Gallai fod angen cymorth emosiynol ar blant a phobl ifanc am nifer o resymau, waeth beth fo’u hoedran.

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol, mae gennym adnoddau i’ch helpu chi i gefnogi plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol.

Gall gweithwyr proffesiynol hefyd gysylltu â’r Pwynt Mynediad Unigol i gael cyngor iechyd meddwl arbenigol – dysgwch fwy yma.

Mae gennym hefyd restr A-Y o adnoddau i rieni a phobl ifanc.

Mae’r dudalen hon yn parhau i gael ei datblygu.  Os oes gennych unrhyw syniadau neu adnoddau yr hoffech eu rhannu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Rhieni, gofalwyr a lles emosiynol

Er ein bod yn cynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc dan 18 oed, rydym yn cydnabod y gall yr oedolion yn eu bywydau hefyd fod yn wynebu eu heriau eu hunain gyda’u lles emosiynol ac iechyd meddwl.

Os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i oedolyn ym mywyd y plentyn / person ifanc, rydym yn argymell y canlynol:

  • ei annog i edrych ar ein hadnoddau ar gyfer rhieni a gofalwyr
  • ei annog i edrych ar wefan Dewis Cymru i ddod o hyd i adnoddau lleol a allai helpu
  • ei annog i gysylltu â’i feddyg teulu i siarad am sut mae’n teimlo a sut mae’n effeithio ar ei fywyd

Adnoddau ac apiau ar-lein

Rydym wedi darparu adnoddau isod fel man cychwyn. Gallwch Gysylltu â Ni os oes gennych adnoddau ychwanegol i’w rhannu neu os oes pynciau yr hoffech glywed mwy amdanynt.

Nid yw’r adnoddau, yr apiau a’r llinellau cymorth hyn yn rhan o’r gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (oni nodir yn wahanol).

  • Nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys allanol a grybwyllir ar y wefan hon.
  • Dylech bob amser ddarllen Telerau ac Amodau a Pholisi Preifatrwydd ap i weld sut y gallai eich data gael ei ddefnyddio.

Addysg ac ysgolion

Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn treulio llawer o amser yn eu hysgol – felly mae’n bwysig bod yr amgylcheddau hyn yn ddiogel, yn groesawgar ac yn cefnogi eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl.

Rydym yn argymell bod staff ysgolion yn darllen y ddogfen ganlynol i ddeall eu cyfrifoldeb wrth adolygu eu tirwedd lles eu hunain ac i helpu i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau.

Mae Cymuned Addysg Barnardo’s wedi cael ei datblygu i gysylltu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg ar draws y Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion, Addysg Bellach a Phrifysgolion.

Gallwch gael gafael ar wahanol adnoddau ar nifer o bynciau, gan gynnwys podlediadau, fideos a digwyddiadau

Awgrymiadau a chyngor ar ddefnyddio dulliau PACE wrth gyfathrebu â phlant a phobl ifanc wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol.

Yn addas ar gyfer staff ysgolion cynradd ac uwchradd.

Elusen genedlaethol yw Cysylltiadau Teuluol sy’n ymroi i hybu iechyd emosiynol yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gwaith.

Mae’r elusen yn cynnig hyfforddiant ac adnoddau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd, staff ysgolion a phrifysgolion, a gweithwyr yn y gweithle.

Cewch ragor o wybodaeth ar eu gwefan.

Cyngor da i staff ysgol ar y pynciau canlynol:

  • Gorbryder
  • Hyder a hunan-barch
  • Anawsterau rheolaeth emosiynol
  • Hwyliau isel
  • OCD
  • Mudandod dethol
  • Hunan-niweidio
  • Hylendid cwsg

Strategaethau ysgol gynradd ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael anawsterau gydag ymddygiad byrbwyll, gorfywiogrwydd a thalu sylw.

Mudiad cymdeithasol oedd Amser i Newid i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn gweithredu am broblemau iechyd meddwl.

Caeodd yn 2021 ond gallwch ddarllen gwybodaeth ar-lein am iechyd meddwl a’r stigma sy’n dal i amgylchynu’r pwnc hwn o hyd.

Mae ganddynt gynlluniau hefyd ar gyfer gwersi a gwasanaethau, yn ogystal ag adnoddau eraill i ysgolion.

Rhestr gyfeirio o strategaethau ymarferol i staff ysgolion cynradd ac uwchradd, i’w defnyddio wrth ystyried cymorth ehangach i ddysgwr yn ystod y cyfnod pontio.

Mae’n bwysig iawn bod dysgwyr yn pontio mewn ffordd gadarnhaol – dysgwch fwy yma.

Mae poster i bobl ifanc hefyd ar gael yma.

Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu arferion sy’n ystyriol o drawma ar draws Cymru, gan ddarparu’r gefnogaeth orau posibl i’r rhai sydd ei hangen fwyaf. Cymru sy’n Ystyriol o Drawma.

Rheolaeth emosiynol

Adnodd ar gyfer staff addysg – wedi’i gynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc i reoleiddio.

