Mae tair ffordd y gall plant a phobl ifanc gael cymorth ar gyfer eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg:

  1. Drwy eich ysgol
  2. Drwy eich gwasanaeth cymorth cynnar lleol
  3. Drwy’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad

Mae’r pwyntiau mynediad hyn i gyd wedi’u cysylltu.

Os ceisiwch help drwy un llwybr, ond gallai un arall fod yn fwy addas i chi a’ch sefyllfa, byddwn yn sicrhau eich bod yn gallu cael gafael ar y llwybr arall hwn heb unrhyw ymdrech ychwanegol ar eich rhan chi – rydym yn galw hyn y dull ‘does dim drws anghywir’.

Nid yw un fath o gymorth yn well nag un arall – mae’r cyfan yn dibynnu ar beth yr hyn sy’n diwallu eich anghenion orau a’r hyn yr ydych chi am ei gyflawni.

Er bod gwasanaethau arbenigol yn bwysig, mae llawer o leoedd eraill i fynd atynt am gymorth.

Dylai pawb rydych yn rhyngweithio â nhw – boed hynny’n deulu, yn athro neu’n oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo – gadw eich lles emosiynol wrth wraidd popeth a wnânt.

Mae fideo defnyddiol yn esbonio hyn isod.

 

Cymorth drwy eich ysgol

Mae athrawon a staff ysgolion eraill yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu hyfforddi i ddeall iechyd meddwl yn well fel eu bod yn gallu eich cefnogi a gwrando arnoch chi.

Mae’r unigolion hyn yn eich gweld bob dydd ac yn eich adnabod yn dda, a gallant eich cefnogi ar eich taith lles (os byddai hyn o gymorth i chi).

  • Mae gan bob ysgol nyrs ysgol. Gallwch siarad â nyrs eich ysgol am unrhyw beth rydych eisiau – gan gynnwys eich lles emosiynol.
  • Gallwch hefyd anfon neges destun at nyrs ysgol ar 07520 615 718 yn ystod oriau ysgol gyda Chat Health.
  • Bydd gan bob ysgol uwchradd hefyd gwnselydd ysgol.
  • Bydd pob ysgo uwchraddl yn cael amser gydag ymarferydd iechyd meddwl bob wythnos. Mae’r ymarferwyr hyn yn rhoi cyngor i staff yr ysgol ond gallant hefyd weithio gyda phobl ifanc yn uniongyrchol. Bydd hwn naill ai’n sesiwn un i un neu sesiwn grŵp yn dibynnu ar anghenion y bobl ifanc yn yr ysgol.
  • Rhywfaint o blant a phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd gael eu cefnogi gan Y Prosiect Gwydnwch. Os yw’r gwasanaeth hwn yn addas i chi, bydd eich ysgol yn gallu cysylltu â’r tîm.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am dderbyn cymorth drwy eich ysgol, siaradwch ag Arweinydd Lles eich ysgol i gael gwybod mwy.

Sylwer: Rydym yn newid ein cynnig i ysgolion i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a staff yr ysgol yn well. Bydd newidiadau’n dechrau cael eu cyfathrebu yng Ngwanwyn 2022

Cymorth drwy eich gwasanaeth cymorth cynnar lleol

Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhoi gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar ystod o bynciau a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu.

Mae enghreifftiau’n cynnwys hunan-barch isel, perthynas â’ch teulu a cholli person pwysig yn eich bywyd.

Mae’r rhain yn wahanol gan eu bod yn cael eu rhedeg gan y ddau gyngor gwahanol – ond maent yn cynnig yr un gwasanaeth.

Ble bynnag rydych yn byw, bydd y gwasanaeth cymorth cynnar yn gwrando arnoch chi ac yn asesu eich anghenion. Byddant naill ai’n eich cefnogi chi a’ch teulu yn uniongyrchol neu’n eich cyfeirio at wasanaeth a all eich helpu gydag anghenion penodol.

Mae ymarferwyr iechyd meddwl yn gweithio gyda staff cymorth cynnar i’w cynghori ac i roi cymorth i chi er eich lles emosiynol os mai dyma sydd ei angen arnoch.

Cymorth drwy’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad

Mae Un Pwynt Mynediad yn wasanaeth sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac mae’n cynnig gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc.

Ar hyn o bryd, dim ond mathau penodol o weithwyr proffesiynol all eich atgyfeirio at y gwasanaeth Un Pwynt Mynediad, gan gynnwys:

  • eich Meddyg Teulu
  • Ymwelydd Iechyd eich teulu
  • eich gweithiwr cymdeithasol

Ar ôl i ni dderbyn eich atgyfeiriad, bydd tîm o weithwyr proffesiynol yn cyfarfod i benderfynu pa dîm sydd yn y sefyllfa orau i roi’r help sydd ei angen arnoch.  Efallai y byddant yn cysylltu â chi neu’ch teulu i gael gwybod mwy am beth sy’n digwydd gyda chi a’r hyn yr hoffech ei gyflawni er mwyn helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Mae yna nifer o wasanaethau ar draws Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol.

Efallai y gallwch dderbyn cymorth sy’n fwy addas ar gyfer eich anghenion yn eich ysgol, drwy wasanaeth cymorth cynnar lleol neu gyda sefydliad arall – os felly, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi i gysylltu â nhw, neu byddwn yn gofyn i chi a allwn wneud atgyfeiriad ar eich rhan.

Os bydd eich sefyllfa’n newid, byddwn yn ystyried hyn ac yn sicrhau y bydd y cymorth yr ydych yn derbyn yn eich helpu i gyflawni eich nodau.