Gall mynd i banig neu gael pyliau o banig fod yn frawychus – i’r sawl sy’n cael un ac unrhyw un sy’n ei weld yn digwydd.

Er y gall mynd i banig fod yn ddwys iawn ac yn llethol, nid yw’n beryglus.   Mae ffyrdd o gadw rheolaeth a’ch helpu i deimlo’n well.

Sut mae pyliau o banig yn gwneud i chi deimlo?

Mae rhai pobl yn cael pyliau o banig – dyma fersiwn eithafol o banig a phryder.  Gallai deimlo’n fwy dwys na phryder arferol, a phara am fwy o amser neu ddigwydd yn ddirybudd.

Gall pyliau o banig deimlo fel:

  • Bod eich curiad calon yn rasio
  • Gallech deimlo’n benysgafn, fel pe baech ar fin llewygu efallai
  • Rydych chi’n boeth ac yn chwyslyd, neu’n oer ac yn crynu
  • Rydych chi wedi datgysylltu oddi wrth eich corff
  • Rydych chi eisiau dianc
  • Mae gennych gur pen
  • Mae eich clustiau’n canu
  • Rydych chi’n teimlo fel nad ydych yn gallu anadlu digon neu nad ydych yn gallu dal eich anadl

Mae’r rhan fwyaf o byliau o banig yn para rhwng 5 ac 20 munud, ond gallant bara hyd at awr.

Bydd rhai pobl yn eu cael yn rheolaidd iawn (sawl gwaith yr wythnos) ond gallant hefyd fod yn rhywbeth untro.

Os oes gennych symptomau corfforol sy’n parhau neu’n gwaethygu gydag amser, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â meddyg.   Gall helpu i ddiystyru unrhyw achosion eraill o’r symptomau hyn a’ch atgyfeirio at y Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl os oes angen.

Mae pyliau o banig yn frawychus ond nid ydynt yn beryglus – ni fyddant yn achosi unrhyw niwed corfforol i chi ac mae’n annhebygol y byddai angen i chi fynd i’r ysbyty.   Bydd y symptomau’n pasio, er gallech deimlo’n flinedig wedyn.

 

Beth galla i ei wneud?

Mae pyliau o banig yn frawychus ond mae’n bwysig peidio â gadael i’ch ofn o byliau o banig eich rheoli.

Mae pyliau o banig bob amser yn pasio ac mae’r symptomau’n cael eu hachosi gan bryder – nid ydych mewn unrhyw berygl.   Er y gallech deimlo’n sâl neu boeni y gallech gael trawiad ar y galon, mae’n anghyffredin iawn y bydd y pethau hyn yn digwydd.

During a panic attack

  • Canolbwyntiwch ar eich anadlu – peidiwch â dal eich anadl!
  • Ceisiwch gau eich llygaid.
  • Anadlwch i mewn yn araf drwy eich trwyn wrth i chi gyfrif i bump. Anadlwch allan yn araf drwy eich ceg wrth i chi gyfri i 1.
  • Gwnewch hyn am gyhyd ag sydd angen i chi.
  • Mae gan Childline ymarferion anadlu eraill yma

Sut i atal pyliau o banig yn y dyfodol

  • Mae ymarferion anadlu dyddiol yn atal pyliau o banig ac yn eich helpu i’w rheoli
  • Gofalu amdanoch eich hun – bwyta prydau rheolaidd a cheisio gwneud rhywfaint o ymarfer corff bob dydd
  • Osgoi caffein, alcohol ac ysmygu – gall y rhain wneud pyliau o banig yn waeth!
  • Casglwch flwch o bethau sy’n gwneud i chi deimlo’n ddigynnwrf os oes angen

Nid yw mynd i banig yn arwydd bod gennych salwch meddwl neu gorfforol difrifol.

Efallai y gallai fod yn ddefnyddiol i chi siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel aelod o’r teulu, ffrind neu weithiwr proffesiynol fel nyrs ysgol neu feddyg teulu.

Os yw mynd i banig yn achosi heriau yn eich bywyd bob dydd neu os yw’r symptomau corfforol cysylltiedig yn parhau neu’n gwaethygu gydag amser, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â meddyg.   Gall helpu i ddiystyru unrhyw achosion eraill o’r symptomau hyn a’ch atgyfeirio at y Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl os oes angen.