Os ydych yn teimlo na allwch eich cadw eich hun neu eraill yn ddiogel, cliciwch yma am gyngor brys.

 

 

Hunanladdiad yw pan fo rhywun yn cymryd ei f/bywyd ei hun.

Gall meddwl am hunanladdiad fod yn wahanol bethau i wahanol bobl:

  • teimlo y byddai pobl yn well eu byd hebddoch
  • meddyliau am ddiweddu eich bywyd eich hun
  • gwneud cynlluniau clir i gymryd eich bywyd eich hun

Gall meddyliau fel hyn godi dychryn, fod yn ddryslyd ac yn llethol.

Sut galla’i gael help?

Cliciwch yma os oes arnoch angen help ar frys.

Gall meddwl am hunanladdiad fod yn arwydd o heriau iechyd meddwl eraill sy’n eich wynebu, fel iselder neu orbryder.

Os yw meddyliau am hunanladdiad yn effeithio arnoch, dylech siarad ag aelod o’r teulu, athro neu athrawes, gweithiwr ieuenctid neu feddyg teulu. Gall eich ysgol neu eich meddyg teulu eich cyfeirio at Les Emosiynol ac Iechyd Meddwl

Ffyrdd o’ch help eich hun yn awr

Efallai eich bod yn teimlo wedi eich llethu ac mewn cymaint o boen na allwch gredu y daw’r teimladau hyn fyth i ben.

Mae llawer o bobl ifanc yn canfod nad yw’r teimladau hyn yn para, a’u bod yn mynd heibio yn fuan.

Dyma gamau y gallwch eu cymryd y funud hon i’ch atal eich hun rhag gweithredu ar feddyliau am hunanladdiad.

  • Ewch trwy’r pum munud nesaf gan gymryd pethau fesul munud
  • Symudwch unrhyw beth y gallech ddefnyddio i anafu eich hun, neu symudwch i le saffach
  • Os oes gennych gynllun diogelwch, dilynwch ef
  • Dywedwch wrth rywun sut yr ydych yn teimlo – gall hyn wneud i chi deimlo a mwy o reolaeth ac yn llai unig

  • Gofalwch am eich anghenion – eisteddwch yn rhywle cyfforddus, cymerwch rywbeth i’w fwyta, ysgrifennwch am sut yr ydych yn teimlo
  • Ewch y tu allan – teimlwch fwy o gysylltiad â’ch corff a phobl eraill
  • Peidiwch ag yfed alcohol neu gymryd cyffuriau gan y gall hyn wneud i chi deimlo’n waeth

  • Cynlluniwch gael cefnogaeth os nad ydych yn ei gael eisoes
  • Dewch o hyd i’ch rhesymau dros fyw
    • At beth ydych chi’n edrych ymlaen?
    • Gwnewch gynlluniau i wneud rhywbeth yr ydych yn ei fwynhau yfory neu’r wythnos nesaf
    • Meddyliwch am y bobl sy’n annwyl i chi
  • Byddwch yn garedig wrthych eich hun
    • Siaradwch â’ch hunan fel petaech yn siarad â ffrind
    • Gwnewch rywbeth neis i chi’ch hun
  • Dywedwch wrthych eich hun y gallwch fynd trwy hyn

Ffyrdd i’ch helpu eich hun yn y tymor hir

Pan gewch gyfle i feddwl yn glir, efallai y byddwch am feddwl am bethau y gallwch wneud i ofalu amdanoch eich hun yn y tymor hwy.

Cynllun diogelwch yw eich cynllun personol i’ch cefnogi ar adegau pan fydd gennych feddyliau neu deimladau am hunanladdiad. Gall gynnwys y canlynol:

  • eich arwyddion rhybuddio a sut i sylwi arnynt
  • strategaethau ymdopi sydd wedi eich helpu yn y gorffennol a beth y gallwch wneud yn awr
  • enwau a manylion cyswllt pobl hall eich helpu
  • enwau a manylion cyswllt gweithwyr proffesiynol y gallwch gysylltu â hwy os oes arnoch angen help
  • llinellau cymorth a gwasanaethau gwrando
  • camau y gallwch eu cymryd i wneud y lle’r ydych yn saff
  • a lle diogel i fynd iddo os oes angen

Ceisiwch wneud eich cynllun pan fedrwch feddwl yn glir am yr hyn fyddai o gymorth i chi.

Efalla y gall fod o gymorth i chi gwblhau eich cynllun gyda rhywun yr ydych yn ymddiried ynddi/o. Gallech roi copi iddynt ei gadw.

Oes yna rywbeth sy’n gwneud i chi deimlo fel hyn?

Gall cadw dyddiadur neu olrhain eich hwyliau eich helpu i ddod o hyd i batrymau yn eich hwyliau dros amser a meddwl am beth allai beri i chi deimlo fel lladd eich hun.

