Dim ots beth yw eu hoed, gall plant a phobl ifanc fod angen cefnogaeth emosiynol am lawer o resymau.

Os ydych yn rhiant neu yn ofalwr, mae gennym adnoddau a allai helpu.

Rydym yn dal i ddatblygu’r dudalen hon. Os oes gennych unrhyw syniadau neu adnoddau yr hoffech eu rhannu, hoffem glywed gennych.

Rhieni, gofalwyr a lles emosiynol

Er ein bod yn cynnig gwasanaethau i blant a phobl eraill dan 18 oed, yr ydym yn cydnabod y gall yr oedolion yn eu bywydau hefyd  fod yn wynebu eu heriau eu hunain gyda’u lles emosiynol a’u hiechyd meddwl.

Os ydych yn meddwl bod hyn yn wir amdanoch chi, rydym yn argymell y canlynol:

  • bwriwch olwg ar ein hadnoddau isod
  • edrychwch ar Dewis Cymru i ganfod adnoddau lleol yn eich ardal a allai helpu
  • cysylltwch â’ch meddyg teulu i siarad am sut yr ydych yn teimlo a sut mae’n effeithio ar eich bywyd

Gwasanaethau a llinellau cymorth

Family Lives

Gwasanaeth ar gyfer rhieni/gofalwyr plant sydd â phroblemau gyda’u lles emosiynol a/neu iechyd meddwl, 0-18 oed, sy’n byw naill ai yng Nghaerdydd neu ym Mro Morgannwg. Yn cynnig gwasanaeth cymorth gan gymheiriaid i rieni a gofalwyr sydd â phlant sy’n profi problemau gyda’u lles emosiynol a/neu iechyd meddwl.

Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar y daflen hon: Taflen Family Lives

Mae gan Family Lives linell gymorth gyfrinachol am ddim ar 0808 800 2222 neu e-bostiwch askus@familylives.org.uk

Gingerbread Cymru

Mae Gingerbread yn cynnig gwasanaethau am ddim i rieni sengl, gan gynnwys llinell gymorth, tudalennau gwybodaeth, fforwm ar-lein a grwpiau cyfeillgarwch.

Gallwch gysylltu â’u llinell gymorth ar 0808 802 0925 – edrychwch ar eu gwefan am oriau agor.

Kidscape

Mae Kidscape yn cynnig llinell gymorth a gwasanaeth e-bost i rieni, gofalwyr ac oedolion eraill sydd â phryderon am blentyn neu berson ifanc sy’n cael ei fwlio.

Gallwch gysylltu â’u llinell gymorth ar 02078 235 430 rhwng 9:30 am – 2:30 pm Llun a dydd Mawrth, gadewch neges neu e-bost ar parentsupport@kidscape.org.uk 

SNAP Cymru

Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni, plant a phobl ifanc sydd neu a all fod ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau. Mae’n cynnwys llinell gymorth, gwaith achos, cyngor ar gamwahaniaethu, eiriolaeth annibynnol a gwasanaethau datrys anghydfod.

Mae’r wybodaeth a’r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun – Gwener 9.30 am – 4.30 pm ar 0808 801 608.

Llinell Gymorth Rhieni Young Minds

Cysylltwch â Young Minds am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth emosiynol am iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc hyd at 25 oed.

Gallwch ffonio am ddim ar 0808 802 5544 neu ddefnyddio’r dewis gwe-sgwrsio rhwng 9:30 am – 4 pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

PAPYRUS

A ydych chi, neu rywun ifanc sy’n hysbys i chi, yn methu ymdopi â bywyd?

Am gyngor cyfrinachol ar atal hunanladdiad, cysylltwch â HOPELINEUK. Maent ar agor 9am–12am (hanner nos) bob diwrnod o’r flwyddyn, cysylltwch â hwy ar 0800 068 4141 neu pat@papyrus-uk.org

Appiau ac adnoddau ar-lein

Mae gennym hefyd rai adnoddau a ddarperir isod fel man cychwyn os byddai’n well gennych bori. Gallwch gysylltu â ni os oes gennych adnoddau ychwanegol i’w rhannu neu os oes pynciau yr hoffech glywed mwy amdanynt.

Nid yw’r adnoddau, appiau a llinellau cymorth yn rhan o’r gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (oni nodir i’r gwrthwyneb).

  • Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys allanol a grybwyllir ar y safle  hwn.
  • Cofiwch ddarllen Telerau ac Amodau’r app a’r Polisi Preifatrwydd i weld sut y gall eich data ei ddefnyddio.

Pryder

Mae pryder yn ymateb dynol naturiol i sefyllfaoedd o straen, ac y mae’n deimlad hollol normal.

Fodd bynnag, gall teimlo pryder os na wyddom pam neu os bydd yn para am amser maith beri tipyn o ofn.

Canllawiau am bryder, gan gynnwys un i rieni a gofalwyr.

Cyffuriau ac alcohol

Gall defnyddio cyffuriau ac alcohol gael effaith ar iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc.

Llinell gymorth gyfrinachol am ddim am gyffuriau yw DAN 24/7. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

I gysylltu â hwy:

  • Ffoniwch 0808 808 223
  • Tecstiwch DAN i 81066

Cyngor i rieni a gwarcheidwaid ar siarad gyda’u plentyn neu rywun ifanc am gyffuriau.

Anhwylderau bwyta

Gall anhwylderau bwyta fod yn gymhleth iawn. Nid mater o fwyd yn unig ydynt, ond maent yn aml yn ffordd o ymdopi neu deimlo mewn rheolaeth.

Gallant gael effaith ar iechyd corfforol rhywun, felly mae’n bwysig cael cyngor a chefnogaeth yn sydyn.

