Beth sy’n digwydd gyda fi
Roedd ein plentyn hynaf wedi dechrau hunan-niweidio. Yna, cawson ni wybod ychydig ddyddiau’n ddiweddarach ei bod hefyd wedi cymryd tabledi.
Roedd hyn yn sioc fawr i ni; rydyn ni’n deulu normal, a doedd dim syniad gyda ni bod unrhyw beth o’i le.
Cawson ni ein cynghori i fynd â hi i’r Adran Frys i’w derbyn ac ar ôl ychydig ddyddiau emosiynol ac anodd fe welon ni nyrs greisis a seiciatrydd ac wedyn aethon ni adref, ar ein pen ein hunain, a dechrau ceisio gwneud synnwyr o’r hyn oedd wedi digwydd.
Fy nghyflwr meddwl
Roedden ni’n teimlo ar goll fel rhieni, ein prif bryder oedd sut oedden ni’n mynd i gadw ein merch yn ddiogel.
Roedd ofn arnon ni. Roedd ein hymdeimlad o beth oedd yn normal wedi newid yn llwyr ac roedd hynny’n anodd ei dderbyn ond roedden ni hefyd yn gwybod bod angen i ni gael y cymorth cywir ar waith i’n plant ac i ni.
Erbyn hyn, roedden ni i gyd wedi drysu ac yn ofidus, roedden ni’n teimlo wedi ein trawmateiddio ac yn dal yn emosiynol iawn a doedd dim syniad gyda ni ble i droi. Roedden ni’n ymwybodol bod angen i ni siarad ac roedd angen arweiniad a chefnogaeth arnon ni, ond roedden ni’n teimlo mor fregus, roedd hyn i gyd yn newydd i ni a doedden ni ddim yn gwybod ble i droi.
Neilltuwyd gweithiwr cymdeithasol i’n helpu ni ac fe gawson ni’n atgyfeirio at y Platfform i Deuluoedd.
Gofalu am fy lles
Cysylltodd rhywun o’r Platfform i Deuluoedd â ni o fewn ychydig wythnosau ac i ddechrau, disgrifiodd fy mhartner a fi ein pryderon a thrafod ein hopsiynau:
- Ces i gymorth wythnosol 1-1 i siarad drwy’r hyn oedd wedi digwydd ac fe wnaeth hyn fy helpu i wneud synnwyr o fy meddwl fy hun a lle’r oeddwn i nawr.
- Ymunais â’r grŵp a chwrdd â rhieni eraill – roedd yn hyfryd cael amser i rannu profiadau heb gael fy meirniadu. Roedd yn lle diogel i adfyfyrio ar bethau a theimlo ein bod ni’n cael ein cefnogi. Erbyn hyn mae gen i rwydwaith o bobl drwy WhatsApp a Facebook yr ydw i’n teimlo’n hapus i siarad â nhw ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth.
- Rwyf hefyd wedi mynychu’r trafodaethau misol ar-lein; mae’r rhain wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae llyfr gafodd ei argymell yn un o’r sgyrsiau wedi fy helpu i’n fawr, rwyf wedi teimlo fy mod yn cael fy neall ac mae darllen stori rhiant arall wedi bod yn gysur.
Rwy’n teimlo’n llawer gwell nawr, yn dawelach fy meddwl am bopeth. Mae gwybod bod eraill mewn sefyllfa debyg i fi a bod yna bobl a all helpu wedi fy helpu i deimlo’n fwy sefydlog, mwy mewn rheolaeth ac rwy’n teimlo’n gryfach o ddydd i ddydd.
Ar ôl pedwar mis o gymorth, rwy’n teimlo’n fwy dyfeisgar, helpodd y Platfform i Deuluoedd fi i archwilio a dod o hyd i bethau fyddai’n gweithio i fi; ac rwyf wedi dysgu dathlu’r enillion bach.
Mae’r gefnogaeth gan gymheiriaid wedi bod yn help mawr, roeddwn i mewn lle unig iawn, yn wynebu heriau iechyd meddwl ac roedd ceisio dod o hyd i gymorth i fy mhlentyn yn frawychus ar ei ben ei hun – mae’r cymorth a ges i (ac yn parhau i’w gael) yn fy helpu i lywio gwasanaethau ac yn rhoi cryfder i fi wynebu’r heriau dyddiol yn ogystal â rhoi lle diogel i fi fod yn rhiant.