Mae gan bawb ffyrdd gwahanol o ymdopi gyda theimladau sy’n eu llethu. Mae’n bwysig i chi ddod o hyd i ffyrdd sy’n gweithio i chi.

  • gallech wneud bocs hapus yn llawn o atgofion ac eitemau sy’n codi eich hwyliau i edrych arnynt pan fyddwch yn teimlo’n isel
  • gallech ysgrifennu neu dynnu llun am sut yr ydych yn teimlo
  • gallech ffonio ffrind a siarad am rywbeth yr ydych yn edrych ymlaen ato
  • gallech wneud rhywbeth sy’n gwneud i chi ymlacio, fel darllen llyfr, lliwio, neu fynd allan
  • gallech gysylltu â llinell gymorth fel Meic i gael gair gyda chwnselydd hyfforddedig am y ffordd yr ydych yn teimlo

Edrychwch ar ein tudalennau am ofalu am eich lles i gael mwy o syniadau. Os ydych yn cyrchu gwasanaeth arbenigol, gallwch siarad am wahanol strategaethau ymdopi gyda’ch ymarferydd a all fod â rhai syniadau i chi.

Os ydych wedi meddwl am hunanladdiad neu wedi ceisio gwneud hynny yn y gorffennol, fe allwch deimlo’n euog am hyn – yn enwedig os yw’r bobl sy’n eich caru yn pryderu amdanoch.

Yn union fel y byddwn yn edrych yn ôl ac yn derbyn fod rhywbeth wedi gwneud i ni deimlo’n drist, yn ddig neu’n bryderus, ceisiwch dderbyn mai fel yna roeddech yn teimlo ar y pryd. Nid eich bai chi oedd o.

Ceisiwch ganoli eich ynni ar edrych ar ôl eich hun.

Mae llawer ffordd o wneud hyn:

  • gofyn am help
  • dweud wrth bobl sut yr ydych yn teimlo a beth sydd o help i chi
  • gofyn i bobl fod gyda chi os oes arnoch eu hangen
  • gwirfoddoli
  • trïwch gael cefnogaeth gan gyfoedion – siarad â phobl eraill sydd wedi teimlo’r un fath

  • cael digon o gwsg bob nos
  • osgoi cyffuriau hamdden ac alcohol gan y gall hyn wneud i chi deimlo’n waeth

Pam fod pobl yn meddwl am hunanladdiad?

Gall teimlo heb allu ymdopi â heriau’r gorffennol a’r presennol yn eich bywyd wneud i chi deimlo fel lladd eich hun.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • heriau iechyd meddwl
  • bwlio neu gamwahaniaethu
  • marwolaeth rhywun sy’n bwysig i chi
  • perthynas yn chwalu
  • problemau arian neu dai
  • bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol
  • amheuon neu ddryswch am eich hunaniaeth rywiol neu ryweddol
  • camdriniaeth gorfforol, feddyliol, emosiynol neu rywiol – yn awr neu yn y gorffennol
  • poen neu salwch tymor hir

Weithiau, wyddom ni ddim pam ein bod yn cael y teimladau hyn. Gall hyn ei gwneud yn anodd credu y gallai fod ateb.

Dim ots beth yw’r rheswm, mae cefnogaeth ar gael i’ch helpu i ymdopi â’r teimladau hyn.

Sut deimlad ydyw?

Mae gan bawb brofiad gwahanol o feddwl neu deimlo am hunanladdiad.

Mae rhai pobl yn teimlo fel na allant ymdopi â’r teimladau. Bydd rhai pobl yn teimlo na allant ddal ati i fyw fel y maent.

Ymysg teimladau cyffredin mae:

  • anobaith
  • diwerth
  • y byddai pobl yn well hebddoch
  • dagreuol
  • diobaith neu heb ddewis arall
  • cael eich llethu gan feddyliau negyddol
  • poen annioddefol
  • dideimlad neu ar wahân i’ch corff

Gallwch hefyd deimlo’r canlynol:

  • newid mewn archwaeth
  • cysgu’n wael
  • teimlo fel nad ydych eisiau edrych ar ôl eich hun
  • eisiau osgoi pobl
  • cymhelliant i’ch anafu eich hun
  • diffyg hunan-barch a chasáu eich hun
  • cael anhawster cyfleu sut yr ydych yn teimlo

Llinellau cymorth

Os ydych yn meddwl am hunanladdiad, y peth pwysicaf y gallwch wneud yw dweud wrth rywun yr ydych yn ymddiried ynddi/o am y ffordd yr ydych yn teimlo.

Efallai bod rhywun yn eich bywyd y gallwch siarad ag ef neu hi. Yr ydym wedi cynnwys rhai llinellau cymorth isod y gallwch gysylltu â hwy a siarad gyda rhywun am eich teimladau.

Other resources

Other resources to help if you are having suicidal thoughts.