Gall problemau bwyta fod yn gymhleth iawn gyda llawer o achosion gwahanol.

Mae problemau gyda bwyta’n ymwneud â mwy na newid eich deiet neu boeni am eich golwg. Gallant gymryd dros eich bywyd a chael effaith fawr ar eich teulu a’ch ffrindiau.

Beth yw anhwylder bwyta?

Math o salwch meddwl sy’n cynnwys ymddygiadau bwyta anarferol yw anhwylder bwyta.

Gallai fod yn un o’r canlynol:

  •  peidio â bwyta digon o fwyd
  •  bwyta llawer o fwyd ar y tro
  •  ymprydio
  •  ymarfer corff gormodol
  •  neu gyfuniad o’r ymddygiadau hyn ac ymddygiadau eraill

Mae’n bwysig cofio nad yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â bwyd – maent fel arfer yn fecanwaith ymdopi neu ffordd i rywun deimlo mewn rheolaeth.

Pam mae pobl yn datblygu anhwylderau bwyta?

Mae llawer o resymau pam y gallai person ddatblygu anhwylder bwyta. Weithiau mae’n amhosibl dweud beth oedd yr achos.

Gall unrhyw un ddatblygu un, ni waeth beth y bo’i oedran, ei ryw na’i gefndir.

Efallai y bydd rhywbeth sy’n sbarduno’r ymddygiad hwn, megis:

  •  straen
  •  marwolaeth rhywun sy’n bwysig i chi
  •  perthynas yn chwalu
  •  ymhlith eraill

Efallai nad yw hyn yn ymddangos yn broblem fawr i rywun arall, ond mae’n cael effaith fawr ar y person sydd â’r salwch.

Nid yw pobl ag anhwylderau bwyta yn dewis eu datblygu ac nid eu bai nhw ydyw eu bod yn sâl

Beat, elusen y DU ar gyfer anhwylderau bwyta

Mathau o anhwylderau bwyta

Mae anhwylderau bwyta yn fath o salwch meddwl – mae’n fwy cyffredin sylwi ar y newidiadau yn nheimladau neu ymddygiad rhywun cyn sylwi ar unrhyw newidiadau o ran eu golwg.

Mae anhwylderau bwyta yn amrywio rhwng pobl. Nid oes rhaid i berson ddangos yr holl arwyddion hyn iddo fod yn sâl.

Mae rhai arwyddion cyffredinol a allai fod yn gysylltiedig â phob anhwylder bwyta yn cynnwys:

  •  siarad am fwyta neu brydau bwyd yn aml neu ymddwyn yn gyfrinachol amdano
  •  teimlo’n hunanymwybodol wrth fwyta o flaen pobl eraill
  •  hunan-barch isel
  •  anniddigrwydd a hwyliau anghyson
  •  blinder
  •  tynnu’n ôl o ffrindiau ac aelodau’r teulu
  •  teimlo cywilydd, euogrwydd a phryder

Rydym yn argymell edrych ar wefan Beat i gael rhagor o wybodaeth am fathau o anhwylderau bwyta.

Sut galla i gael help?

Mae anhwylderau bwyta yn gyflyrau iechyd meddwl difrifol gan y gallant effeithio ar eich iechyd meddwl a chorfforol. Os ydych yn cael problemau bwyta, mae’n bwysig i chi gael gafael ar gymorth cyn gynted â phosibl.

Rydym yn argymell siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo ac yn mynd i weld eich meddyg teulu. Byddant yn gallu eich atgyfeirio at Les Emosiynol ac Iechyd Meddwl ar gyfer asesiad gyda’n Tîm Anhwylder Bwyta.

Cymorth dros y ffôn ac ar-lein

Mae Beat, elusen y DU ar gyfer anhwylderau bwyta, yn darparu cymorth dros y ffôn ac ar-lein, sydd ar gael bob dydd o’r flwyddyn rhwng 9am ac 8pm yn yr wythnos a 4pm ac 8pm ar benwythnosau.

Llinell Gymorth ar gyfer Cymru – 0808 801 0433

Maent hefyd yn cynnal sgwrs un i un ar y we a chymorth e-bost – darganfyddwch fwy yma