Pobl ifanc

Stori Owain

Sut gwnaeth gwella dealltwriaeth fy nheulu o fy hunaniaeth rhywedd gryfhau fy mherthynas gyda fy mam a fy nhad

Beth sy’n digwydd gyda fi

Fy enw i yw George. Rwy’n drawsryweddol ac wedi bod yn cael trafferth oherwydd alla i ddim trawsnewid tan i fi gael fy ngweld gan y gwasanaeth hunaniaeth rhywedd ond mae rhestr aros o flwyddyn ar hyn o bryd.

Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae gyda fi lawer o ffrindiau ar-lein.

Roeddwn i eisiau help fel bod fy mam a fi’n gallu cyfathrebu’n well ac i fy mam dderbyn fy hunaniaeth rhywedd. Mae fy mam yn dal i gyfeirio ata i wrth fy enw blaenorol.

Fy nghyflwr meddwl

Roeddwn i’n teimlo’n orbryderus, yn isel, ac roeddwn i’n cael meddyliau am hunan-niweidio. Rwy’n teimlo fel fy lladd fy hun weithiau pan fydd perthynas gyda ffrindiau’n chwalu.

Mae fy mam yn poeni am fy nyfodol. Mae hi’n meddwl nad ydw i’n gwybod beth rydw i eisiau ei wneud mewn bywyd, ac nad oes gen i nod na chymhelliant i fod eisiau gwneud unrhyw beth.

Rwyf am allu rheoli fy lles emosiynol fel y galla i fyw bywyd hapus.

Gofalu am fy lles

Ces i fy atgyfeirio at y gwasanaeth Helpu Teuluoedd ar ôl digwyddiad gyda’r heddlu pan oeddwn i’n teimlo fy mod i am fy niweidio fy hun tra oeddwn i allan gyda ffrindiau. Cytunodd fy mam i wneud apwyntiad gyda meddyg teulu wrth i ni aros am apwyntiad gyda Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl.

Un o’r prif resymau dros fy anawsterau oedd nad oedd fy rhieni’n fy nerbyn i fel rhywun trawsryweddol. Rhoddodd Helpu Teuluoedd gamau ar waith i wella hyn.

  • Cafodd fy mam wybod am Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Traws ac fe wnaeth y tîm ei helpu i fy nghefnogi drwy gyfarfod â ni i drafod beth oedden ni ei angen, y naill gan y llall.
  • Roeddwn i hefyd eisiau siarad â fy nhad am fy hunaniaeth rhywedd, felly cafodd fy mam a fi gymorth i ysgrifennu llythyr ato fe’n esbonio’r sefyllfa. Drwy ysgrifennu’r llythyr gyda’n gilydd, fe helpodd fy mherthynas â fy mam.
  • Ces i fy atgyfeirio at Umbrella. Fe wnaethon ni fy nghefnogi i a fy nheulu gyda fy hunaniaeth rhywedd. Fe wnaeth fy ngholeg fy nghefnogi, ac nawr rwy’n derbyn sesiynau cwnsela wythnosol ac yn cyfarfod â swyddog lles.
  • Gwnaeth Helpu Teuluoedd hefyd fy helpu i wneud cynllun o beth i’w wneud pan fyddaf yn teimlo’n hunanladdol. Rwy’n cadw hwn ar fy ffôn fel y galla i ei weld e pryd bynnag y bydd ei angen e arnaf, ble bynnag ydw i.

O gael help, rwyf nawr yn teimlo’n fwy abl i reoli fy emosiynau a fy nheimladau o hunan-niweidio, ac mae fy mherthynas gyda fy nheulu wedi gwella.

Gan fy mod ar fin troi’n 18 oed, rwyf wedi cael asesiad iechyd meddwl oedolyn. Mae hyn yn gwneud yn siŵr y bydda i’n parhau i gael yr help sydd ei angen arnaf pan fydda i’n dod yn oedolyn.