Ni waeth sut y cewch eich cyfeirio neu eich atgyfeirio atom, byddwn yn gweithio gyda chi i gael gwybod beth sy’n bwysig i chi, yr hyn yr ydych am ei newid a sut yr ydym yn mynd i weithio gyda’n gilydd i wneud hyn.

Cyfathrebu â chi

Byddwn yn cyfathrebu â chi a’ch teulu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys llythyrau, galwadau ffôn, negeseuon testun ac e-byst.

Byddwn naill ai’n anfon llythyr atoch neu’n eich ffonio i roi amser apwyntiad i chi.

Efallai y byddwn yn anfon llythyr ‘optio i mewn’ i wirio eich bod yn dal i fod eisiau apwyntiad ac i gadarnhau bod gennym y manylion cywir i chi.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn darllen yr holl lythyrau ac ymateb os oes angen fel nad oes oedi yn eich taith.

Mae hefyd yn bwysig iawn i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich manylion cyswllt – gan gynnwys eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a’ch e-bost.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion cyswllt, gallwch ein ffonio ar 02921 836730.

Os ydych chi’n dod i’ch apwyntiad meddyg teulu i gael atgyfeiriad at y Gwasanaeth Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt wedi’u diweddaru, yn enwedig eich rhif ffôn symudol a’ch cyfeiriad e-bost.

Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd ein bod yn defnyddio technoleg ddigidol yn gynyddol i ddarparu eich gofal. Heb y manylion hyn, efallai na fyddwn yn gallu cael gafael arnoch.

Cyn eich apwyntiad cyntaf

Cyn eich apwyntiad cyntaf gyda ni, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi feddwl am y canlynol:

  •  Pa heriau rydych chi’n eu hwynebu a sut maen nhw’n effeithio ar eich bywyd?
  •  Pa mor hir mae’r heriau hyn wedi bod yn digwydd?
  •  Beth hoffech chi ei newid?
  •  Allwch chi gofio’n union pan ddechreuodd yr heriau hyn?
  •  Beth sydd wedi bod yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol hyd yma?
  •  Pa gymorth sydd gennych eisoes o fewn eich teulu, ymhlith eich ffrindiau a gyda’ch rhwydwaith ehangach?

Efallai y byddai’n ddefnyddiol ysgrifennu’r syniadau hyn i’ch helpu i’w cofio yn eich apwyntiad.

Eich apwyntiad cyntaf

Efallai y byddwch yn teimlo’n nerfus cyn eich apwyntiad cyntaf gyda ni.

Mae’n gwbl normal teimlo fel hyn pan nad ydych yn siŵr beth i’w ddisgwyl neu eich bod yn mynd trwy gyfnod anodd.

Bydd ein staff yn gwneud eu gorau glas i wneud i chi deimlo’n gyfforddus.

Gelwir eich apwyntiad cyntaf gyda ni yn ‘apwyntiad dewis‘ neu’n ‘asesiad‘.

Yn y bôn, cyfle yw hwn i ni ddod i’ch adnabod yn well fel y gallwn wneud penderfyniad ar eich camau nesaf.

Apwyntiad untro yw hwn – bydd yr hyn sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar y cymorth y gallai fod ei angen arnoch.

Byddwch yn cwrdd ag un o’n hymarferwyr i siarad am yr hyn sy’n mynd yn dda, yr hyn nad yw efallai’n mynd mor dda a’r hyn yr ydych am ei gyflawni.

Efallai y byddwn yn gofyn am gael siarad â’ch rhiant neu’ch gofalwr i’n helpu i ddeall sut mae pethau’n effeithio arnoch chi, os ydych chi’n hapus i ni wneud hynny. Efallai y byddwn hefyd yn siarad â chi ar eich pen eich hun.

Efallai y byddwn yn penderfynu gyda’ch gilydd y byddech yn elwa o apwyntiadau pellach gyda ni neu fod gwasanaeth arall sy’n fwy addas i’ch anghenion.

