Mae’n naturiol i fod eisiau teimlo fel ein bod ni’n perthyn. Weithiau pan fyddwn ni’n teimlo’n wahanol i bobl eraill, efallai y byddwn ni’n teimlo fel pe na baem yn ffitio. Gall hyn wneud i chi deimlo’n bryderus, yn ddryslyd neu’n ynysig.

Gall pobl deimlo’n wahanol am sawl rheswm, fel lliw eu croen, crefydd, bod yn LHDTC+, anabledd, gofalu am bobl eraill neu ddim ond teimlo nad ydynt yn ffitio

Mae’n iawn i fod yn wahanol ac mae’n iawn i fod chi eich hun.

Nid yw bod neu deimlo’n wahanol i bobl eraill yn golygu bod problem gyda’ch iechyd meddwl. Fodd bynnag, gall unrhyw effeithiau negyddol o deimlo’n wahanol effeithio ar eich lles emosiynol.

Mae llawer o bobl yn poeni eu bod yn teimlo’n wahanol, yn enwedig wrth i ni dyfu.

Os byddwch yn siarad â’ch ffrindiau a’ch teulu, efallai y byddwch yn synnu faint ohonynt sydd wedi teimlo’r un ffordd â chi ar ryw adeg yn eu bywyd – efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi rannu eich profiadau gyda nhw neu rywun arall yr ydych yn ymddiried ynddo.

Gall fod yn anodd cofio hyn os ydych yn cael profiad negyddol am deimlo’n wahanol, ond y pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n wahanol hefyd yw’r pethau sy’n eich gwneud chi’r person yr ydych chi.