Ni waeth sut y caiff eich plentyn ei atgyfeirio neu ei gyfeirio atom, byddwn yn gweithio gyda chi, eich plentyn neu berson ifanc a’r bobl rydych yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i’r gwasanaeth mwyaf priodol i ddiwallu anghenion eich plentyn.

blwch llythyr

Cyfathrebu â chi

Byddwn yn cyfathrebu â chi a’ch teulu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys llythyrau, galwadau ffôn, negeseuon testun ac e-byst.

Byddwn naill ai’n anfon llythyr atoch neu’n eich ffonio i roi amser apwyntiad i chi.

Efallai y byddwn yn anfon llythyr ‘optio i mewn’ i wirio bod eich plentyn neu berson ifanc yn dal i fod eisiau apwyntiad ac i gadarnhau bod gennym y manylion cywir i chi.

Mae’n bwysig iawn eich bod chi neu eich plentyn yn darllen yr holl lythyrau ac ymateb os oes angen fel nad oes oedi yn nhaith eich plentyn.

Mae hefyd yn bwysig iawn i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich manylion cyswllt – gan gynnwys eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a’ch e-bost.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion cyswllt, gallwch ein ffonio ar 02921 836730.

Os ydych chi’n dod i’ch apwyntiad meddyg teulu i gael atgyfeiriad at y Gwasanaeth Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt wedi’u diweddaru, yn enwedig eich rhif ffôn symudol a’ch cyfeiriad e-bost.

Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd ein bod yn defnyddio technoleg ddigidol yn gynyddol i ddarparu eich gofal. Heb y manylion hyn, efallai na fyddwn yn gallu cael gafael arnoch.

Cyn yr apwyntiad cyntaf

Cyn apwyntiad cyntaf eich plentyn / person ifanc gyda ni, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi feddwl am y canlynol ynghyd â:

  • Pa heriau mae’r person ifanc yn eu hwynebu a sut maen nhw’n effeithio ar ei fywyd?
  • Pa mor hir mae’r heriau hyn wedi bod yn digwydd?
  • Beth hoffai’r ddau ohonoch ei newid? Sut fyddech chi’n gwybod pe bai pethau’n wahanol?
  • Allwch chi gofio’n union pryd y dechreuodd yr heriau hyn?
  • Beth sydd wedi bod yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol hyd yma?
  • Pa gymorth sydd eisoes yn bodoli o fewn teulu, ffrindiau a rhwydwaith ehangach y person ifanc?

Efallai y byddai’n ddefnyddiol ysgrifennu’r syniadau hyn i helpu’ch plentyn gofio yn ei apwyntiad.

Apwyntiad cyntaf eich plentyn

Efallai y byddwch chi a’ch plentyn yn teimlo’n nerfus cyn ei apwyntiad cyntaf gyda ni.

Mae’n gwbl normal teimlo fel hyn pan nad ydych yn siŵr beth i’w ddisgwyl neu eich bod yn mynd trwy gyfnod anodd.

Bydd ein staff yn gwneud eu gorau glas i wneud i’r ddau ohonoch deimlo’n gyfforddus.

Gelwir apwyntiad cyntaf eich plentyn gyda ni yn ‘apwyntiad dewis’ neu’n ‘asesiad’.

Yn y bôn, cyfle yw hwn i ni ddod i adnabod eich plentyn yn well fel y gallwn wneud penderfyniad ar gamau nesaf eich plentyn.

Apwyntiad untro yw hwn – bydd yr hyn sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar y cymorth y gallai fod ei angen ar eich plentyn.

Bydd eich plentyn yn cwrdd ag un o’n hymarferwyr i siarad am yr hyn sy’n mynd yn dda, yr hyn nad yw efallai’n mynd mor dda a’r hyn yr hoffai ei gyflawni.

Efallai y byddwn yn gofyn am gael siarad â rhiant neu ofalwr i’n helpu i ddeall sut mae pethau’n effeithio ar eich plentyn, os yw’n hapus i ni wneud hynny. Efallai y byddwn hefyd yn siarad â’r plentyn neu berson ifanc ar ei ben ei hun.

Efallai y byddwn yn penderfynu gyda’n gilydd y byddai eich plentyn yn elwa o apwyntiadau pellach gyda ni neu fod gwasanaeth arall sy’n fwy addas i’w anghenion.

Bydd ymarferydd eich plentyn yn gwrando arnoch chi a’ch plentyn ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn deall beth fydd yn digwydd nesaf.

Waiting list

There are many children and young people who are waiting to access our services. The COVID-19 pandemic has also affected how we can offer our services.

We hope that we will be in touch in 8 – 12 weeks with a date and time for your choice appointment. We know this feels like a long time when you are asking for help. We are doing our best to see you as quickly and safely as possible.

Due to the pandemic, we are offering virtual appointments via telephone or video conferencing as default.

Ein disgwyliadau

Oherwydd y nifer uchel o blant a phobl ifanc sy’n aros i gael cymorth gennym, rydym wedi rhoi polisïau ar waith i sicrhau ein bod yn defnyddio ein hamser ni a’ch amser chi mor effeithlon â phosibl.

Llythyr optio i mewn yw pan fyddwn yn gwirio bod eich plentyn yn dal i fod eisiau cymorth gennym. Efallai bod pethau wedi newid i’ch plentyn ac mae’n ein helpu i gadarnhau bod gennym eich manylion cywir o hyd.

Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i’r llythyr optio i mewn o fewn yr amserlen a nodwyd.

Os na fyddwn yn clywed gennych chi neu’ch plentyn, byddwn yn tybio nad oes angen cymorth ar eich plentyn mwyach.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen cymorth ar eich plentyn o hyd, rhowch alwad i ni a gallwn siarad am y peth.

Os na all eich plentyn ddod i apwyntiad am ba reswm bynnag, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl i drafod eich opsiynau.

Mae gennym bolisi presenoldeb i sicrhau’r defnydd gorau o amser ein claf a’n staff.

Mae cael pobl ifanc i fod yn rhan weithredol o’u taith ochr yn ochr â’u hymarferydd a’r bobl maent yn gofalu amdanynt yn bwysig iawn – mae hyn yn cynnwys mynychu apwyntiadau. Mae colli apwyntiadau heb roi gwybod i ni ymlaen llaw yn ei gwneud yn anodd i ni gynnig y tro hwn i blentyn neu berson ifanc arall.

Oherwydd hyn, os bydd eich plentyn yn colli ei apwyntiad cyntaf NEU ddau apwyntiad heb roi gwybod i ni ymlaen llaw, mae’n bosibl y byddwn yn ei ryddhau o’r gwasanaeth.

Mae hyn yn golygu y byddai angen atgyfeiriad arall ar eich plentyn i fanteisio ar gymorth gennym.