Beth yw bwlio?

Bwlio yw pan fydd rhywun yn brifo’n gorfforol neu’n cam-drin person arall ar lafar. Gall gynnwys plagio rhywun yn ddiangen, gwneud i bobl deimlo’n ddrwg amdanynt eu hunain a gadael rhywun allan yn fwriadol.

Gall bwlio ddigwydd yn unrhyw le – gartref, yn yr ysgol, yn eich cymuned, neu hyd yn oed ar-lein.

Gall bwlio wneud i chi deimlo’n unig ac yn bryderus am wneud y pethau rydych chi fel arfer yn eu mwynhau.

Ond nid ydych ar eich pen eich hun – mae digon o bobl i siarad â nhw all eich helpu a’i atal rhag digwydd eto.

Mae Young Minds yn amlinellu rhai rhesymau penodol pam mae pobl yn bwlio eraill:

  •  Bwlio homoffobig – yn seiliedig ar eich cyfeiriadedd rhywiol
  •  Bwlio hiliol – oherwydd lliw eich croen
  •  Bwlio crefyddol – oherwydd eich crefydd neu’ch credoau
  •  Bwlio maint – yn seiliedig ar faint eich corff
  •  Bwlio rhywiaethol – yn canolbwyntio ar y ffaith eich bod chi o’r rhyw arall
  •  Seiber-fwlio – yn eich targedu ar-lein, yn aml yn ddienw
  •  Bwlio oherwydd eich bod yn wahanol

P’un a yw’n digwydd unwaith neu’n rheolaidd, mae bwlio’n peri pryder i’r sawl sy’n cael ei fwlio – ac mae’n gallu digwydd i bawb. Gall bwlio gael effaith negyddol wirioneddol ar eich lles emosiynol.

Mae bwlio am unrhyw reswm yn anghywir – ni waeth beth mae bwlis yn ei ddweud, nid ydych yn haeddu cael eich cam-drin gan eraill.

Nid oes gan unrhyw un yr hawl i’ch bwlio. Dylai pob plentyn a pherson ifanc deimlo’n ddiogel a chael ei gefnogi, ble bynnag y mae.

Beth galla i ei wneud?

Y peth gorau y gallwch ei wneud yw dweud wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel aelod o’r teulu, gofalwr neu rywun yn yr ysgol.

Gall fod yn anodd iawn dweud wrth rywun am eich profiad, ond gall wneud gwahaniaeth go iawn. Ewch i’n tudalen dechrau sgwrs am awgrymiadau.

  •  Gallech hefyd gysylltu â llinell gymorth am help a chymorth ar unwaith (gweler gwaelod y dudalen)
  •  Mae Cymdeithas y Plant wedi paratoi rhestr o gyngor ar gyfer delio â bwlis, os ydych yn cael eich bwlio neu os ydych yn ei weld yn digwydd i rywun arall.
  • Os ydych chi’n gweld rhywun arall yn cael ei fwlio, ceisiwch feddwl sut y gallai wneud i chi deimlo pe byddech chi’n cael eich bwlio. Efallai y byddech chi’n teimlo ar eich pen eich hun, neu’n ofnus, neu’n poeni am y dyfodol. Gallai estyn llaw atynt a’u cynnwys wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w lles.
  •  Os ydych chi’n meddwl bod rhywun arall yn cael ei fwlio, mae’n iawn rhoi gwybod am y peth i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo. Ni ddylech gael eich cosbi am hyn!