Bydd eich ymarferydd yn gwrando arnoch chi ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn deall beth fydd yn digwydd nesaf.

Cwestiynau Cyffredin

Rydym am ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn dod i apwyntiad ar y dudalen hon.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd, felly rhowch wybod i ni pa wybodaeth yr hoffech ei chael.

Gallwch hefyd ofyn y cwestiynau hyn i’ch ymarferydd ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod gyda ni. Byddant yn sicrhau eich bod yn deall ac yn cytuno â’r hyn sy’n digwydd.

Efallai y bydd rhaid aros rhwng eich atgyfeiriad yn cael ei wneud a’ch apwyntiad cyntaf gyda ni.

Bydd hyd yr amser aros hwn yn amrywio gan ddibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch ond byddwn bob amser yn ceisio eich gweld cyn gynted â phosibl.

Cliciwch yma am wybodaeth a chyngor os ydych yn poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch pobl eraill o’ch cwmpas cyn neu rhwng eich apwyntiadau gyda ni

Pan fyddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’ch apwyntiad, byddwn yn siarad â chi am yr opsiynau sydd ar gael.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig apwyntiadau trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ymgynghori fideo, galwadau ffôn a, lle bo angen, apwyntiadau wyneb yn wyneb.

Bydd y person cyntaf y byddwch yn cwrdd ag ef/â hi os bydd gennych apwyntiad wyneb yn wyneb fydd derbynnydd.

Os dywedwch wrtho/wrthi eich enw a bod gennych apwyntiad, bydd yn dweud wrthych ble y gallwch aros a rhoi gwybod i’ch ymarferydd eich bod wedi cyrraedd.

Bydd eich apwyntiad yn cynnwys un neu ddau ymarferydd iechyd meddwl, gan ddibynnu ar ba heriau yr ydych yn eu hwynebu. Efallai bod eich ymarferydd yn nyrs, yn seicolegydd, yn therapydd teulu neu’n seiciatrydd – bydd yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen arnoch a’r hyn rydych am ei gyflawni.

Os nad ydych chi neu’ch teulu yn hyderus yn siarad Cymraeg neu Saesneg, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl a gallwn hefyd drefnu dehonglydd i ddod i’ch apwyntiad.

Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn deall beth sy’n digwydd, yn gallu siarad am yr hyn sy’n bwysig i chi a chymryd rhan yn eich gofal eich hun.

Er mwyn cynnig y gofal gorau i chi, efallai y bydd angen i ni gwrdd ag aelodau eraill o’ch teulu i glywed eu barn am yr heriau rydych chi’n eu hwynebu. Efallai y byddwn hefyd yn siarad â chi ar eich pen eich hun.

Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i ni siarad â’ch meddyg teulu, eich athro, eich gweithiwr cymdeithasol, neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy’n eich cefnogi chi a’ch teulu.

Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol o gymorth:

  •  Cadwch ddyddiadur o emosiynau neu deimladau rydych chi’n poeni amdanynt
  •  Traciwch eich hwyliau a’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud am ychydig ddyddiau – gallech ddefnyddio un o’r appiau a restrir ar ein tudalen Adnoddau
  •  Meddyliwch am unrhyw gwestiynau y gallech fod am eu gofyn i’ch ymarferydd
  •  Edrychwch ar CAMHS Ready am restr o bethau y gallech fod am siarad neu feddwl amdanynt

Eich apwyntiad cyntaf yw eich cyfle i ddweud wrth eich ymarferydd am yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd, sut rydych chi’n teimlo a beth hoffech chi ei newid.

Gall fod yn anodd iawn siarad am sut rydych chi’n teimlo. Cofiwch – mae hwn yn lle diogel ac mae ein hymarferwyr eisiau eich helpu.