Gemau a gweithgareddau i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i gysylltu a meithrin perthnasoedd.

Lles emosiynol

Mae llawer o adnoddau cyffredinol ar gael i ddysgu mwy am les emosiynol.

Mae ICC wedi llunio fframwaith cysyniadol sy’n rhoi darlun o’r berthynas rhwng lles unigolyn a chymuned ac elfennau allweddol sy’n dylanwadu ar les ar bob lefel.

Gallwch ddarllen mwy yma.

Mudiad cymdeithasol oedd Amser i Newid i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn gweithredu am broblemau iechyd meddwl.

Caeodd yn 2021 ond gallwch ddarllen gwybodaeth ar-lein am iechyd meddwl a’r stigma sy’n dal i amgylchynu’r pwnc hwn o hyd.

Gwybodaeth, cyngor ac adnoddau ynghylch iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Maent hefyd yn darparu llinell destun ar gyfer pobl ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl a llinell gymorth i rieni a gofalwyr.

Teulu

Gall problemau neu heriau sy’n wynebu’r teulu effeithio ar blant a phobl ifanc. Dyma rai adnoddau a allai helpu.

Gall rhieni a gofalwyr ddarllen mwy am y cymorth sydd ar gael iddynt yma.

Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhoi gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol am ystod o bynciau a allai effeithio arnyn nhw a’u teulu.

Mae enghreifftiau’n cynnwys hunan-barch isel, perthnasoedd teuluol a phrofedigaethau

Ble bynnag mae teulu’n byw, bydd y gwasanaeth cymorth cynnar yn gwrando arnyn nhw ac yn asesu eu hanghenion. Byddan nhw naill ai’n cefnogi’r teulu’n uniongyrchol neu’n eu cyfeirio at wasanaeth a all eu helpu gydag anghenion penodol.

Mae ein partner Platfform yn darparu ein gwasanaeth cymorth i rieni a gofalwyr. Ei nod yw cefnogi rhieni a gofalwyr i ofalu am eu lles eu hunain wrth ofalu am blentyn neu berson ifanc sy’n manteisio ar gymorth trwy Les Emosiynol ac Iechyd Meddwl.

Maent yn cynnig rhaglenni lles (2 awr/wythnos am chwe wythnos) i ddysgu am wahanol dechnegau a strategaethau i gefnogi lles rhieni / gofalwyr yn ogystal â’u teulu.

Gall rhieni a gofalwyr ddewis ymuno â grŵp ar-lein ar ôl cwblhau’r rhaglen i gael cefnogaeth barhaus ac fel ffordd o barhau i gwrdd ag eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg. Mae cwrdd â phobl eraill sy’n wynebu profiadau tebyg yn ein helpu i sylweddoli nad ydym ar ein pen ein hunain.

Gall gweithwyr proffesiynol a theuluoedd gysylltu â Platfform i Deuluoedd drwy’r dulliau canlynol:

Dysgu mwy am les emosiynol ac iechyd meddwl

Rydym wedi dod o hyd i gyrsiau ar-lein a allai fod yn ddefnyddiol i chi os ydych yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd

Cwrs am ddim i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Wedi’i ddatblygu i roi gwybodaeth i rieni a gofalwyr i gadw eu plentyn yn ddiogel mewn argyfwng.

Gellir gwneud y cwrs hwn yn eich amser eich hun trwy gyfres o fideos.

Cyngor a gwybodaeth i’ch helpu i ddeall sut y gall problemau ddigwydd, sut y gall rhieni/gofalwyr gefnogi eu teulu orau a sut i ofalu amdanyn nhw eu hunain, wedi’i lunio gan arbenigwyr a rhieni yn gweithio gyda’i gilydd.

Mae nifer o’n cyrsiau hefyd ar Youtube, a gallwch eu gwylio yn eich amser eich hun.

Mae’r rhain wedi cael eu datblygu ar gyfer staff addysg yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Gofalu am eich lles eich hun

Fel gweithiwr proffesiynol sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd, mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn cymryd amser i ofalu am eich lles eich hun.

Nid dim ond ar gyfer pobl ifanc sy’n ystyried hunanladdiad neu’r rhai sy’n poeni amdanynt mae HOPELINK UK. Maen nhw hefyd yn gefn i unrhyw weithiwr proffesiynol sydd wedi cael profiad o hunanladdiad ac a hoffai siarad am y profiad gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig.

Bydd rhai proffesiynau yn profi datgeliadau o feddyliau hunanladdol yn amlach na phroffesiynau eraill, ac mae’n bwysig bod pobl yn y proffesiynau hyn yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ofalu amdanyn nhw eu hunain pe bai rhywun yn siarad â nhw am feddyliau hunanladdol.

Gall unrhyw un fanteisio ar y gwasanaeth ôl-drafod, a byddem yn annog pawb i gysylltu â ni i drafod ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â hunanladdiad.

