Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Partneriaid
Mae gofalu am iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn gyfrifoldeb i bawb. Er mwyn gwneud hyn, rydym hefyd yn cysylltu ac yn gweithio gyda llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys:
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Bro Morgannwg
- Cyngor Trydydd Sector Caerdydd
- Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg
- Tîm Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro
Rydym yn rhan o’r Bartneriaeth Dechrau’n Dda sy’n adrodd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.
Power Up
Mae Power Up yn brosiect lles a gweithredu cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc 10-25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mae Power Up yn brosiect partneriaeth, gyda Platfform, sy’n gweithio ochr yn ochr â’r sefydliadau canlynol:
- EYST
- YMCA Caerdydd
- iBme UK
- Llamau
- ProMo Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Bro Morgannwg
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae’r prosiect yn darparu cymorth lles rheng flaen i bobl ifanc sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys sesiynau hyfforddi 1-1, cyflwyno rhaglenni lles a grwpiau cymdeithasol rheolaidd.
Mae Power Up yn defnyddio dull sy’n ystyriol o drawma a pherthynas wrth ddarparu cymorth, gan ganolbwyntio ar gysylltiad, cymuned a chreadigrwydd.
Ochr yn ochr â darparu gwasanaeth lles, mae Power Up hefyd yn cefnogi pobl ifanc i greu newid cymdeithasol yn eu cymunedau ac yng Nghymru.
Gallwch hunanatgyfeirio at Power Up fel person ifanc, neu gall asiantaeth drefnu atgyfeiriad. Gellir gwneud pob atgyfeiriad gan ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio sydd ar gael drwy’r ddolen hon:
Ffurflen Atgyfeirio Prosiect Power Up (office.com)
I gysylltu â’r prosiect, anfonwch e-bost at powerup@platfform.org
Gweler gwefan Platfform i gael rhagor o wybodaeth am Power Up