Mae tair ffordd y gall plant a phobl ifanc gael cymorth ar gyfer eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg:

  1. Drwy  ysgol eich plentyn
  2. Drwy eich gwasanaeth cymorth cynnar lleol
  3. Drwy’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad

No type of support is better than another – it all depends on what best meets your family’s needs and what the child or young person wants to achieve.

Mae’r pwyntiau mynediad hyn i gyd wedi’u cysylltu. Os ceisiwch help i’ch teulu drwy un llwybr, ond gallai un arall fod yn fwy addas i chi a’ch sefyllfa, byddwn yn sicrhau eich bod yn gallu cael gafael ar y llwybr hwn heb unrhyw ymdrech ychwanegol ar eich rhan chi – rydym yn galw hyn y dull ‘does dim drws anghywir’.

Rydym yn addo gwrando ar blant a phobl ifanc a chynnwys eu barn mewn penderfyniadau sy’n bwysig iddynt.  Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr hyn sy’n digwydd a beth i’w ddisgwyl.

Dylai pawb y mae plentyn neu berson ifanc yn rhyngweithio â nhw – boed hynny’n deulu, yn athro neu’n oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo – gadw eu lles emosiynol wrth wraidd popeth a wnânt.

Mae fideo defnyddiol yn esbonio hyn isod.

Cymorth drwy eich ysgol

Mae athrawon a staff ysgolion eraill yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu hyfforddi i ddeall iechyd meddwl yn well fel eu bod yn gallu cefnogi a gwrando ar blant a phobl ifanc.

Mae’r unigolion hyn yn gweld plant a phobl ifanc bob dydd ac yn eu hadnabod yn dda, fel y gallant eu cefnogi ar eu taith lles

  • Mae gan bob ysgol uwchradd nyrs ysgol.  Gall plant a phobl ifanc siarad â nyrs eu hysgol am unrhyw beth  – gan gynnwys eu lles emosiynol.
  • Gall pobl ifanc hefyd anfon neges destun at nyrs ysgol ar 07520 615 718 yn ystod oriau ysgol gyda Chat Health.
  • Bydd gan bob ysgol uwchradd hefyd gwnselydd ysgol.
  • Bydd pob ysgol uwchradd yn cael amser gydag ymarferydd iechyd meddwl bob wythnos. Mae’r ymarferwyr hyn yn rhoi cyngor i staff yr ysgol ond gallant hefyd weithio gyda phobl ifanc yn uniongyrchol. Bydd hwn naill ai’n sesiwn un i un neu sesiwn grŵp yn dibynnu ar anghenion y bobl ifanc yn yr ysgol.

Os oes gan deuluoedd unrhyw gwestiynau am dderbyn cymorth drwy’r ysgol, rydym yn argymell eu bod yn siarad ag Arweinydd Lles eu hysgol i gael gwybod mwy.

Cymorth drwy eich gwasanaeth cymorth cynnar lleol

Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhoi gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar ystod o bynciau a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu.

Mae enghreifftiau’n cynnwys hunan-barch isel, perthynas â’ch teulu a cholli person pwysig yn eich bywyd.

Mae’r rhain yn wahanol gan eu bod yn cael eu rhedeg gan y ddau gyngor gwahanol – ond maent yn cynnig yr un gwasanaeth.

Ble bynnag rydych yn byw, bydd y gwasanaeth cymorth cynnar yn gwrando arnoch chi ac yn asesu eich anghenion. Byddant naill ai’n eich cefnogi chi a’ch teulu yn uniongyrchol neu’n eich cyfeirio at wasanaeth a all eich helpu gydag anghenion penodol.

Mae ymarferwyr iechyd meddwl yn gweithio gyda staff cymorth cynnar i’w cynghori ac i roi cymorth i blant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol os mai dyma sydd ei angen ar y teulu.

Cymorth drwy’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad

Mae Un Pwynt Mynediad yn wasanaeth sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac mae’n cynnig gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc.

Ar hyn o bryd, dim ond mathau penodol o weithwyr proffesiynol all eich atgyfeirio at y gwasanaeth Un Pwynt Mynediad, gan gynnwys:

  • eich Meddyg Teulu
  • Ymwelydd Iechyd eich teulu
  • eich gweithiwr cymdeithasol

Ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad, bydd tîm o weithwyr proffesiynol yn cyfarfod i benderfynu pa dîm sydd yn y sefyllfa orau i roi’r cymorth sydd ei angen ar y plentyn neu berson ifanc. Efallai y byddant yn cysylltu â’r atgyfeiriwr a’r teulu i gael gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd a beth yr hoffai’r plentyn neu’r person ifanc ei gyflawni i helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Mae yna nifer o wasanaethau ar draws Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol.

Mae’n bosib y gallai’r plentyn neu berson ifanc  dderbyn cymorth sy’n fwy addas i’w anghenion yn ei ysgol, gwasanaeth cymorth cynnar lleol neu gyda sefydliad arall – os felly, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi gysylltu â nhw, neu byddwn yn gofyn i chi a allwn wneud atgyfeiriad atynt ar eu rhan.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, byddwn yn ystyried hyn ac yn sicrhau y bydd y cymorth y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn ei gael yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion.