Fel person ifanc, rydych chi’n tyfu’n gyflym iawn, felly efallai y bydd angen mwy o gwsg arnoch nag aelodau eraill o’ch teulu.

Mae cwsg yn rhoi egni i chi ar gyfer y diwrnod canlynol ac yn helpu chi i deimlo’n well!

Gall cwsg hefyd helpu chi gyda phopeth rydych yn dysgu yn yr ysgol a gartref. Mae’n helpu chi meddwl a chofio mwy.

Os ydych yn cael trafferth cysgu, siaradwch a rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel rhiant, gofalwr neu ddoctor.

Sut rydw i’n gwybod os ydw i’n cael digon o gwsg?

Gall fod yn hawdd dweud pan fyddwch angen mwy o gwsg. Heb ddigon o gwsg gallech:

  • Ffeindio hi’n anodd deffro
  • Ffeindio hi’n anodd canolbwyntio yn ystod y dydd
  • Teimlo hwyliau drwg neu isel

Dylech geisio cael rhwng 8 a 10 awr o gwsg bob nos i’ch helpu i gadw’n heini ac yn iach.

Mae llawer o blant yn mynd trwy adegau pan fyddant yn ffeindio hi’n anodd cysgu.

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu:

Cymerwch gawod neu fath a gwnewch eich hun yn gysurus yn eich dillad nos. Ceisiwch fynd i’r gwely ar yr un amser bob nos

Bwytwch fyrbryd ysgafn neu yfwch wydraid o laeth, ac ewch â gwydraid o ddŵr i fyny i’ch ystafell wely gyda chi

Ceisiwch beidio â defnyddio’ch ffôn na gwneud eich gwaith cartref yn y gwely – ceisiwch fod yn y gwely gyda’r goleuadau wedi’u diffodd am o leiaf 8 awr bob nos.

Gall cael eich amlygu i olau’ch ffôn, cyfrifiadur neu lechen ei gwneud yn fwy anodd syrthio i gysgu.

Gall cael eich ffôn gerllaw hefyd ei gwneud yn demtasiwn i edrych ar hysbysiadau yn hwyr yn y nos, gan dorri i mewn i’ch amser cysgu.

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi elwa o gyntun, ceisiwch ei gadw’n fyrrach na 30 munud, a chyn i chi gael eich cinio.

Ond ceisiwch osgoi ymarfer corff egnïol gyda’r nos gan y gallai hyn eich cadw’n effro!

Mae te, coffi a diodydd egni yn eich cadw’n effro a gall ei gwneud yn anodd syrthio i gysgu.

Mae’n anoddach cysgu mewn ystafell olau, swnllyd, felly ceisiwch gadw’ch ystafell yn glaear yn dywyll ac yn dawel. Gwnewch yn siŵr bod eich gwely’n gynnes ac yn gyfforddus.

Llenwch eich ystafell wely gyda phethau sy’n eich ymlacio. Ceisiwch waredu unrhyw beth a allai eich cadw’n effro, gwneud sŵn neu wneud i chi deimlo dan straen.

Mae cysgu’n hwyr yn wych, ond bydd codi o fewn 2 – 4 awr o amser deffro arferol yn eich helpu i gadw at eich trefn arferol, yn enwedig os ydych yn ei chael hi’n anodd syrthio i gysgu ar nos Sul cyn wythnos o ysgol, coleg neu waith.

Gyda theulu, ffrindiau ac ysgol, gall fod yn anodd ffitio popeth i mewn i ddiwrnod.

Os ydych yn aml yn ei chael hi’n anodd cael 8 awr y nos, efallai y bydd angen i chi leihau’r hyn rydych chi’n ceisio’i wneud fel bod eich corff a’ch meddwl yn cael digon o amser i adnewyddu eich egni.

Gall y rhain helpu i dawelu eich meddwl fel y gwyddoch y byddwch yn cofio gwneud y pethau hynny yfory! Neilltuwch beth amser cyn y gwely i wneud cynlluniau ar gyfer y diwrnod nesaf.

Gall ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrio neu wrando ar gerddoriaeth dawel, ymlaciol hefyd eich helpu i dawelu eich meddwl cyn mynd i’r gwely.

Yn hytrach na gorwedd yn effro yn y gwely yn poeni am beidio â chysgu, cyneuwch olau bach a darllenwch lyfr neu gylchgrawn am gyfnod byr, yna diffoddwch y golau a cheisiwch gysgu eto.

Mae’n helpu os nad yw’r hyn rydych chi’n ei ddarllen yn rhy ddiddorol neu gyffrous, fel ei fod yn hawdd ei roi i lawr a chodi eto dro arall.

Dal i gael trafferth cysgu?

Os ydych yn dal i gael trafferth syrthio i gysgu ar ôl rhoi cynnig ar yr awgrymiadau hyn am sawl wythnos, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch meddyg teulu am fwy o gyngor.