I drafod gydag un o’n hymgynghorwyr atal hunanladdiad, ffoniwch HOPELINEUK ar 0800 068 4141, tecstiwch 07860 039967 neu anfonwch neges e-bost pat@papyrus-uk.org bob dydd o’r flwyddyn rhwng 9am a hanner nos.

Pecyn cymorth ymarferol sy’n cynnwys gwybodaeth, adnoddau a gwybodaeth ymarferol arbennig i gefnogi timau ac unigolion i ffynnu.

Cyngor da i staff ar ofalu am eu hunain yn y cartref a’r ysgol.

Diogelwch a Diogelu

Trwy Gam-drin Domestig, Gwella Gyda’n Gilydd (DART), gall plant a mamau siarad â’i gilydd am gam-drin domestig, dysgu i gyfathrebu ac ailadeiladu eu perthynas.

Dros ddeg wythnos, mae mamau a phlant 7-14 oed yn cyfarfod am sesiwn grŵp wythnosol sy’n ddwy awr o hyd. Mae plant a mamau yn gweithio gyda’i gilydd am awr ar ddechrau’r grŵp, ac yna’n cymryd rhan mewn gweithgareddau mewn grwpiau ar wahân. Ar ddiwedd pob sesiwn, maen nhw’n ymuno â’i gilydd unwaith eto.

Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy e-bostio help@nspcc.org.uk

Mae InCtrl yn rhaglen grŵp i gynyddu gwydnwch digidol plant, gwella eu lles emosiynol a sicrhau bod ganddynt rwydweithiau cymorth cymdeithasol a theuluol effeithiol i helpu i’w cadw’n ddiogel.

Mae’r grwpiau’n cynnwys 3 i 8 person ac yn para hyd at 9 wythnos. Rydym yn datblygu cytundeb grŵp clir i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gyfforddus yn rhannu eu meddyliau a’u teimladau am bynciau fel cydsyniad, diogelwch ar-lein, perthnasoedd iach a hunan-barch.

Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy e-bostio help@nspcc.org.uk

Nod Derbyn y Dyfodol yw helpu plant a phobl ifanc sydd wedi profi cam-drin rhywiol i ailadeiladu eu bywydau.

Rydyn ni’n cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 4 a 17 oed fel eu bod yn gallu gwella o’r effaith mae camdriniaeth wedi’i chael ar eu bywydau. Gellir hefyd atgyfeirio plant neu bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu hyd at 19 oed.

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda thair neu bedair sesiwn wythnosol i ymarferwyr asesu anghenion y plentyn a dewis ymyriadau therapiwtig priodol.

Gwahoddir plant a phobl ifanc i fannau therapiwtig diogel lle gallant gyfarfod ag ymarferydd hyfforddedig a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwarae anniben, ysgrifennu, adrodd straeon a chelf. Nod hyn yw eu helpu i fynegi teimladau na allan nhw eu rhoi mewn geiriau.

E-bostiwch lettingthefuturein@nspcc.org.uk am fwy o wybodaeth

Hunan-niweidio a hunanladdiad

Ewch i Mae angen help arna i nawr! os ydych chi’n chwilio am gyngor ar unwaith ar gefnogi plentyn neu berson ifanc.

Mae holi am hunanladdiad yn achub bywydau ond gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau neu sut i helpu.

Mae’r adnodd hwn yn cynnwys syniadau enghreifftiol ar gyfer dechrau sgwrs os ydych chi’n poeni am rywun.

Mae Harmless yn arbenigo mewn hunan-niweidio a hunanladdiad.

Gallwch ddod o hyd i adnoddau fel taflenni, llyfrynnau a phapurau academaidd ar yn eu Canolfan Adnoddau.

Os ydych chi’n cael meddyliau am ladd eich hun neu’n poeni am berson ifanc mewn perthynas â hyn, gallwch gysylltu â HOPELINEUK am gymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol.

Ar agor 9am – 10pm yn ystod yr wythnos, 2pm – 10pm ar benwythnosau a gwyliau banc.

  • Ffoniwch 0800 068 4141
  • Tecstiwch 07860 039967
  • E-bostiwch pat@papyrus-uk.org am ymateb o fewn 24 awr

Mae HOPELINE UK hefyd yn cynnig adnoddau defnyddiol.

Mae’r llyfr gwaith hunangymorth hwn yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar hunan-niweidio.

Yn bwysicaf oll, mae’n cynnig technegau a dulliau i bobl ifanc i’w cadw’n ddiogel ac i helpu i leihau ymddygiad hunan-niweidiol yn ogystal â gwybodaeth am sut i gael cymorth a pha gymorth sydd ar gael.

Gallwch naill ai ei gwblhau ar eich pen eich hun neu gydag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo er mwyn iddo allu cynnig cymorth i chi.

Cyngor da ac awgrymiadau i ysgolion ynghylch hunan-niweidio

Sefydliadau sy’n ystyriol o drawma

Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu arferion sy’n ystyriol o drawma ar draws Cymru, gan ddarparu’r gefnogaeth orau posibl i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.