriau neu alcohol.

 

Ewch i’n tudalen ar ofalwyr ifanc i gael rhagor o wybodaeth.

Hypochondria yw pan fyddwch chi’n treulio cymaint o amser yn poeni eich bod chi’n sâl, neu eich bod yn mynd i fynd yn sâl, fel ei fod yn dechrau cymryd drosodd eich bywyd.

 

Mae’r symptomau’n cynnwys poeni’n gyson am eich iechyd, gwirio eich corff yn aml am arwyddion o salwch a phoeni y gallai eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol fod wedi colli rhywbeth.

 

Mae Hypochondria yn aml yn gysylltiedig â phryderon eraill.

Gelwir bod yn anarferol o egnïol, i’r pwynt lle mae’n anodd aros yn llonydd neu ganolbwyntio, yn orfywiogrwydd. Gall ymddygiad gorfywiog hefyd fod yn ymosodol ac yn fyrbwyll, sy’n gallu gwneud pethau’n anodd yn yr ysgol, yn y cartref neu yn y gwaith ac yn rhoi straen ar berthnasoedd.

 

Mae gorfywiogrwydd yn aml yn gysylltiedig ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd.

Mae gan bobl ifanc hawliau yn union yr un fath ag  oedolion – mewn gwirionedd, mae ganddynt fwy o hawliau i’w helpu i dyfu a datblygu’n dda!

 

Pan fydd person ifanc yn cael cymorth ar gyfer eu lles emosiynol, mae’n bwysig iawn eu bod yn teimlo eu bod yn gallu siarad am yr hyn sydd o’i le a’r hyn y maent am ei wneud yn ei gylch. Dylid eu grymuso hefyd i’w helpu i wneud penderfyniad ar beth i’w wneud nesaf.

 

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo hawliau, safbwyntiau a buddiannau plant a phobl ifanc yng Nghymru.  Mae llawer o adnoddau ar gael ar eu gwefan.

 

Helpodd ein Bwrdd Ieuenctid hefyd i ddatblygu’r fideo hwn am hawliau plant.

Math o gymorth yw gwaith grŵp lle mae pobl sy’n wynebu heriau lles emosiynol yn cwrdd â’i gilydd.  Yr un grŵp o bobl yw hyn fel arfer, sy’n golygu y gallant wneud ffrindiau a siarad am bethau sy’n bwysig iddynt neu sy’n effeithio ar eu bywydau.   Bydd gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol fel arfer yn arwain y sesiynau hyn.

 

Mae gwaith grŵp yr un mor bwysig a defnyddiol â sesiynau unigol.  Efallai y byddwn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn sesiynau grŵp fel rhan o’ch cefnogaeth gennym ni.

‘Gwneud penderfyniadau ar y cyd’ yw pan fydd person ifanc yn gweithio gyda’i ymarferydd i wneud penderfyniadau am eu gofal sy’n teimlo’n iawn iddyn nhw.

 

Er bod gan weithiwr proffesiynol arbenigedd mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, fel person ifanc chi yw’r arbenigwr ynoch chi eich hun ac yn y sefyllfa orau i ddweud pa heriau rydych chi’n eu hwynebu a beth rydych chi am ei gyflawni.

Gwybodaeth bersonol yw gwybodaeth am berson, gan gynnwys ei enw, oedran, cyfeiriad, hanes meddygol ymhlith eraill.

 

Dylid cadw’r wybodaeth hon yn breifat o dan reoliad yn y DU o’r enw Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).  Dim ond y rhai sydd wedi’u hawdurdodi i wneud hynny all gael gafael ar wybodaeth bersonol.

 

Gwybodaeth bersonol yw gwybodaeth am berson, gan gynnwys ei enw, oedran, cyfeiriad, hanes meddygol ymhlith eraill.

 

Dylid cadw’r wybodaeth hon yn breifat o dan reoliad yn y DU o’r enw Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).  Dim ond y rhai sydd wedi’u hawdurdodi i wneud hynny all gael gafael ar wybodaeth bersonol.

Mae gwydnwch yn bwnc mawr iawn, gyda llawer o ddiffiniadau gwahanol.  Yn fyr, mae’n ymwneud â sut rydych chi’n ymdopi â phethau.

 

Mae gwydnwch yn cynnwys adnoddau y tu mewn i chi (e.e. sgiliau ymdopi, sut rydych chi’n ymateb i bethau) ac o’ch cwmpas (e.e. teulu, ffrindiau, ysgol, perthnasoedd) i’ch helpu i ymdopi, adfer a bownsio’n ôl o heriau yn eich bywyd.

 

Gall eich gwydnwch newid dros eich bywyd – mae’r cyfan yn dibynnu ar yr adnoddau y mae gennych fynediad atynt ar y pryd.

Rydym yn defnyddio holiaduron i helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu lles emosiynol presennol, yr effaith y mae hyn yn ei chael ar eu bywyd a’u profiad o’r cymorth y maent yn ei gael.

 

Y nod yw deall sut mae’r cymorth y maent yn ei gael yn helpu’r person ifanc, ac i sicrhau ei fod o ansawdd uchel.

Hunan-niweidio yw pan fydd person yn brifo ei hun yn bwrpasol.

Mae angen help arna i nawr!

 

Hunanladdiad yw pan fydd person yn gwneud amdano’i hun.  Mae llawer o resymau pam y mae pobl yn dewis gwneud hyn.  Mae gan bawb brofiadau bywyd gwahanol a byddant yn ymateb i bethau’n wahanol.

 

Nid ydym bellach yn defnyddio’r ymadrodd ‘cyflawni hunanladdiad’ oherwydd mae hyn yn awgrymu bod hunanladdiad yn drosedd, ac nid yw hynny’n wir.  Yn hytrach, dywedwn fod rhywun wedi marw drwy hunanladdiad.

 

Mae PAPYRUS UK yn cynnal HOPELINEUK ar gyfer unrhyw un yr effeithir arno gan hunanladdiad. Mae ganddynt hefyd lawer o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

 

Ewch i Mae Angen Help Arna i Nawr!  Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn teimlo’n hunanladdol ac angen siarad â rhywun.  Mae rhywun i wrando bob amser.

Hunanofal yw’r gwahanol ffyrdd y gall person gynnal ei les emosiynol a chorfforol neu i helpu ei hun i wella.  Mae hyn yn cynnwys pethau fel ymarfer corff yn aml a bwyta bwydydd iach.

 

Mae gennym adran gyfan ar ofalu am eich lles yma.

 Mae iselder yn fwy na theimlo’n anhapus am ychydig ddyddiau – gall bara am gyfnodau hir a gall ymyrryd o ddifrif â’ch bywyd o ddydd i ddydd.  Gall y meddyliau negyddol ymddangos yn amhosibl eu goresgyn a’i gwneud yn anodd cwblhau tasgau syml bob dydd.

Mae LHDTC+ yn cynrychioli pobl ‘Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol a Chwiar’. Mae’r ‘+’ yn cynnwys unrhyw rywioldeb neu ryw arall y gallai pobl fod yn uniaethu ag ef.

 

Nid yw bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ yn gyflwr iechyd meddwl. Fodd bynnag mae teimlo’n wahanol neu gael eich bwlio am fod yn LHDT+ yn gallu cael effaith ar eich iechyd meddwl.

 

Dysgwch fwy yn Stonewall Ifanc 

Mae Mania yn deimlad o fod yn ‘uchel’ iawn gyda llawer o egni a brwdfrydedd.  Mae hyn yn wahanol i fod mewn hwyliau da arferol gan fod y teimladau’n fwy dwys ac yn para’n barhaus am amser hir.

 

Gall Mania ymddangos ar ei ben ei hun neu fel symptom o anhwylder deubegynol.

Yn gyffredinol, mae meddygaeth yn golygu nodi, trin ac atal salwch. Mae hyn yn berthnasol i iechyd corfforol a meddyliol.

 

Gellir ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio meddyginiaeth.

Gall rhai mathau o anawsterau iechyd meddwl ymateb i driniaeth gan gynnwys defnyddio cyffuriau neu feddyginiaeth.  Gall meddyginiaeth helpu gyda chyflyrau fel iselder, seicosis, anhwylder deubegynol a phryder.

 

Fodd bynnag, nid yw’n iawn i bawb, ac mae hyn yn rhywbeth y gall eich ymarferydd siarad â chi amdano.  Anaml iawn y bydd meddyginiaeth yn unig yn ‘ateb cyflym’ ar gyfer problemau iechyd meddwl, felly fel arfer caiff ei chyfuno â mathau eraill o gymorth megis therapi siarad neu waith grŵp.

 

Mae gan Young Minds adran ar feddyginiaethau, gan gynnwys llyfryn lliwgar ar feddyginiaeth a chyngor ar sut i benderfynu a yw meddyginiaeth benodol yn iawn i chi.

https://www.youngminds.org.uk/young-person/medications

Mae angen help arna i nawr!

 

Meddyliau hunanladdol yw pan fydd person yn meddwl am hunanladdiad.  Gall y meddyliau hyn effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg.  Mae meddyliau am hunanladdiad yn gyffredin – mae 1 o bob 4 o bobl ifanc yn profi meddyliau hunanladdol ar ryw adeg.

 

Gall pobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth, sydd wedi profi cam-drin, sydd mewn gofal neu sydd â heriau iechyd meddwl fod yn fwy agored i brofi meddyliau hunanladdol.

 

Gall clywed bod rhywun rydych chi’n ei garu yn teimlo fel lladd ei hun, beri gofid.  Mae’n ddewr iawn i rywun agor i fyny a siarad am eu teimladau, yn enwedig os ydyn nhw’n cael meddyliau am hunanladdiad. Bydd gwrando ar y person hwnnw yn eich helpu i ddeall pam eu bod yn teimlo felly ac yn eu helpu i symud ymlaen.

 

Mae PAPYRUS UK yn cynnal HOPELINEUK ar gyfer unrhyw un sydd â meddyliau hunanladdol neu unrhyw un sy’n poeni amdanynt. Mae ganddynt hefyd lawer o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi, gan gynnwys cynlluniau diogelwch, technegau ymdopi a chanllaw i rieni.

 

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn cael meddyliau hunanladdol, mae rhywun y gallwch chi siarad ag e bob amser.  Ewch i Mae Angen Help Arna i Nawr! i gael gwybod mwy.

 

Gallwch hefyd fynd i’n tudalen ar feddyliau hunanladdol i gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau.

Mentora cymheiriaid yw pan fydd person sydd â phrofiad yn gweithredu fel gwrandäwr a rhywun i gefnogi person arall sy’n wynebu sefyllfa debyg. Maent yn deall beth mae’r person yn mynd drwyddo a gallant eu helpu i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywyd.

Mae mesur canlyniadau’n ffordd o weld a yw ymyriad yn cael effaith. Gallai’r effaith fod yn unrhyw effaith ar symptomau, sut mae person yn gweithredu yn ei fywyd neu’r nodau y maent yn anelu at eu cyflawni.

 

Gellir defnyddio mesur canlyniadau i gofnodi’r newid i unigolyn, grŵp (fel ystod oedran) neu boblogaeth (fel ysgol neu ardal benodol).

 

Defnyddir holiaduron yn aml i gofnodi mesur canlyniadau – gall plant, pobl ifanc, aelodau o’r teulu, ymarferwyr, athrawon neu bobl eraill sy’n ymwneud â chefnogi plentyn neu berson ifanc eu llenwi.

 

Efallai y byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur yn ystod eich taith gyda ni.  Mae rhannu eich syniadau gyda ni yn ddefnyddiol iawn – mae’n dweud wrthym a yw eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth i chi a gall ein helpu i wella’r profiad yr ydych chi a phobl ifanc eraill yn ei gael gyda’n gwasanaeth.

 Nodau yw’r pethau rydych am eu cyflawni drwy weithio gyda gweithiwr proffesiynol neu wasanaeth.

