Rydyn ni i gyd yn teimlo’n ddig weithiau, ac yn aml am reswm da!

Ond gall dicter ddechrau bod yn broblem pan fyddwch yn ei fynegi trwy ymddygiad dinistriol, naill ai tuag at eich hun neu eraill.

Gall teimlo’n ddig fod yn frawychus ac yn llethol, ac yn anodd ei roi mewn geiriau. Gall fod yn ymateb i deimlo’n ofnus, dan straen neu i bethau’n digwydd yn wahanol i’r disgwyl, naill ai ar hyn o bryd neu yn eich gorffennol. Efallai y byddwch hyd yn oed yn teimlo’n ddig ac nid ydych yn gwybod pam rydych chi’n teimlo felly.

Sut mae’n gwneud i chi deimlo?

Gall dicter fod yn llethol ac yn ei gwneud yn anodd meddwl yn iawn.

Os ydych chi’n ddig llawer o’r amser, gall fod yn anodd edrych ar yr hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n ddig a chyfathrebu hynny ag eraill.

Gall teimlo’n ddig beri:

  • I chi fynd ar bigau’r drain a chlensio’ch dannedd
  • I’ch calon bwmpio’n gyflymach
  • I’ch stumog gorddi
  • I chi glensio’ch dyrnau

Ar ôl mynd yn ddig efallai y byddwch yn dechrau teimlo’n euog am sut y gwnaethoch weithredu, a all wneud i chi deimlo’n waeth.

Os byddwch yn sylwi eich bod yn gwneud y mathau hyn o bethau’n rheolaidd, gall fod yn arwydd y byddech yn elwa o rywfaint o gefnogaeth:

  •  Brifo pobl eraill yn gorfforol, megis cicio neu daro
  •  Gweiddi ar bobl
  •  Torri pethau
  •  Colli rheoli
  •  Treulio amser gyda phobl sy’n eich cael i drafferthion
  •  Mynd i drafferthion yn yr ysgol neu’r gwaith

Sut galla i reoli fy nicter?

Mae’n iawn cymryd peth amser i feddwl am yr hyn sy’n eich gwneud yn ddig.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gadw dyddiadur o beth sydd wedi sbarduno’r emosiwn hwn a sut y gwnaethoch ei oresgyn.

Efallai y byddwch hefyd yn ei chael hi’n ddefnyddiol siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo am sut rydych chi wedi bod yn teimlo a sut mae’n effeithio ar eich bywyd.

Rhowch amser i feddwl i chi’ch hun cyn ymateb – ceisiwch gymryd rhai anadliadau dwfn neu gyfrif i 10.

Beth ddigwyddodd? Sut gwnaethoch chi ymateb? Sut roeddech chi’n teimlo wedyn? A oes unrhyw beth sy’n eich cynhyrfu?

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ysgrifennu’r meddyliau hyn neu wneud recordiad llais ar eich ffôn.

Siaradwch am sut rydych chi’n teimlo â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo.

Cliciwch yma am gyngor ar ddechrau sgyrsiau neu yma i fynd i linell gymorth neu wasanaeth cymorth.

Gwnewch rywbeth sy’n yn gwneud i chi deimlo’n wahanol i ddig – gallech fynd am dro, darllen llyfr neu wrando ar gerddoriaeth.

Gall gweithgareddau fel cerdded, nofio ac ioga eich helpu i ymlacio. Gwnewch rywbeth rydych chi’n ei fwynhau!

Rhowch gynnig ar weithgaredd ymlacio neu ymwybyddiaeth ofalgar.

Sut galla i gael help?

Os nad ydych yn gallu rheoli eich dicter o hyd, efallai y byddwch am siarad ag arbenigwr am eich teimladau a’ch ymddygiad.

Darllenwch fwy am sut i gael mynediad i’n Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl.