Gall siarad am y problemau a’r pryderon yn eich bywyd fod yn anodd ar adegau.

Mae ein holl wasanaethau yn cynnwys gwrando, siarad a chydweithio i ddarganfod yr hyn sy’n digwydd a’r hyn a allai helpu.

Mae ein timau yn cynnwys gwahanol weithwyr proffesiynol sydd i gyd yn cynnig cymorth cyfeillgar heb farnu i chi a’ch teulu.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau isod:

Mae llawer o wasanaethau a sefydliadau ar draws Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol.  Cliciwch yma i ddarllen rhagor.

Tîm Therapi Dwys Cymunedol

Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â heriau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl sy’n effeithio ar eu lles.

Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd gydag ystod o brofiadau. Rydym yn aml yn helpu gyda phynciau fel gorbryder, hwyliau isel, ac anawsterau straen a pherthynas.

Byddwn yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o weithio gyda chi, a’r rhai sy’n gofalu amdanoch chi, i asesu, deall a rheoli eich iechyd meddwl fel y gallwch wneud newidiadau cadarnhaol.

Ar ôl i chi gael eich asesiad gyda ni, efallai y byddwn yn argymell un neu fwy o’r canlynol:

  • Cael cymorth ymyrraeth gan ein tîm ymyrraeth
  • Eich cyfeirio at wasanaeth trydydd sector i fodloni eich anghenion yn well

Efallai na fydd defnyddio ein gwasanaeth yn bodloni eich anghenion ar hyn o bryd. Yn yr achos hwn, byddwn yn rhoi cyngor a/neu dechnegau priodol i chi i ofalu am eich lles. Os bydd pethau’n newid i chi, gallwch bob amser ddod yn ôl i gael asesiad yn y dyfodol.

Bydd eich cais cychwynnol am gymorth yn cael ei dderbyn gan ein tîm Pwynt Mynediad Sengl. Efallai y bydd yn penderfynu y byddech yn elwa o asesiad.

Byddwn yn dechrau drwy eich gwahodd am gyfarfod cychwynnol yr ydym yn ei alw’n asesiad cyn gynted ag y gallwn (fel arfer o fewn 4 wythnos). Gallai hyn fod yn apwyntiad rhithwir, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Dyma gyfle i ni ddod i’ch adnabod chi a deall yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd. Byddwn yn siarad am yr heriau yr ydych wedi bod yn eu hwynebu, yr hyn yr hoffech ei newid a sut y gallem helpu i gyflawni eich nodau.

Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi am eich profiadau gartref, yn yr ysgol a gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Gallwch hefyd ofyn cwestiynau. Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu’r cam nesaf i chi.

Efallai y gwelwch mai’r cyfarfod cychwynnol hwn yw’r cyfan sydd ei angen arnoch. Efallai y byddwn yn eich atgyfeirio i wasanaethau priodol eraill hefyd. Efallai y byddwn hefyd yn penderfynu gyda’n gilydd y byddai ychydig o sesiynau gyda’n tîm ymyrraeth yn ddefnyddiol.

Byddwn yn dod o hyd i’r opsiwn gorau i chi yn seiliedig ar eich anghenion unigol.

Fel gwasanaeth cymunedol, mae gennym nifer o ganolfannau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Ysbyty Dewi Sant (Caerdydd)
  • Ysbyty Athrofaol Llandochau (Penarth)
  • Canolfan Iechyd y Bont-faen (Y Bont-faen)

Ar hyn o bryd rydym yn derbyn ceisiadau am gymorth gan weithwyr proffesiynol gan gynnwys:

  • Meddygon teulu
  • Ymwelwyr iechyd
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Nyrsys ysgol
  • Gweithwyr iechyd proffesiynol eraill

Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at 18 oed sy’n wynebu heriau gyda’u lles emosiynol a’u hiechyd meddwl.

Ar gyfer plant o dan 16 oed, mae angen caniatâd rhiant neu ofalwr sy’n gyfrifol yn gyfreithiol arnom.

Sicrhewch fod y manylion cyswllt yr ydych yn eu rhoi i’r gweithiwr proffesiynol sy’n gofyn am gymorth i chi yn gywir. Rydym yn defnyddio’r rhain i gysylltu â chi. Os ydynt yn anghywir, efallai na fyddwch yn derbyn apwyntiad.

Os ydych am gysylltu â ni, gallwch ffonio 02921 836730 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).

Cofiwch nad gwasanaeth argyfwng yw hwn.

Tîm Therapi Dwys Cymunedol

Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n dioddef o salwch meddwl ac anghenion cymhleth fel:

  • Seicosis
  • Anhwylderau hwyliau
  • Anhwylderau bwyta
  • Anhwylderau gorbryder
  • Anhwylder straen wedi trawma

Rydym yn cynnig asesiadau a gofal yn y gymuned i blant a phobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Arbenigol ac sydd â salwch meddwl difrifol ac anghenion cymhleth.

Fe’ch gwahoddir yn gyntaf i gael cyfarfod cychwynnol o’r enw apwyntiad dewis gyda’r CAMHS Arbenigol, lle byddwn yn siarad am yr anawsterau yr ydych wedi bod yn eu cael, yr hyn yr hoffech ei newid a sut y gallem helpu gyda hyn. Yna bydd eich ymarferydd yn eich atgyfeirio i’r tîm Therapi Dwys Cymunedol.

Ein nod yw cwrdd â chi ar gyfer yr asesiad wyneb yn wyneb cyntaf o fewn 5 diwrnod gwaith o drafod eich atgyfeiriad fel tîm. Yn dilyn y sesiwn gyntaf hon, gallwn gwblhau asesiad mwy trylwyr ar gyfer anghenion cymhleth iawn dros chwe wythnos os oes angen diagnosis.

Byddwn yn gweithio gyda chi i greu cynllun gofal am yr hyn i’w ddisgwyl o’ch triniaeth, sut y gallwch ofalu amdanoch eich hun a’r nodau yr hoffech eu cyflawni. Byddwn hefyd yn cynnig ymyriadau therapiwtig yn seiliedig ar eich anghenion.

Byddwn yn gweithio gyda chi nes eich bod yn sefydlog ac yn gallu cael eich trosglwyddo i’r CAMHS Arbenigol, Iechyd Meddwl Sylfaenol neu’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion ar gyfer cam nesaf eich taith lles emosiynol. Mae hyn yn beth da gan ei fod yn golygu eich bod yn gwneud cynnydd tuag at eich nodau ac yn barod ar gyfer y cam nesaf.

Rydym wedi ein lleoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd, ond rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn eu cymuned leol.

Mae ein tîm yn cefnogi plant a phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed sydd eisoes yn gweithio gyda’r CAMHS Arbenigol ac sy’n dioddef gydag anhwylderau iechyd meddwl sydd angen asesiad ac ymyrraeth fwy dwys.

Nid ydym yn:

• Asesu unrhyw un dros 18 oed
• Asesu plant / pobl ifanc heb salwch meddwl
• Asesu plant / pobl ifanc y mae eu prif broblem o ganlyniad i ddefnyddio sylweddau seicoweithredol a / neu broblemau cymdeithasol
• Asesu plant / pobl ifanc fel argyfwng cyn i atgyfeiriad gael ei drafod mewn cyfarfod tîm

Mae hwn yn wasanaeth arbenigol y gellir ei ddefnyddio drwy atgyfeiriad gan ymarferwyr CAMHS Arbenigol a Gwasanaethau Cleifion Mewnol y CAMHS yn unig.

Os gall ein tîm helpu i fodloni eich anghenion, cewch eich gwahodd yn gyntaf i gael asesiad CAMHS Arbenigol llawn o’r enw apwyntiad dewis.

Rydym yn gweithio rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cysylltiadau Cymunedol

Cysylltiadau Cymunedol yw ein gwasanaeth peilot presgripsiynu cymdeithasol newydd ar gyfer pobl ifanc.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl ifanc â grwpiau, gweithgareddau a chyfleoedd o fewn eu cymuned leol i hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol.

Rydym yn cefnogi pobl ifanc 11-18 oed sy’n cael trafferth gyda’u lles emosiynol drwy eu cysylltu â chyfleoedd yn eu cymuned leol.

Mae ein Cysylltwyr Cymunedol yn dod i adnabod y person ifanc drwy wrando ar ei anghenion, trafod yr heriau y gall eu hwynebu a nodi nodau y mae am weithio arnynt.

Yna rydym yn cydweithio gyda’r person ifanc i greu cynllun i helpu i wella ei les drwy ei gysylltu â grwpiau a gweithgareddau lleol. Gallai hyn gynnwys:

  • gwneud ffrindiau newydd,
  • gwirfoddoli,
  • ymarfer corff,
  • mynd allan i fyd natur neu
  • ddarganfod hobïau newydd.

Byddwn yn cael galwad ffôn gychwynnol gyda’r person ifanc i wneud yn siŵr:

  • Mai ni yw’r tîm iawn i’w gefnogi
  • Bod y person ifanc yn deall yn iawn yr hyn yr ydym yn ei
  • gynnig, a
    Bod y person ifanc eisiau cymryd rhan

Yna byddwn yn cwrdd â’r person ifanc yn rheolaidd dros gyfnod o 12 wythnos.

Gall ein cysylltwyr cymunedol helpu drwy:

  • roi eu gwybodaeth am weithgareddau lleol,
  • cefnogi’r person ifanc i fynychu unrhyw grwpiau neu weithgareddau,
  • ei helpu i nodi a goresgyn heriau i’w les emosiynol.

Rydym wedi ein lleoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Fodd bynnag, byddwn yn cwrdd â phobl ifanc ar-lein, yn eu hysgolion, yn eu cartrefi neu yn eu cymuned leol – ble bynnag maent yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus.

Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sy’n profi heriau lefel isel i’w lles emosiynol. 

Gallai hyn gynnwys ynysu cymdeithasol, gorbryder lefel isel, bwlio neu ddiffyg hunan-barch.

Nid ydym yn cwrdd ag unrhyw berson ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl mwy cymhleth neu ddifrifol.

Ar hyn o bryd, mae angen gwneud cais am gymorth i’r tîm Pwynt Mynediad Sengl Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl i berson ifanc gael mynediad at Cysylltiadau Cymunedol.

Gall atgyfeiriadau ddod gan bobl broffesiynol mewn lleoliadau iechyd a chymdeithasol fel meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol, penaethiaid a nyrsys ysgol.

Os yw’r Pwynt Mynediad Sengl yn credu y gallai ein tîm eich helpu, fe’ch gwahoddir i gael galwad ffôn gychwynnol i siarad am eich anghenion, eich nodau ac ai Cysylltiadau Cymunedol yw’r gwasanaeth sydd yn y sefyllfa orau i gydweithio â chi ar y rhain.

Rydym yn gweithio rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cyswllt Argyfwng

Mae ein timau Argyfwng yn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl brys ac sydd angen help ar unwaith.

Rydym yn cynnig asesiadau iechyd meddwl i bobl ifanc sydd yn yr ysbyty, mewn meddygfeydd ac yn y ddalfa.

Mae asesiad yn gyfle i berson ifanc siarad ag ymarferydd am yr hyn mae’n ei deimlo, yr effaith ar ei fywyd a pha nodau mae am eu cyflawni. Byddwn yn cwblhau’r asesiad hwn o fewn 48 awr i’r atgyfeiriad.

Ar ôl yr asesiad, byddwn yn siarad â chi, eich teulu ac unrhyw un sydd wedi bod yn ymwneud â’ch gofal am y camau nesaf. Gallai hyn gynnwys:

  • Eich cyfeirio at wasanaethau eraill
  • Cymorth dilynol dwys gyda’r Tîm Cyswllt Argyfwng
  • Eich derbyn i lety â chymorth neu gyfleuster cleifion mewnol y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion neu’r CAMHS

Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i’r person a wnaeth eich atgyfeirio am yr hyn a ddigwyddodd a’r hyn yr ydym wedi’i argymell i chi.

Rydym wedi ein lleoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd, ond byddwn yn teithio i’r person ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl i’w asesu a llunio cynllun.

Mae’r gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed sydd mewn argyfwng (sydd â phroblem iechyd meddwl brys). Rydym yn asesu pobl dros 18 oed dim ond os nodir hyn yn eu cynllun pontio i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion.

Ni fyddwn yn asesu pobl ifanc sydd dan ddylanwad cyffuriau a / neu alcohol.

Byddwn yn asesu plant a phobl ifanc sy’n cael ymyrraeth feddygol ar gyfer problemau iechyd corfforol dim ond os ydynt hefyd gydag angen iechyd meddwl brys ac mewn perygl iddyn nhw eu hunain neu eraill.

Mae hwn yn wasanaeth arbenigol a dim ond drwy atgyfeiriad gan sefydliad partner neu weithiwr proffesiynol y gellir ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys:

  • Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys
  • Wardiau ysbyty
  • Swyddogion yr heddlu ac aelodau o staff sy’n gweithio mewn dalfeydd
  • Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl
  • Meddygon teulu

Mae’r Tîm Cyswllt Argyfwng yn gweithio rhwng 9am a 9:30pm 7 diwrnod yr wythnos.

Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta

Tîm newydd yng Nghaerdydd a’r Fro yw’r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta. Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol o wahanol gefndiroedd a disgyblaethau sy’n arbenigo mewn cefnogi pobl ifanc ag anhwylderau bwyta, yn ogystal â’u teuluoedd.

Gall anhwylderau bwyta gael effaith sylweddol ar eich iechyd corfforol a meddyliol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi a’ch teulu i’ch cefnogi tuag at adferiad.

Pan fyddwn yn derbyn eich atgyfeiriad, byddwn yn dechrau drwy eich gwahodd drwy lythyr neu dros y ffôn i ddod i gyfarfod cychwynnol o’r enw apwyntiad dewis.

Byddwn yn siarad am yr anawsterau yr ydych wedi bod yn eu cael, yr hyn yr hoffech ei newid a sut y gallem helpu gyda hyn.

Byddwn hefyd yn siarad am sut y gallai cryfderau a sgiliau eich teulu helpu’r sefyllfa. Byddwn yn siarad â chi am sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd ar yr anawsterau yr ydych yn eu hwynebu a’r nodau yr ydych am eu cyflawni.

Ar ôl yr apwyntiad dewis, byddwn yn neilltuo ymarferydd sydd â’r sgiliau a’r profiad i fodloni eich anghenion i arwain eich gofal.

Byddwn yn gofyn i chi fynychu sesiynau unwaith neu ddwywaith yr wythnos i ddechrau, fel y gallwn siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd gyda chi a chadw llygad ar eich lles corfforol drwy eich pwyso’n rheolaidd a chynnal gwiriadau meddygol rheolaidd.

Bydd y cymorth a gewch yn eich sesiynau yn amrywio yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen arnoch. Mae gennym lwybr Therapi Teulu sy’n cynnwys aelodau o’ch teulu yn eich gofal, a llwybr Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Uwch sy’n addas ar gyfer eich anghenion unigol.

Mae gennym gysylltiadau cryf â staff yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, Ysbyty Athrofaol Cymru, a Thŷ Llidiard. Hyd yn oed os ydych yn profi newid yn eich gofal, fel pontio i Iechyd Meddwl Oedolion neu fod angen aros yn yr ysbyty i ofalu am eich iechyd corfforol, byddwn yn parhau i’ch cefnogi a bod yn rhan o’ch gofal.

Rydym wedi ein lleoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Defnyddio ein gwasanaeth

Mae hwn yn wasanaeth arbenigol, y ceir mynediad ato drwy’r CAMHS Arbenigol, a dim ond drwy atgyfeiriad gan sefydliad partner neu weithiwr proffesiynol y gellir ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys:

  • Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys
  • Wardiau ysbyty
  • Swyddogion yr heddlu ac aelodau o staff sy’n gweithio mewn dalfeydd
  • Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl
  • Meddygon teulu

Nid gwasanaeth argyfwng yw hwn.

Os ydych yn gweithio gyda ni ac angen cysylltu â ni, gallwch ffonio 02921 836789 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).

Ein cyfeiriad yw Ysbyty Dewi Sant, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd CF11 9XB.

Enfys

Rydym yn dîm sy’n cynnwys seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, sy’n cael eu mabwysiadu, ac sydd ar ffiniau gofal.

Wedi’n lleoli yn y GIG, rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yng Ngwasanaethau Plant Caerdydd a’r Fro, mewn addysg, a phob rhan o fywydau ein plant. Rydym yn gwybod mai’r ffordd orau o gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma datblygiadol yw sicrhau bod eu hoedolion yn eu deall ac yn gallu bodloni eu hanghenion orau, a’u bod nhw eu hunain yn cael eu cefnogi’n llawn.

Mae Enfys yn wasanaeth sy’n cael ei lywio gan Ymarfer Datblygiadol Dyadig (YDD). Mae YDD yn sicrhau ein bod yn seilio ein gwerthoedd a’n gwasanaethau ar ddull gweithredu hollgynhwysol sy’n canolbwyntio ar ddeall stori ein plant – yr hyn sydd wedi digwydd iddynt.

Rydym yn gwahodd pob oedolyn sy’n cefnogi plant sy’n byw mewn gofal i fynychu ein Grŵp Enfys. Rhaglen 6 wythnos yw hon sy’n seiliedig ar y Grŵp Meithrin Ymlyniadau a ddyfeisiwyd gan Kim Golding (Meddyg Ymgynghorol YDD). Rydym hefyd yn cynnig gweithdai penodol ar ddeall materion rheoleiddio, bwyd a chysgu i blant sydd wedi profi trawma.

Mae gan y rhan fwyaf o’r plant yr ydym yn eu cefnogi weithiwr cymdeithasol penodedig. Er mwyn cael cymorth gan Dîm Enfys, rydym yn gwahodd sgwrs rhyngom ni a gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn un o’n hymgynghoriadau Cyngor a Chymorth wythnosol.

Ar ôl y sgwrs gychwynnol hon, lle byddwn yn penderfynu gyda’n gilydd ar y ffordd orau o gydweithio i fodloni anghenion y plentyn/teulu, efallai y byddwn wedyn yn cynnig cymorth parhaus i rieni/gofalwyr, cwrdd â gweddill y system (e.e. ysgol), gweithio’n uniongyrchol gyda’r teulu, cynnig therapi, ac yn y blaen.

Mae’r tîm wedi’i hyfforddi mewn therapïau arbenigol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer trawma.

Mae ein swyddfeydd yn Nhŷ Coetir yn ardal y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd ond rydym yn gweithio gyda theuluoedd a phlant lle bynnag sydd orau iddynt e.e. gartref, ysgol, lleoliad cymunedol.

Rydym hefyd yn rhannu swyddfa gyda’n cydweithwyr gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Y ffordd orau o gysylltu â ni ar gyfer unrhyw ymholiad yw drwy e-bostio enfys.cav@wales.nhs.uk

Anfonwch e-bost atom yn enfys.cav@wales.nhs.uk

Goleudy

Mae’r tîm yn cefnogi pobl ifanc sy’n profi lefelau uchel o drallod, y mae llawer ohonynt wedi ceisio diogelwch yn yr Adran Achosion Brys.

Ein gweledigaeth glinigol yw ein bod yn cael ein gyrru gan fformiwleiddiad, yn canolbwyntio ar ymlyniad a pherthynas ac yn arbenigwyr trawma ac iechyd meddwl. Mae’r tîm yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Iechyd Meddwl Graddedig, Seicolegwyr Clinigol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol a Chydlynwyr Addysg. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr Gwasanaethau Plant yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae anghenion y bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi yn cael eu deall orau trwy lens trawma datblygiadol ac rydym yn gofyn, ‘Beth sydd wedi digwydd i chi?’ nid ‘Beth sydd o’i le gyda chi?’.

Ein nod yw gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill i gyd-gynhyrchu dealltwriaeth sy’n seiliedig ar drawma o stori’r person ifanc fel y gallwn wneud synnwyr o swyddogaeth ymddygiad arsylladwy person ifanc.

Ein nod wrth gefnogi’r system sy’n amgylchynu’r person ifanc yw tawelu ac atal trallod drwy ei helpu i ‘ddal gafael’ ar y bobl ifanc hyn.

Yr Hangout

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc allu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol pan fo angen. Dyna pam yr ydym wedi creu’r Hangout.

Mae’r Hangout yn ganolfan gweithgareddau a chymorth iechyd meddwl a lles emosiynol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed.

Fe’i datblygwyd gan y Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro mewn partneriaeth â Platfform, elusen iechyd meddwl sy’n gweithio gyda phobl ifanc i hyrwyddo lles cadarnhaol.

Wedi’i leoli yng nghanol dinas Caerdydd, mae’n lle diogel ac amgen ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl — yn amrywio o bobl sy’n cael un ‘diwrnod drwg’ i’r rheiny a allai fod eisoes yn cael cymorth arbenigol ond sydd angen lle a rhywun i siarad ag ef rhwng apwyntiadau.