Mae elusen anhwylderau bwyta y DU yn rhoi gwybodaeth a llinellau cymorth.

Dylai rhieni a gofalwyr gysylltu â’r Llinell Gymorth Oedolion ar 0808 801 0677, gwe-sgwrsio neu e-bostio help@beateatingdisorders.org.uk.

Mae holl linellau cymorth Beat ar agor 9 am – 8 pm yn ystod yr wythnos, a 4 pm – 8 pm ar benwythnosau a gwyliau banc.

App i bobl ifanc a’u rhieni a gofalwyr.

Mae’n cynnwys offeryn sgrinio, strategaethau hunangymorth a syniadau am sut i esbonio pryderon wrth weithwyr meddygol proffesiynol.

Grŵp cefnogi cyfoedion am ddim seiliedig ar fideo sy’n cael ei gynnal dros Zoom i unrhyw un sy’n cefnogi rhywun ag anhwylder bwyta.

Ymysg pynciau mae cynlluniau prydau, gosod ffiniau a deall pam fod newid mor anodd. Gofynnir i chi ymrwymo i 8 sesiwn dros 6 wythnos.

Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth.

Addysg

Adnoddau a chyngor a all fod yn fuddiol os oes gennych blentyn neu rywun ifanc sy’n mynychu’r ysgol.

Cyngor i gefnogi plant a phobl ifanc wrth iddynt ddychwelyd i’r school.

Gwybodaeth am fwlio i rieni a gofalwyr, gan gynnwys sut i aros yn ddiogel ar-lein ac wrth chwarae gemau fideo.

Cliciwch yma os ydych yn byw yng Nghaerdydd.

Cliciwch yma os ydych yn byw ym Mro Morgannwg

Cyngor ar gefnogi plant a phobl ifanc yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal ag adnoddau i bobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.

Cyngor i rieni a gofalwyr pan fydd eu plentyn yn cychwyn yn yr ysgol uwchradd

Rhestr wirio o weithgareddau ymarferol ac ymarferion daearu y gall rhieni/gofalwyr eu defnyddio i gefnogi eu plentyn yn ystod y cyfnod pontio rhwng Blwyddyn 6 a 7.

Lles emosiynol

Mae llawer o adnoddau ar gael lle gallwch ddysgu mwy am les emosiynol.

Cyngor am sut i helpu eich plentyn neu berson ifanc trwy ddigwyddiadau mewn bywyd a allai fod yn effeithio ar eu lles, a lle i gael help.

Gwybodaeth ac adnoddau i rieni a gofalwyr plant awtistig.

Peiriant chwilio i ganfod adnoddau lleol yn eich ardal am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys lles emosiynol ac iechyd meddwl.

Syniadau gwych i gefnogi plant a phobl ifanc.

Datblygodd y Sefydliad Iechyd Meddwl yr adnodd hwn i rieni a gofalwyr i’w helpu i ddysgu eu plant am sut i ddeall, gwarchod a chynnal eu hiechyd meddwl.

Cyngor a gwybodaeth i’ch helpu i ddeall sut y mae problemau yn codi, sut orau i gefnogi eich teulu a sut i ofalu amdanoch eich hun, sydd wedi ei ysgrifennu gan arbenigwyr a rhieni yn gweithio gyda’i gilydd.

Nid yw Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl yn rhoi diagnosis o blant a phobl ifanc gydag anhwylderau niwroddatblygiadol – daw hyn dan gylch gorchwyl y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol.

Gweithgareddau, sbardunau sgyrsiau a beth i’w wneud nesaf i gefnogi eich plentyn neu berson ifanc.

Sut i gychwyn y sgyrsiau am bynciau ‘anodd’ y gallwch fod eisiau eu cael gyda’r plant a’r bobl ifanc yn eich bywyd.

Ymwybyddiaeth ofalgar

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn fater o dalu sylw i’r hyn sy’n digwydd y funud hon. Mae’n gyfle i rywun gymryd seibiant o’i bryderon a helpu i deimlo gwell rheolaeth o’i emosiynau.

Llawer o weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar hawdd i’w gwneud gyda phlant.

eLyfr ar gael am ddim o’r wefan.

App Cymraeg i gyflwyno defnyddwyr i dechnegau myfyrdodi syml.

Gwersi yoga am ddim ar YouTube.

Gofalwyr ifanc

Gofalwr ifanc yw rhywun dan 18 oed sy’n edrych ar ôl aelod o’r teulu sy’n wael, yn anabl, sydd â heriau iechyd meddwl neu sy’n gaeth i gyffuriau neu alcohol.

Dewch i wybod mwy ar ein tudalen gofalwyr ifanc.

Cefnogi gofalwyr i gael y gefnogaeth orau bosib trwy ddeall pa gefnogaeth sydd ar gael, eu helpu i gyrchu gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu.

I gysylltu â hwy:

Mae’r prosiect gofalwyr ifanc ym Mro Morgannwg yn cael ei redeg gan YMCA Caerdydd ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi bron i 90 o ofalwyr ifanc ledled y Sir. Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg.

Mae’r Clwb Ieuenctid Gofalwyr Ifanc yng Nghanolfan YMCA, Court Road, Y Barri, CF63 4EE, ar agor bob nos Iau a Gwener yn ystod y tymor.

Dim ond i bobl ifanc sydd wedi’u derbyn i’r prosiect y mae’r clwb hwn.

Cysylltwch â’r Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf i atgyfeirio:

Mae Join the Dots yn grŵp ymwneud iechyd meddwl pobl ifanc a sefydlwyd i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau yng Nghaerdydd a’r Fro i’r isod:

  • defnyddwyr ifanc gwasanaethau iechyd meddwl rhwng 11 a 25 oed;
  • a/neu ofalwyr ifanc rhwng 11 a 25 oed.