 

Bydd y gweithiwr proffesiynol neu’r gwasanaeth rydych yn gweithio gydag ef yn eich helpu i osod nodau cyraeddadwy a bydd yn gwirio’n gyson a yw eu hymwneud yn eich helpu i wneud cynnydd tuag at y pethau rydych chi wir eisiau cymorth gyda nhw.

 

Mae gallu gosod a gweithio tuag at nodau yn sgil bywyd pwysig iawn.

 Yn gyffredinol, mae fflachiadau’n rhoi’r teimlad i rywun eu bod yn ail-fyw profiad yn y gorffennol.  Gallai hyn fod yn olygfeydd, yn synau neu’n deimladau sy’n eu hatgoffa o’r hyn a ddigwyddodd.

 

Gall hyn fod yn frawychus iawn oherwydd mae’n anodd rheoli pan allent ddigwydd a sut maent yn effeithio arnoch chi, a gall y profiad blaenorol fod yn gysylltiedig â rhai atgofion poenus.

Mae PaPhI yn ffurf gryno ar ‘Plant a phobl ifanc’.

Mae plant sy’n derbyn gofal yn derm a ddefnyddir i gyfeirio at blant a phobl ifanc sy’n byw yng ngofal yr awdurdod lleol.  Gallai hyn fod gyda gofalwyr maeth neu mewn lleoliad preswyl.

Mae PPITh yn ffurf gryno ar ‘Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd’.

Mae bod i fyny ac i lawr yn rhan o fywyd, ac rydym i gyd yn cael dyddiau da a dyddiau gwael. Pan fydd meddyliau a theimladau negyddol yn dechrau effeithio ar eich bywyd bob dydd ac yn eich atal rhag gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau fel arfer, mae hwn yn arwydd y gallai fod angen rhywfaint o gymorth arnoch gyda’ch iechyd meddwl.

 

Mae llawer o resymau pam y gallem ddechrau cael trafferth gyda’n hiechyd meddwl, gan gynnwys pethau anodd sy’n digwydd yn eich bywyd, profiadau trawmatig yn y gorffennol neu broblemau perthynas. Weithiau does dim achos, ac mae hynny’n iawn.

 

Beth bynnag yw’r rheswm, cofiwch nad eich bai chi yw hyn ac y gall pethau wella.  Mae yna bobl sydd eisiau gwrando arnoch chi a’ch helpu chi.

 

Weithiau rydym yn cymharu ein hunain ag eraill ac yn meddwl tybed pam nad ydyn nhw’n ffeindio pethau mor heriol. Rydyn ni i gyd yn profi gwahanol bethau, ac yn ymateb i bethau’n wahanol – felly bydd y gefnogaeth gywir yn edrych yn wahanol i bawb.  Efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i’ch ffrind yn gweithio i chi, ac mae hynny’n iawn!

Rydyn ni’n dweud bod rhywun wedi profi profedigaeth os oes rhywun maen nhw’n ei adnabod wedi marw.

 

Mae’n arferol i rywun sydd wedi profi profedigaeth deimlo cymysgedd o emosiynau – does dim rheolau ynghylch sut y dylai rhywun deimlo nac am ba hyd.

 

Nid yw profi profedigaeth ei hun yn broblem iechyd meddwl – ond gallai’r teimladau dwys y gallai rhywun eu profi sbarduno problem iddynt.

 

Ewch i’n tudalen ar brofedigaeth am fwy o wybodaeth ac adnoddau.

Mae PPNau yn ddigwyddiadau trawmatig, yn enwedig y rheiny yn ystod plentyndod sy’n gallu effeithio ar iechyd a lles.

 

Mae enghreifftiau’n cynnwys dod i gysylltiad â thrais, rhiant sy’n wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl neu gam-drin plant.

 

Mwy o wybodaeth

Gall pwl o banig olygu diffyg anadl, poenau yn y frest, pendro a chyfradd gyflym y galon. Maen nhw’n arwydd bod rhywun yn ofnus iawn neu’n bryderus am rywbeth.  Mae’n bosib bod y person yn ofni sefyllfa benodol neu efallai na fydd unrhyw beth yn sbarduno’r pwl o banig.

 

Mae pyliau o banig yn gyffredin iawn – bydd tua 1 o bob 3 person yn profi un ar ryw adeg o’u bywyd.

