Nid yw bob amser yn hawdd siarad amdanom ein hunain a sut rydym yn teimlo. Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau neu sut i ddisgrifio eich teimladau!

Mae llawer ohonom yn ei chael hi’n ddefnyddiol rhannu ein teimladau â rhywun yr ydym yn gofalu amdano ac yn ymddiried ynddo.

Fel person ifanc, mae gennych yr hawl i gael eich clywed ac i siarad am bethau sy’n bwysig i chi.

Gyda phwy dylwn i siarad?

Mae llawer o bobl ar gael i siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd a sut rydych chi’n teimlo.

Gall gwahanol bobl eich helpu mewn ffyrdd gwahanol – mae’n dibynnu’n fawr ar yr hyn rydych chi’n chwilio amdano.

  • Rhywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo: Ydych chi wedi ceisio bod yn agored gyda ffrind neu aelod o’r teulu? Efallai bod gennych chi bobl yn eich bywyd eisoes a allai eich helpu chi a gwrando arnoch chi.
  • Rhywun ar-lein: Mae rhai pobl yn ei chael hi’n haws rhannu eu teimladau ar-lein. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio bwrdd negeseuon a gefnogir gan sefydliad dibynadwy, fel ChildLine, gan fod ganddynt fesurau diogelwch ar waith i sicrhau bod eich gwybodaeth yn gyfrinachol a bod defnyddwyr yn dilyn eu canllawiau.
  • Gweithiwr proffesiynol neu arbenigwr: Mae llawer o weithwyr proffesiynol a fydd yn gallu eich helpu. Mae gennym lawer o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a’r Fro.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol cyn i chi gysylltu â rhywun i feddwl am yr hyn yr ydych yn chwilio amdano o’r sgwrs hon. Ydych chi’n chwilio am rywun i wrando neu i rywun gynnig cyngor?

 

Gallwch siarad am unrhyw beth rydych ei eisiau – mae’n lan i chi.

Os ydych chi’n siarad â rhywun am eich teimladau neu bwnc arall efallai na fyddwch chi wedi arfer siarad amdano, gallai helpu i gynllunio’r hyn yr ydych am ei ddweud o flaen llaw.

Cynllunio ymlaen llaw

Rhowch gynnig ar ysgrifennu sut rydych chi wedi bod yn teimlo. A oes rhywbeth neu rywun yn arbennig wedi achosi i chi deimlo felly? Sut mae hyn wedi effeithio ar eich bywyd? Beth hoffech chi ei newid?

Gallech hefyd recordio eich teimladau ar ap recordio llais i chwarae’n ôl yn lle hynny

Mae gan Doc Ready restr wirio i’ch helpu i feddwl am bethau y gallech fod eisiau siarad â gweithiwr proffesiynol amdanynt

Sut y gall pobl ymateb

Mae gan bawb brofiad a hyder gwahanol wrth siarad am emosiynau a theimladau.

  • Bydd ymarferydd neu weithiwr proffesiynol yn gofyn llawer o gwestiynau i chi. Gallai hyn deimlo’n llethol ond mae hyn er mwyn iddo gael gwybod mwy am sut rydych chi’n teimlo a’r ffordd orau o’ch helpu
  • Efallai na fydd ffrind neu aelod o’r teulu’n gwybod sut i ymateb i ddechrau, yn enwedig os nad yw’n disgwyl y sgwrs hon. Rhowch ychydig o amser iddo brosesu’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrtho. Dywedwch wrtho beth sydd ei angen arnoch. Efallai y bydd rhai o’n hadnoddau isod yn ddefnyddiol.