Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Nid yw bob amser yn hawdd siarad am sut rydym yn teimlo.
Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau neu sut i ddisgrifio eich teimladau!
Mae llawer ohonom yn ei chael hi’n ddefnyddiol rhannu ein teimladau â rhywun yr ydym yn ymddiried ynddo.
Weithiau efallai na fyddwn hyd yn oed am i rywun geisio datrys ein problemau ar unwaith, ond yn hytrach cael rhywun i wrando arnom.
Mae gennych yr hawl i gael eich clywed ac i siarad am bethau sy’n bwysig i chi.
Gyda phwy dylwn i siarad?
Mae llawer o bobl sy’n gallu siarad â chi am sut rydych chi’n teimlo:
- Rhywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo: Efallai y bydd gennych rywun yn eich bywyd y gallwch siarad ag e fel ffrind neu aelod o’r teulu – efallai eich rhieni neu ofalwr
- Gweithiwr proffesiynol neu arbenigwr: Efallai y bydd yn haws siarad â gweithiwr proffesiynol – mae llawer a all eich helpu. Mae gennym lawer o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal.
Ceisiwch siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i’ch helpu i wneud synnwyr o’ch meddyliau a’ch teimladau.
Beth dylwn i siarad amdano?
Gallwch siarad am unrhyw beth rydych ei eisiau – mae hi lan i chi.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gynllunio’r hyn rydych am ei ddweud cyn i chi ddechrau siarad:
- Ysgrifennwch sut mae pethau’n gwneud i chi deimlo
- Meddyliwch am pam rydych yn siarad â’r person hwn. Ydych chi eisiau rhannu sut rydych chi’n teimlo neu ofyn am syniadau ar sut i deimlo’n well?
- Siaradwch â Chwnselydd childline i’ch helpu i feddwl am yr hyn rydych am ei ddweud
Beth bydd pobl yn ei ddweud?
Gall pobl ymateb yn wahanol i’r hyn rydych chi’n ei ddweud:
- Efallai na fydd rhai pobl yn gwybod beth i’w ddweud wrthych chi. Efallai y bydd angen peth amser arnynt i feddwl amdano
- Bydd rhai pobl yn gofyn llawer o gwestiynau i chi, i geisio gweithio allan sut i’ch helpu. Nid oes angen i chi wybod yr holl atebion!