Gall pobl ifanc gael mynediad at ystod o gymorth ar gyfer gwahanol lefelau angen, gan gynnwys cyswllt un i un gydag aelod o staff, gwaith grŵp, cymorth cyfoedion a gwybodaeth am gyfeirio at wasanaethau eraill neu atgyfeiriadau (gan gynnwys defnydd o gyfrifiaduron). Gellir cynnig y rhain ochr yn ochr â gwasanaethau arbenigol.

Mae’r Hangout yn cael ei weithredu gan Platfform: platfform.org/cy

Mae’r Hangout yn cynnig y cymorth canlynol:

  • Cymorth galw heibio (ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau agor)
  • Sesiynau wedi’u trefnu gyda’n tîm lles
  • Grwpiau sy’n canolbwyntio ar les
  • Sesiynau gweithgaredd grŵp
  • Cyfleoedd gwirfoddoli

Galw Heibio: Gellir cael cymorth iechyd meddwl, yn ogystal â gwybodaeth am y grwpiau a’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael, ar sail galw heibio. Gall pobl ifanc ddod i’r ganolfan ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau agor i drafod yr hyn a allai fod o gymorth iddynt gyda’n tîm.

Gall pobl ifanc sydd wedi cael eu hatgyfeirio i wasanaethau iechyd meddwl ac sy’n aros i gael eu gweld neu sydd rhwng apwyntiadau hefyd ddefnyddio’r Hangout i gael cymorth ychwanegol.

Atgyfeiriadau a chymorth wedi’i drefnu: Mae hefyd yn bosibl trefnu sesiynau cymorth iechyd meddwl. Gellir gwneud hyn naill ai drwy hunanatgyfeirio neu drwy atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda pherson ifanc neu’n ei gefnogi.

Gellir gwneud atgyfeiriadau hefyd ar gyfer mynediad at grwpiau, cymorth cyffredinol neu yn syml i ddod i ymgyfarwyddo â’r lle a’r pethau rydym yn eu cynnig — gallai hyn fod yn ddefnyddiol os nad yw person ifanc yn teimlo’n gyfforddus yn dod i sesiwn galw heibio.

Gellir dod o hyd i’r Hangout yn 26-28 Ffordd Churchill ac mae ar agor bob dydd rhwng 3pm a 9pm. Mae hefyd ar agor ar wyliau banc heblaw am Ddydd Nadolig (25/12), Gŵyl San Steffan (26/12) a Dydd Calan (1/01).

Fodd bynnag, ni fydd y gwasanaeth yn gweithredu’n llawn rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, felly cysylltwch â’r tîm i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael ym mis Rhagfyr.

Gall pobl ifanc gwrdd â phobl eraill, dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli a chymryd rhan mewn grwpiau a allai wir helpu i roi hwb i’w lles yn yr Hangout hefyd.

Nid oes angen atgyfeiriad i ymweld — gall pobl ifanc alw heibio ar unrhyw adeg.

I ddysgu rhagor:

Ewch i: Yr Hangout – Platfform 4YP

E-bostiwch: hangout@platfform.org

Ffoniwch: 0300 3732717

Mae tîm yr Hangout yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl i blant a phobl ifanc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae hyn yn golygu y gall siarad â gwasanaethau eraill i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth gorau gan y bobl gywir ar yr adeg gywir i sicrhau bod dull cyfannol ac ategol o roi gofal yn cael ei weithredu.

Ffurflenni atgyfeirio:

Ar ôl cwblhau ffurflen atgyfeirio, bydd tîm yr Hangout yn cysylltu â’r person ifanc o fewn 3 diwrnod i drefnu sesiwn gychwynnol ar y safle.

Hunanatgyfeirio: Yr Hangout – Cael cymorth (i bobl ifanc) (office.com)

Atgyfeirio gan staff cymorth: Yr Hangout – cael cymorth i berson ifanc (i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc) (office.com)

Tîm Ymyrraeth

Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â heriau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl sy’n effeithio ar eu lles.

Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd gydag ystod o brofiadau. Rydym yn aml yn helpu gyda phynciau fel gorbryder, hwyliau isel, ac anawsterau straen a pherthynas.

Byddwn yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o weithio gyda chi, a’r rhai sy’n gofalu amdanoch chi, i roi cymorth i chi i ofalu am eich lles. Mae hyn yn cynnwys eich helpu i ddatblygu sgiliau a thechnegau fel y gallwch wneud newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd.

Rydym yn gwybod y gall aros fod yn heriol pan fyddwch wedi gofyn am gymorth, ond byddwn yn ceisio eich gweld cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych yn aros ac angen rhywfaint o gymorth, gallwch gysylltu â’n tîm Pwynt Mynediad Sengl drwy ffonio 02921 836730 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm (ac eithrio gwyliau banc).

Rydym yn cynnig ystod o ymyriadau gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau. Mae hyn yn debygol o fod drwy waith grŵp i ddechrau, gyda gwaith unigol wedyn yn ôl yr angen.

Ar ddechrau eich taith gyda ni, byddwn yn eich helpu i osod nodau y gallwn eich cefnogi i’w cyflawni. Byddwn yn adolygu’r rhain yn rheolaidd ac os bydd angen, byddwn yn addasu eich gofal.

Pan fyddwch yn dod i ddiwedd eich taith gyda ni, byddwn yn cymryd amser i adolygu a chynllunio eich camau nesaf.

Yn ystod eich asesiad, efallai eich bod chi a’ch ymarferydd wedi nodi bod angen cymorth pellach arnoch gennym. Os felly, mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi fynd ar restr aros ymyrraeth.

Sicrhewch fod y manylion cyswllt yr ydych yn eu rhoi i’r gweithiwr proffesiynol sy’n gofyn am gymorth i chi yn gywir. Rydym yn defnyddio’r rhain i gysylltu â chi. Os ydynt yn anghywir, efallai na fyddwch yn derbyn apwyntiad.

Fel gwasanaeth cymunedol, mae gennym nifer o ganolfannau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Ysbyty Dewi Sant (Caerdydd)
  • Ysbyty Athrofaol Llandochau (Penarth)
  • Canolfan Iechyd y Bont-faen (Y Bont-faen)

Os ydych am gysylltu â ni, gallwch ffonio 02921 836730 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).

Cofiwch nad gwasanaeth argyfwng yw hwn.

Mewngymorth Ysgolion

Mae ein tîm Mewngymorth Ysgolion yn gymysgedd o weithwyr proffesiynol a therapyddion iechyd meddwl profiadol sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg i gefnogi dysgwyr a staff gyda’u lles emosiynol a meddyliol.

Rydym yn gweithio ym mhob ysgol uwchradd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion a Gwasanaethau Tiwtora Tu Allan i’r Ysgol.

Rydym yn mynd i gyfarfodydd blaenoriaethu gyda staff addysg mewn ysgolion uwchradd lle rydym yn trafod anghenion dysgwyr unigol, staff a’r ysgol ar y cyfan.

  • Mae staff addysg eisoes yn adnabod y bobl ifanc yn eu lleoliad ac efallai y bydd ganddynt berthnasau dibynadwy gyda nhw. Mae ein tîm yn dysgu llawer wrth glywed am yr hyn sy’n digwydd yn yr ysgol, yr hyn sy’n gweithio’n dda neu sydd eisoes wedi cael ei roi ar brawf a lle y gallai fod rhai heriau o hyd. Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth arall a allai helpu. Gall gweithwyr proffesiynol eraill, fel nyrsys ysgol neu seicolegwyr addysg fod yn rhan o’r cyfarfodydd hyn hefyd fel bod modd gwneud cynllun cymorth i roi’r cymorth cywir ar yr adeg gywir.
  • O’r cyfarfodydd blaenoriaethu hyn, rydym yn cynnig hyfforddiant, adnoddau ac ymgynghori i staff addysg. Gallai’r rhain ganolbwyntio ar helpu person ifanc penodol neu helpu’r lleoliad i greu amgylchedd iechyd meddwl cadarnhaol ar gyfer pob dysgwr ac aelod o staff.
  • Efallai y byddwn hefyd yn cynnig asesiad system gyfan i’r person ifanc a’i deulu i gael gwybod a fyddai gwaith uniongyrchol (h.y. ymuno â grŵp neu sesiynau un i un) hefyd yn ddefnyddiol.
  • Rydym yn cynnig ymgynghoriadau, grwpiau am lythrennedd emosiynol a mynediad i’n hyfforddiant ledled yr ardal leol i ysgolion cynradd.