 

Gall pyliau o banig fod yn frawychus iawn ond nid ydynt yn beryglus. Rhowch gynnig ar rai o’r ymarferion anadlu a gwreiddio ar ein tudalen am banig – bydd y symptomau’n pasio yn y pen draw.

Mae rhithdyb yn gred gydag argyhoeddiad cryf hyd yn oed pan fo tystiolaeth yn dangos nad yw’n wir.

Rhithweledigaeth yw pan fydd rhywun yn gallu gweld, clywed, arogli, blasu neu deimlo rhywbeth na all pobl eraill ei wneud. Enghraifft o hyn yw os yw rhywun yn dweud y gallant glywed lleisiau na all neb arall eu clywed.

 

Gall rhithweledigaethau fod yn arwydd o salwch meddwl (fel seicosis), ond gallant hefyd ddigwydd mewn pobl sy’n iach, yn aml pan fyddant yn teimlo’n swrth. Gall cyffuriau rhithbair fel LSD hefyd achosi rhithweledigaethau.

Defnyddir rhybuddion sbarduno i rybuddio pobl y gallai rhywfaint o gynnwys achosi ymateb emosiynol cryf ac i fwrw ymlaen yn ofalus.  Fel arfer, cânt eu cyhoeddi ar ddechrau erthygl neu fideo i roi cyfle i bobl benderfynu a ydynt am barhau i ddarllen neu edrych ar y cynnwys.

Rhyddhau cleifion yw pan fydd triniaeth neu ofal person wedi’i gwblhau.  Mae hyn yn gadarnhaol gan ei fod yn dangos eich bod wedi gwneud cynnydd tuag at eich nodau.

 

Pan fyddwch yn cael eich rhyddhau gan ein timau, byddant yn sicrhau bod gennych adnoddau i’ch helpu i barhau i gefnogi eich lles emosiynol a manylion cyswllt ynghylch ble i fynd neu â phwy i gysylltu os oes angen help arnoch eto.

Mae rhywioldeb yn cyfeirio at gyfeiriadedd neu ddewis rhywiol person (gweler LHDTC+ am ragor o wybodaeth).  Nid yw hyn yr un fath â rhyw person.

Gall risg olygu llawer o bethau, ond ym maes iechyd meddwl mae’n golygu bod yn agored i berygl.

 

Gall rhai mathau o risgiau (er enghraifft, profi cam-drin emosiynol neu ddigwyddiad trawmatig) wneud person yn fwy tebygol o ddatblygu anhawster iechyd meddwl.

 

Rydym hefyd yn ceisio meddwl a yw pobl yn berygl neu’n risg iddynt hwy eu hunain neu i eraill, a rhoi cynlluniau ar waith i helpu i’w diogelu nhw ac eraill.

Mae seiber-fwlio yn fwlio sy’n digwydd ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n cael ei wneud yn ddienw yn aml, sy’n golygu nad yw’r person sy’n gyfrifol yn dweud wrthych pwy ydyn nhw, sy’n gallu teimlo’n wirioneddol frawychus ac ynysig.

 

Ewch i’n tudalen ar fwlio am fwy o wybodaeth ac adnoddau.

Meddyg yw seiciatrydd sydd wedi gwneud hyfforddiant penodol ar weithio gyda phlant, pobl ifanc ac ar iechyd meddwl mewn teuluoedd. Bydd seiciatrydd yn aml yn ystyried a fyddai meddyginiaeth o gymorth i chi, neu’n gweithio gyda chi os oes angen gofal mwy cymhleth arnoch

 Gweler Seicolegydd clinigol

 Gall Ymarferwyr Seicoleg helpu gydag amrywiaeth o broblemau emosiynol, ymddygiadol, datblygiadol ac iechyd meddwl mewn plant, pobl ifanc ac mewn teuluoedd.

 

Er bod rhai ymarferwyr seicoleg hefyd yn therapyddion hyfforddedig, nod ymarferwyr seicoleg  yw asesu a helpu gyda gweithrediad seicolegol, lles emosiynol a datblygiad plant drwy ddealltwriaeth dda o’r broblem (a elwir fel arfer yn asesu), a cheisio meddwl ble orau i helpu (felly gallent weithio gyda’ch teulu, ysgol, grwpiau) felly gall hyn edrych ychydig yn wahanol i therapi, ond gall dal i fod yn therapiwtig.

Mewn pennod seicotig, mae person yn colli cysylltiad â realiti fel y mae eraill yn ei weld.  Efallai y byddant yn clywed lleisiau, yn gweld neu’n teimlo pethau nad ydynt yno neu’n credu pethau nad ydynt yn gwneud synnwyr.  Gall hyn fynd ymlaen am sawl wythnos.

 

Mae’n eithaf cyffredin i bobl weld neu glywed pethau pan fydd ganddynt anawsterau eraill megis pryder. Mae’n bwysig os ydych chi’n profi’r symptomau hyn i gael help ar unwaith.  Bydd hyn yn aml yn dod gan CAMHS sy’n gweithio gyda Headroom i gefnogi pobl â seicosis.

 

Gall seicosis fod yn frawychus ond mae modd ei drin.  Ewch i Young Minds i gael gwybod mwy.

Stigma yw’r ffordd negyddol y mae cymdeithas yn gweld rhywbeth.

 

Mae stigma wedi bod i iechyd meddwl ers blynyddoedd gan nad oedd llawer o bobl yn sylweddoli ei fod mor bwysig ag iechyd corfforol i les unigolyn. Wrth i amser fynd yn ei flaen a mwy o bobl yn siarad amdano, mae’r stigma ynghylch iechyd meddwl a cheisio cymorth ar ei gyfer, yn lleihau.

 

Fel y genhedlaeth i’r dyfodol, mae gan bobl ifanc y pŵer i newid agweddau ar iechyd meddwl. Mae rhagor o wybodaeth yma

Gall straen gyfeirio at sefyllfaoedd sy’n rhoi pwysau arnom ni neu ein hymateb i gael ein rhoi dan bwysau.

 

Mae bod dan bwysau yn rhan arferol o fywyd – gall eich helpu i weithredu a theimlo’n fwy egnïol.  Ond os yw’r teimladau hyn yn eich llethu, gallent ddechrau bod yn broblem.

 

Nid yw straen yn broblem iechyd meddwl, ond mae wedi’i chysylltu’n agos â’ch iechyd meddwl.  Gall straen achosi problemau gyda’ch iechyd meddwl, a gall problemau iechyd meddwl hefyd achosi straen.

 

Dros amser, gall lefelau isel o straen gronni a gadael y corff wedi blino’n lân – yn feddyliol ac yn gorfforol. Mae symptomau corfforol yn cynnwys cur pen, cyfradd curiad y galon uwch a stumog tost.

 

Mae ffyrdd o ymdopi â straen yn cynnwys gofalu amdanoch eich hun a siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo ynglŷn â sut rydych chi wedi bod yn teimlo.

  Mae syndrom Tourette yn gyflwr sy’n achosi i berson wneud synau a symudiadau anfwriadol o’r enw ‘tics’. Gall straen, pryder a blinder wneud y tics yn fwy dwys neu aml.

 

Cewch fwy o wybodaeth ar wefan y GIG.

Math o ymyriad yw therapi i helpu pobl.  Mae llawer o fathau gwahanol o therapi.  Cynigir therapi gan lawer o wahanol wasanaethau.

 

Yn y gwasanaeth Lles Emosiynol a Iechyd Meddwl, rydym yn cynnig therapïau i helpu gydag anhwylderau iechyd meddwl. Mae cwnselwyr mewn ysgolion yn cynnig therapïau am hunan-barch, straen a digwyddiadau bywyd.

 

Bydd eich therapydd yn siarad â chi am yr hyn rydych chi’n mynd i’w wneud, pa mor aml rydych chi’n mynd i gyfarfod a beth i’w wneud os nad yw’n helpu.

Mae Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (ThGY) yn therapi siarad a all helpu pobl i reoli eu problemau drwy newid y ffordd rydym yn meddwl ac yn ymddwyn. Fe’i defnyddir yn aml i drin gorbryder ac iselder.

