Mae pob un ohonom eisiau gofalu am ein hanwyliaid.

Os ydych yn berson ifanc sy’n gofalu am bobl eraill, mae’n bwysig eich bod yn cael y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnoch i ofalu amdanoch chi eich hun a’ch teulu.

Beth yw gofalwr ifanc?

Gofalwr ifanc yw rhywun o dan 18 oed sy’n gofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â heriau iechyd meddwl neu sy’n gaeth i gyffuriau neu alcohol.

Mae gofalwr sy’n oedolyn ifanc yn gwneud yr un peth ond mae hyd at 25 oed.

Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud i’ch teulu yn rhan o’ch trefn ddyddiol ac mae’n debyg ei fod yn teimlo’n normal – efallai y byddai’n rhyfedd meddwl amdanoch chi’ch hun fel ‘gofalwr’!

Mae gofalu am bobl eraill yn gyfrifoldeb mawr a gall fod yn ddwys iawn – gall gofalwyr ifanc fod yn gofalu am aelodau eu teulu 24/7 drwy roi meddyginiaeth iddynt, coginio prydau bwyd, a glanhau’r cartref ymhlith pethau eraill.

Gall hyn fod yn llawer o waith, yn enwedig os yw’n ychwanegol i fynd i’r ysgol, gwaith ac unrhyw ymrwymiadau eraill sydd gennych.

Mae help ar gael i chi os yw gofalu’n cael effaith ar eich gwaith ysgol neu eich lles eich hun.

Ni ddylech deimlo cywilydd yn derbyn cymorth – mae angen help ar bob un ohonom weithiau.

Edrychwch ar ein hadnoddau isod am leoedd y gallwch fynd iddynt am wybodaeth a chefnogaeth.

Mae yna hefyd wasanaethau y gallwch fynd iddynt a all eich helpu i gwrdd â gofalwyr eraill.  Gallai fod yn gyfle i wneud ffrindiau newydd gyda phobl sydd â phrofiad tebyg i chi.