Gall fod yn anodd ymdopi â theimladau, atgofion a sefyllfaoedd poenus neu lethol.

Weithiau mae’r teimladau cryf hyn yn gwneud i bobl fod eisiau brifo eu hunain yn fwriadol am nad ydyn nhw’n gwybod sut i ymdopi fel arall. Gelwir hyn yn hunan-niweidio.

Nid yw’n hawdd siarad am hunan-niweidio, p’un a ydych yn brifo eich hun neu’n adnabod rhywun sy’n hunan-niweidio. Gall fod yn frawychus i’r sawl sy’n ei wneud a’i ffrindiau a’i deulu.

Gall hunan-niweidio fod yn beryglus ond mae ein timau yma i wrando arnoch, eich cefnogi a dangos ffyrdd eraill o ymdopi â theimladau llethol.

Sut galla i gael help?

Cliciwch yma os oes angen help brys arnoch.

Gall hunan-niweidio fod yn arwydd o heriau iechyd meddwl eraill y gallech fod yn eu hwynebu, megis iselder neu orbryder.

Os yw hunan-niweidio yn effeithio arnoch chi, dylech siarad ag aelod o’r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid neu feddyg teulu. Bydd eich ysgol neu’ch meddyg teulu yn gallu eich atgyfeirio at y Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl.

Ffyrdd o helpu i osgoi hunan-niweidio

Rhowch gynnig ar siarad am eich teimladau gyda ffrind, aelod o’r teulu, gwirfoddolwr hyfforddedig neu weithiwr iechyd proffesiynol.

Ffoniwch Meic ar 080880 23456 neu anfonwch neges destun at 84001

Tecstiwch YM i 85258 ar gyfer Llinell Decstio Young Minds

Ffoniwch y Samaritans ar 116 123 neu e-bostiwch jo@samaritans

Ceisiwch weithio allan os yw teimlo rhyw ffordd benodol yn arwain at hunan-niweidio.

Er enghraifft, os ydych fel arfer yn hunan-niweidio pan fyddwch yn teimlo’n drist neu’n bryderus, ceisiwch fynegi’r teimlad hwnnw mewn ffordd fwy diogel.

Gallech roi hyn ar bapur neu ei dracio mewn ap.

Ceisiwch aros cyn i chi ystyried hunan-niweidio.

Cadwch eich hun yn brysur drwy fynd allan am dro, gwrando ar gerddoriaeth, neu wneud rhywbeth arall heb fod yn niweidiol sydd o ddiddordeb i chi

Gall yr angen i hunan-niweidio ddechrau pasio dros amser

Rhowch gynnig ar ysgrifennu neu ddweud mewn ap recordio llais sut rydych chi’n teimlo – does dim angen i unrhyw un arall weld hyn, dim ond chi.

Defnyddiwch yr ap am ddim hwn i wrthsefyll neu reoli’r awydd i hunan-niweidio drwy wahanol weithgareddau. Mae’r ap yn un preifat ac wedi’i ddiogelu gan gyfrinair.

Mae’n rhan o lyfrgell appiau Iechyd Meddwl y GIG.

Rhowch gynnig ar ymarferion anadlu neu bethau eraill sy’n eich helpu i ymlacio er mwyn lleihau teimladau o bryder

Pam mae pobl yn hunan-niweidio?

Gall hunan-niweidio effeithio ar unrhyw un. Mae’n aml yn ffordd i bobl ddelio â phethau sy’n digwydd yn eu bywydau, fel cael eu bwlio neu bwysau yn yr ysgol. Weithiau nid yw pobl yn gwybod pam y dechreuon nhw.

Mae’r rhesymau cyffredin sy’n achosi i rywun hunan-niweidio yn cynnwys:

– Ymdopi â theimladau anodd, fel gorbryder, dicter, iselder neu ddiffyg teimlad

– Pwysau neu straen yn yr ysgol, y cartref neu’r gwaith

– Bwlio

– Camdriniaeth rywiol, corfforol neu emosiynol

– Marwolaeth rhywun rydych chi’n ei adnabod

– Tôr-perthynas

– Salwch neu heriau iechyd

– Hunan-barch isel

– Dangos i eraill sut rydych chi’n teimlo

I bobl eraill, gall y rhesymau dros hunan-niweidio fod yn llai clir.

Os nad ydych yn deall y rhesymau dros eich hunan-niweidio, peidiwch â phoeni – nid ydych ar eich pen eich hun. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei drafod gyda chi a’ch cefnogi.

Weithiau, ystyrir mai hunan-niweidio yw’r unig ffordd o ymdopi neu gymryd rheolaeth, ond nid yw hynny’n wir.

Mae llawer o bobl ifanc yn dweud mai dweud wrth rywun am eu hunan-niweidio yw un o’r ffyrdd gorau o ymdopi. Mae’n golygu dydyn nhw ddim wedi gorfod delio â phopeth ar eu pennau eu hunain.

Edrychwch ar ein tudalen Dechrau sgwrs am gyngor ar sut i siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo am yr hyn sy’n digwydd gyda chi.

Mae rhai pobl yn credu bod hunan-niweidio yn ffordd o geisio cael sylw. Nid yw hyn yn wir.

Gall y sylwadau hyn wneud i bobl deimlo cywilydd ac yn unig. Mae llawer o bobl sy’n hunan-niweidio yn ei gadw’n breifat oherwydd mae’n boenus nad yw pobl eraill yn deall eu meddyliau a’u teimladau.

Nid yw hunan-niweidio yn eich diffinio – mae llawer o bethau pwysicach eraill sy’n diffinio eich cymeriad.

Cofiwch, nid oes unrhyw beth o’i le ar ddymuno i’ch gofid gael ei gydnabod a’i gymryd o ddifrif gan eich ffrindiau, eich teulu a’r gweithwyr proffesiynol yr ydych yn gweithio gyda nhw.

Alcohol, cyffuriau a hunan-niweidio

Mae rhai pobl yn brifo eu hunain i geisio teimlo mwy o reolaeth dros eu bywydau. Gallant ddechrau ymddwyn mewn ffyrdd a allai eu rhoi mewn perygl, megis cwffio, cymdeithasu mewn mannau anniogel neu wneud penderfyniadau sy’n peryglu eu bywydau.

Gallai hyn hefyd gynnwys defnyddio cyffuriau ac alcohol, ac weithiau gall hyn wneud i bobl wneud pethau na fyddent yn eu gwneud pe baent yn sobr. Mae rhai pobl yn gweld bod yfed alcohol neu gymryd cyffuriau yn cynyddu’r tebygolrwydd o hunan-niweidio.