Rydym yn parhau i ddatblygu’r hyn rydym yn ei gynnig mewn ymateb i anghenion ysgolion, dysgwyr a staff ledled Caerdydd a’r Fro.

Rydym wedi’n lleoli yng Nghanolfan Blant Trelái a Chaerau, ond mae ein staff yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn ymweld â’r ysgolion yn eu cymuned, gan gydweithio’n uniongyrchol gyda dysgwyr a staff.

Gall pob ysgol uwchradd yng Nghaerdydd a’r Fro ofyn am gymorth gan ei thîm Mewngymorth lleol. I gael rhagor o wybodaeth am y lleoliadau gweler ein cylchlythyr cyntaf.

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Mewngymorth Ysgolion.

Cyfran sylweddol o’n gwaith yw gweithio gyda staff addysg i ddarparu hyfforddiant, ymgynghori ac ymarfer myfyriol fel rhan o weithredu dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol.

Mae’r gwaith hwn o fudd i ddysgwyr a staff sy’n gweithio yn y lleoliad addysg, hyd yn oed os nad yw pobl ifanc yn gweithio’n uniongyrchol gydag un o’n hymarferwyr.

Efallai mai Mewngymorth Ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi’r dysgwr, ond efallai bod yr ymarferydd Mewngymorth yn teimlo ei bod yn well i wasanaeth neu sefydliad arall roi cymorth.

Hefyd gallai’r ymarferydd Mewngymorth weithio i feithrin gallu a hyder y rhai sydd eisoes yn ymwneud â’r dysgwr, yn hytrach na chyflwyno person arall.

Rydym yn annog ysgolion a lleoliadau addysg eraill i gysylltu â’u hymarferwyr a enwir yn uniongyrchol.

Gall staff addysg hefyd gysylltu â Mewngymorth Ysgolion schoolinreach.cav@wales.nhs.uk

Nyrsio Ysgol

Mae ein tîm nyrsio ysgol yn grŵp o nyrsys cymwys profiadol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc a’u teuluoedd i gadw’n iach.

Ni hefyd oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gynnig y gwasanaeth negeseuon testun ChatHealth – dysgwch ragor isod.

Gall bywyd fod yn anodd i blant a phobl ifanc. Mae pwysau gan yr ysgol, y cartref a ffrindiau ar ben popeth arall. Mae’n normal teimlo ar goll ac wedi’ch llethu – mae eich nyrs ysgol yno i wrando a siarad â chi am unrhyw beth sydd ar eich meddwl, gan gynnwys:

  • Eich lles emosiynol a sut yr ydych yn teimlo
  • Cadw’n iach – yn gorfforol, yn emosiynol ac yn rhywiol
  • Iechyd rhywiol
  • Newidiadau i’ch corff
  • Bwlio
  • Cyffuriau ac alcohol
  • Brechiadau ac imiwneiddiadau

Rydym hefyd yn cynnig y gwasanaeth ChatHealth. Gall unrhyw berson ifanc rhwng 11 a 19 oed anfon neges destun at ei nyrs ysgol i gael cyngor a chymorth cyfrinachol. Gallwch ofyn am unrhyw beth y byddech fel arfer yn siarad amdano gyda’r nyrs ysgol yn bersonol.

Mae ein nyrsys ysgol yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser mewn ysgolion yn gweithio gyda phobl ifanc.

Mae nyrsys ysgol yn ymweld â’u hysgolion bob wythnos. Gofynnwch i’ch athro neu arweinydd lles yr ysgol sut i weld eich nyrs ysgol.

Gall unrhyw berson ifanc siarad â’i nyrs ysgol, naill ai drwy’r ysgol neu drwy’r gwasanaeth negeseuon testun ChatHealth. I anfon neges at nyrs ysgol drwy ChatHealth, anfonwch neges destun i 07520 615718 rhwng 8:30am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).

Os ydych yn gweithio gyda gwasanaeth arall, gallwch hefyd barhau i weld eich nyrs ysgol ar yr un pryd.

Gofynnwch i’ch athro neu arweinydd lles yr ysgol sut i weld eich nyrs ysgol.

I anfon neges at nyrs ysgol drwy ChatHealth, anfonwch neges destun i 07520 615718 rhwng 8:30am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).