Mae bwyta deiet iach yn llenwi eich corff a’ch ymennydd ag egni wrth i chi dyfu.

Mae hyn yn eich helpu i gadw’n heini ac yn iach, yn gorfforol a gyda’ch emosiynau.

Pam mae bwyta’n iach yn bwysig?

  • Mae’n rhoi mwy o egni i chi
  • Mae’n eich helpu i gynnal pwysau corff iach
  • Bydd yn cadw eich corff a meddwl yn iach
  • Mae’n eich helpu i ganolbwyntio

 

 

 

 

Sut i fwyta’n iach?

  1. Bwytwch dri phryd y dydd. Bwytwch fyrbrydau ddim ond pan fo angen a pheidiwch â cholli brecwast!
  2. Bwytwch bum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd
  3. Yfwch ddigon o ddŵr – anelwch at 6-8 gwydraid o ddŵr bob dydd
  4. Dylech gynnwys sawl math o fwyd ym mhob pryd bwyd i wneud yn siŵr eich bod yn cael popeth sydd ei angen arnoch
  5. Newidiwch fyrbrydau llawn siwgr am atgyfnerthwyr egni fel cnau neu ffrwythau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich rhieni neu’ch meddyg, cyn newid eich deiet.

Gallwch weithio gyda nhw i gynllunio prydau bwyd sy’n gwneud i chi deimlo’n dda!

Pryderon neu broblemau bwyta

A yw bwyta neu feddwl am fwyd yn gwneud i chi deimlo’n bryderus, yn ofidus neu’n euog?

Os ydych chi’n poeni am unrhyw un o’r pethau hyn, mae’n bwysig eich bod yn cael y cyngor a chymorth cywir fel na fydd yn dod yn broblem fawr.

Siaradwch am sut rydych chi’n teimlo â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo.