Nid yw bob amser yn hawdd siarad am sut rydym yn teimlo.

Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau neu sut i ddisgrifio eich teimladau!

Mae llawer ohonom yn ei chael hi’n ddefnyddiol rhannu ein teimladau â rhywun yr ydym yn ymddiried ynddo.

Weithiau efallai na fyddwn hyd yn oed am i rywun geisio datrys ein problemau ar unwaith, ond yn hytrach cael rhywun i wrando arnom.

Mae gennych yr hawl i gael eich clywed ac i siarad am bethau sy’n bwysig i chi.

Gyda phwy dylwn i siarad?

Mae llawer o bobl sy’n gallu siarad â chi am sut rydych chi’n teimlo:

  • Rhywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo: Efallai y bydd gennych rywun yn eich bywyd y gallwch siarad ag e fel ffrind neu aelod o’r teulu – efallai eich rhieni neu ofalwr
  • Gweithiwr proffesiynol neu arbenigwr: Efallai y bydd yn haws siarad â gweithiwr proffesiynol – mae llawer a all eich helpu. Mae gennym lawer o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal.

Ceisiwch siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i’ch helpu i wneud synnwyr o’ch meddyliau a’ch teimladau.

Beth dylwn i siarad amdano?

Gallwch siarad am unrhyw beth rydych ei eisiau – mae hi lan i chi.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gynllunio’r hyn rydych am ei ddweud cyn i chi ddechrau siarad:

  • Ysgrifennwch sut mae pethau’n gwneud i chi deimlo
  • Meddyliwch am pam rydych yn siarad â’r person hwn. Ydych chi eisiau rhannu sut rydych chi’n teimlo neu ofyn am syniadau ar sut i deimlo’n well?
  • Siaradwch â Chwnselydd childline i’ch helpu i feddwl am yr hyn rydych am ei ddweud

Beth bydd pobl yn ei ddweud?

Gall pobl ymateb yn wahanol i’r hyn rydych chi’n ei ddweud:

  • Efallai na fydd rhai pobl yn gwybod beth i’w ddweud wrthych chi. Efallai y bydd angen peth amser arnynt i feddwl amdano
  • Bydd rhai pobl yn gofyn llawer o gwestiynau i chi, i geisio gweithio allan sut i’ch helpu. Nid oes angen i chi wybod yr holl atebion!