hollytarren

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe lansiwyd ein Un Pwynt Mynediad (UPM).  

Dyma’r pwynt mynediad i bob cais am gymorth gan ein gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl 

Mae ein tîm o glinigwyr:

  • yn edrych ar yr holl geisiadau sy’n dod i mewn,
  • eu brysbennu a gweithio gyda’r person ifanc, ei deulu a’i atgyfeirydd i benderfynu pa gefnogaeth sydd ei hangen i ddiwallu anghenion y person ifanc hwnnw.  

Mae ein clinigwyr hefyd yn cynnig llinell ffôn ymgynghori i weithwyr proffesiynol lle gallant alw am gyngor ar sut i gefnogi pobl ifanc y gallent fod yn poeni amdanynt.  

Mae’n bwysig i ni ddweud wrth bobl ifanc, teuluoedd a’n cyd-weithwyr proffesiynol yr hyn rydyn ni’n ei wneud i wella ein gwasanaethau.   

Pwrpas y blog hwn yw eich diweddaru ar flwyddyn gyntaf yr Un Pwynt Mynediad. 

Y broblem yr oeddem yn mynd i’r afael a hi   

O’r blaen, byddai rhai pobl ifanc fyddai’n cyrchu cefnogaeth gennym yn bownsio rhwng gwahanol wasanaethau gan nad oedd neb yn siŵr pa help oedd ei angen arnynt. 

Arweiniodd hyn at oedi, ac mi allai fod yn rhwystredig ac yn ddryslyd i bobl ifanc a’u teuluoedd.  

Roedden ni eisiau newid pethau fel bod mwy o bobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir i ddiwallu eu hanghenion ar y cynnig cyntaf.  

Mae hyn yn llai rhwystredig i bobl ifanc oherwydd:  

  • byddant yn cael help ynghynt 
  • does dim rhaid iddyn nhw ddweud eu stori gymaint o weithiau

Doedd unman chwaith i bobl broffesiynol gael cyngor ar sut i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl.  

Y data

Dros y flwyddyn ddiwethaf, cwblhaodd y tîm Un Pwynt Mynediad dros ymgynghoriadau 920.   

Roedd rhwng 10 – 20 % o ymgynghoriadau bob mis yn arwain at gais pellach am gymorth. Roedd y rhan fwyaf o ymgynghoriadau’n rhoi gwybodaeth a chyngor i weithwyr proffesiynol. 

Mae hyn yn golygu y gall llawer o weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn hysbys i bobl ifanc a’u bod yn ymddiried ynddynt barhau i’w helpu 

Y pynciau mwyaf cyffredin sy’n codi mewn ymgynghoriadau yw meddyliau hunanladdol, gorbryder, hwyliau isel, anhwylderau bwyta a hunan-niweidio

Beth mae hyn yn ei olygu? 

Mae’r data yma yn ein helpu i benderfynu sut i ddefnyddio ein hadnoddau i gefnogi pobl ifanc yn well. 

Yn ddiweddar cawsom arian ar gyfer dau glinigwr arall i weithio yn yr Un Pwynt Mynediad. Byddwn yn gallu cefnogi mwy o blant a phobl ifanc drwy:  

  • gael mwy o sgyrsiau gyda phobl ifanc a theuluoedd, a  
  • phrosesu mwy o geisiadau am gymorth 

Roedd pryderon am anhwylderau bwyta a bwyta yn thema gyffredin.  mae ein tîm Anhwylderau Bwyta wedi dechrau gweithio yn yr Un Pwynt Mynediad yn rheolaidd i gefnogi pobl sy’n wynebu’r heriau hyn. 

Mae’r tîm Un Pwynt Mynediad yn cwrdd yn rheolaidd â gweithwyr proffesiynol o dimau Cymorth Cynnar lleol i siarad am sut y gallwn ni gydweithio er mwyn helpu pobl ifanc a’u teuluoedd. Rydym yn chwili o am gyfleoedd i weithio gyda gweithwyr proffesiynol a thimau eraill yn yr un ffordd.  

Beth nesaf?  

Ry’n ni’n gwybod bod pobl ifanc yn dal i aros yn rhy hir i gael gafael ar gymorth gennym ni.  Rydym yn gweithio’n galed i wella hyn: 

Rydym wedi dod â Thîm Asesu newydd i mewn er mwyn sicrhau bod pobl ifanc sydd angen asesiad iechyd meddwl yn gallu cael un o fewn 28 diwrnod o ofyn am gymorth.

Rydyn ni’n dod â Thîm Ymyriadau Byr i mewn gyda chynlluniau strwythuredig i gwtogi’r  amser aros am ymyrraeth  

Mae gan ein tîm Anhwylderau Bwyta lawer o staff newydd er mwyn helpu i gwtogi’r rhestr aros ac i ddechrau cynnal grwpiau ar gyfer teuluoedd i gefnogi pobl ifanc gartref    

Mae ein tîm Argyfwng bellach yn rhedeg o 9am tan hanner nos bob dydd i gefnogi pobl ifanc mewn argyfwng y tu allan i oriau gwaith  

Byddwn yn ysgrifennu blog ar y rhain pan fydd gennym ychydig mwy o ddata i’w rannu.  

Diolch am roi o’ch amser i ddarllen y diweddariad hwn.  

Gwerthfawrogwn eich barn – cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.