 

Ei nod yw helpu i ddelio â phroblemau sy’n eich llethu mewn ffordd gadarnhaol drwy eu torri i lawr i rannau bach, a dangos i chi sut i newid eich ymddygiad i wella’r ffordd rydych chi’n teimlo.

 

Mae ThGY yn cynnig ffyrdd ymarferol o ymdopi â’ch problemau presennol a gwella eich cyflwr meddwl yn hytrach na chanolbwyntio ar faterion o’ch gorffennol.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Math o therapi siarad yw DBT.  Mae’n seiliedig ar CBT ond mae’n benodol ar gyfer pobl sy’n teimlo emosiynau’n ddwys iawn.

Mae trawma yn sefyllfa a achosir gan ddigwyddiad sy’n llethu’r person ac yn ei adael yn methu â phrosesu neu ymdopi â’r hyn sydd wedi digwydd. Gall trawma gael ei achosi gan ddigwyddiad untro neu ddigwyddiadau lluosog a brofir dros wythnosau, misoedd neu flynyddoedd.

 

Mae profiadau trawmatig yn aml yn golygu bygythiad i ddiogelwch y person ifanc ac ymdeimlad o fethu â gwneud unrhyw beth yn wyneb perygl neu yn yr amser wedyn.

Mae PTSD yn ganlyniad i drawma y gellir gweithio arno drwy therapïau siarad.

 

Mae’r ffordd yr ydym yn ymateb i’r hyn sy’n digwydd i ni ac yn ei brofi yn dibynnu ar lawer o ffactorau.  Er y gall un person deimlo bod rhywbeth yn drawmatig, efallai na fydd un arall yn teimlo hynny. Efallai na fydd trawma yn ymddangos am fisoedd neu flynyddoedd lawer ar ôl profiad.

 

Defnyddir trawma hefyd ym maes iechyd corfforol – fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd pob gwasanaeth trawma mewn ysbytai yn gallu ymateb neu helpu gyda thrawma seicolegol.

 Mae trawma datblygiadol yn disgrifio sut mae digwyddiadau negyddol o blentyndod person, megis esgeulustod neu gamdriniaeth, wedi effeithio neu yn gallu effeithio ar eu datblygiad, gan achosi anawsterau emosiynol a chorfforol o bosibl.

 

Cyfeirir at drawma weithiau hefyd fel Profiadau Plentyndod Niweidiol (PPNau).

Mae’r trydydd sector yn derm am elusennau a sefydliadau lleol a all ddarparu cymorth neu roi gwybodaeth am bwnc penodol.

 

Ewch i’n tudalen Adnoddau Lleol i gael gwybod am sefydliadau trydydd sector lleol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Gall fod yn hawdd rhuthro trwy fywyd heb dreulio amser yn sylwi ar bethau.

 

Gall talu mwy o sylw i’r foment bresennol wella eich lles meddyliol.  Mae bod yn ymwybodol o’r presennol, gan gynnwys eich meddyliau a theimladau, eich corff a’r byd o’ch cwmpas, yn cael ei alw’n Ymwybyddiaeth Ofalgar. Gall ein helpu i fwynhau bywyd yn fwy a deall ein hunain yn well.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu lles emosiynol yma

Ymyriad yw unrhyw beth y mae gweithiwr proffesiynol yn ei wneud gyda’r bwriad o wneud newid cadarnhaol i helpu person sy’n wynebu  heriau.

 

Mewn Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, gallai hyn olygu gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc neu gyda’u rhieni / gofalwyr neu weithio gyda staff yn eu hysgol i sicrhau bod anghenion y person ifanc yn cael eu diwallu yno.

Gobeithiwn fod y chwalwr jargon hwn wedi’ch helpu i gynyddu eich dealltwriaeth a chymryd rhan lawn yn eich taith lles emosiynol.

 

Os oes unrhyw dermau eraill yr hoffech eu gweld yma, rhowch wybod i ni. Os ydych chi wedi drysu, mae’n debygol bod person ifanc arall wedi hefyd!