Efallai y bydd eich ymarferydd yn gofyn cwestiynau fel:

  • Pa heriau rydych chi’n eu hwynebu ar hyn o bryd?
  •  Pa mor hir ydych chi wedi bod yn teimlo fel hyn?
  •  Pwy sydd yn eich teulu a sut rydych chi i gyd yn dod ymlaen â’ch gilydd?
  •  Sut beth yw bywyd yn yr ysgol a gyda’ch ffrindiau?
  •  Sut mae eich hwyliau wedi bod yn ddiweddar? Ydych chi wedi bod yn teimlo’n bryderus neu’n isel?
  •  Ydych chi, neu rywun o’ch cwmpas, yn poeni am eich diogelwch?
  •  Pa bethau rydych chi’n eu gwneud yn dda a beth rydych chi’n ei fwynhau?
  •  Beth hoffech chi ei gyflawni yn ein hamser gyda’n gilydd?

Maent yn gofyn y cwestiynau hyn i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau yr ydych yn eu hwynebu a’r gefnogaeth sydd gennych eisoes. Nid oes rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau y maent yn eu gofyn, a gallwch hefyd ofyn cwestiynau iddynt.

Dyma rai syniadau ar gyfer cwestiynau y gallech fod am eu gofyn

  •  Pa mor aml y byddaf yn dod yma?
  • Pwy byddaf yn ei weld pan fyddaf yn dod yma?
  • Â phwy y gallaf siarad os oes gennyf broblem rhwng apwyntiadau neu yn ystod y penwythnos?
  • Ble arall y gallaf ddod o hyd i wybodaeth, cyngor neu gymorth am fy iechyd meddwl?

Ar ddiwedd eich apwyntiad cyntaf, bydd eich ymarferydd yn siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen arnoch a’r hyn y buoch yn siarad amdano gyda’ch gilydd.

Os oes angen apwyntiad pellach, efallai y gofynnir i chi a’ch teulu lenwi rhai holiaduron – mae hyn er mwyn helpu’ch ymarferydd i ddeall yr heriau rydych yn eu hwynebu a sut rydych chi a’ch teulu’n teimlo am bethau.

Efallai y gofynnir i chi hefyd gwblhau’r rhain mewn sesiynau diweddarach. Diben hyn yw mesur eich cynnydd yn erbyn eich nodau a phenderfynu a yw’r gwasanaeth yn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnoch.

Ein disgwyliadau

Oherwydd y nifer uchel o blant a phobl ifanc sy’n aros i gael cymorth gennym, rydym wedi rhoi polisïau ar waith i sicrhau ein bod yn defnyddio ein hamser ni a’ch amser chi mor effeithlon â phosibl.

Mae llythyr optio i mewn yw pan fyddwn yn gwirio eich bod yn dal i fod eisiau cymorth gennym. Efallai bod pethau wedi newid i chi ac mae’n ein helpu i gadarnhau bod gennym eich manylion cywir o hyd.

Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i’r llythyr optio i mewn o fewn yr amserlen y gofynnwyd amdani.

Os na fyddwn yn clywed gennych, byddwn yn tybio nad oes angen cymorth arnoch mwyach.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen cymorth arnoch o hyd, rhowch ganiad i ni a gallwn siarad amdano.

Os na allwch ddod i apwyntiad am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl i drafod eich opsiynau.

Mae gennym bolisi presenoldeb i sicrhau’r defnydd gorau o amser ein claf a’n staff.

Mae cael pobl ifanc i fod yn rhan weithredol o’u taith ochr yn ochr â’u ymarferydd a’r bobl maent yn gofalu amdanynt yn bwysig iawn – mae hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau. Mae colli apwyntiadau heb roi gwybod i ni ymlaen llaw yn ei gwneud yn anodd i ni gynnig y tro hwn i blentyn neu berson ifanc arall.

Oherwydd hyn, os byddwch yn colli eich apwyntiad cyntaf NEU ddau apwyntiad heb roi gwybod i ni ymlaen llaw, mae’n bosibl y byddwn yn eich rhyddhau o’r gwasanaeth.

Mae hyn yn golygu y byddai angen atgyfeiriad arall arnoch i gael gafael ar gymorth gennym.