Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Gall problemau bwyta fod yn gymhleth iawn gyda llawer o achosion gwahanol.
Mae problemau gyda bwyta’n ymwneud â mwy na newid eich deiet neu boeni am eich golwg. Gallant gymryd dros eich bywyd a chael effaith fawr ar eich teulu a’ch ffrindiau.
Beth yw anhwylder bwyta?
Math o salwch meddwl sy’n cynnwys ymddygiadau bwyta anarferol yw anhwylder bwyta.
Gallai fod yn un o’r canlynol:
- peidio â bwyta digon o fwyd
- bwyta llawer o fwyd ar y tro
- ymprydio
- ymarfer corff gormodol
- neu gyfuniad o’r ymddygiadau hyn ac ymddygiadau eraill
Mae’n bwysig cofio nad yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â bwyd – maent fel arfer yn fecanwaith ymdopi neu ffordd i rywun deimlo mewn rheolaeth.
Pam mae pobl yn datblygu anhwylderau bwyta?
Mae llawer o resymau pam y gallai person ddatblygu anhwylder bwyta. Weithiau mae’n amhosibl dweud beth oedd yr achos.
Gall unrhyw un ddatblygu un, ni waeth beth y bo’i oedran, ei ryw na’i gefndir.
Efallai y bydd rhywbeth sy’n sbarduno’r ymddygiad hwn, megis:
- straen
- marwolaeth rhywun sy’n bwysig i chi
- perthynas yn chwalu
- ymhlith eraill
Efallai nad yw hyn yn ymddangos yn broblem fawr i rywun arall, ond mae’n cael effaith fawr ar y person sydd â’r salwch.
Nid yw pobl ag anhwylderau bwyta yn dewis eu datblygu ac nid eu bai nhw ydyw eu bod yn sâl
Mathau o anhwylderau bwyta
Mae anhwylderau bwyta yn fath o salwch meddwl – mae’n fwy cyffredin sylwi ar y newidiadau yn nheimladau neu ymddygiad rhywun cyn sylwi ar unrhyw newidiadau o ran eu golwg.
Mae anhwylderau bwyta yn amrywio rhwng pobl. Nid oes rhaid i berson ddangos yr holl arwyddion hyn iddo fod yn sâl.
Mae rhai arwyddion cyffredinol a allai fod yn gysylltiedig â phob anhwylder bwyta yn cynnwys:
- siarad am fwyta neu brydau bwyd yn aml neu ymddwyn yn gyfrinachol amdano
- teimlo’n hunanymwybodol wrth fwyta o flaen pobl eraill
- hunan-barch isel
- anniddigrwydd a hwyliau anghyson
- blinder
- tynnu’n ôl o ffrindiau ac aelodau’r teulu
- teimlo cywilydd, euogrwydd a phryder
Rydym yn argymell edrych ar wefan Beat i gael rhagor o wybodaeth am fathau o anhwylderau bwyta.
Sut galla i gael help?
Mae anhwylderau bwyta yn gyflyrau iechyd meddwl difrifol gan y gallant effeithio ar eich iechyd meddwl a chorfforol. Os ydych yn cael problemau bwyta, mae’n bwysig i chi gael gafael ar gymorth cyn gynted â phosibl.
Rydym yn argymell siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo ac yn mynd i weld eich meddyg teulu. Byddant yn gallu eich atgyfeirio at Les Emosiynol ac Iechyd Meddwl ar gyfer asesiad gyda’n Tîm Anhwylder Bwyta.
Cymorth dros y ffôn ac ar-lein
Mae Beat, elusen y DU ar gyfer anhwylderau bwyta, yn darparu cymorth dros y ffôn ac ar-lein, sydd ar gael bob dydd o’r flwyddyn rhwng 9am ac 8pm yn yr wythnos a 4pm ac 8pm ar benwythnosau.
Llinell Gymorth ar gyfer Cymru – 0808 801 0433
Maent hefyd yn cynnal sgwrs un i un ar y we a chymorth e-bost – darganfyddwch fwy yma
Adnoddau defnyddiol
Adnoddau defnyddiol i’r rhai y mae problemau bwyta ac anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt.
Rydym yn datblygu rhestr ar wahân o adnoddau ar gyfer rhieni a gofalwyr.