Mae angen help arna i nawr
Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae bwyta deiet iach yn llenwi eich corff a’ch ymennydd ag egni wrth i chi dyfu.
Mae hyn yn eich helpu i gadw’n heini ac yn iach, yn gorfforol a gyda’ch emosiynau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich rhieni neu’ch meddyg, cyn newid eich deiet.
Gallwch weithio gyda nhw i gynllunio prydau bwyd sy’n gwneud i chi deimlo’n dda!
A yw bwyta neu feddwl am fwyd yn gwneud i chi deimlo’n bryderus, yn ofidus neu’n euog?
Os ydych chi’n poeni am unrhyw un o’r pethau hyn, mae’n bwysig eich bod yn cael y cyngor a chymorth cywir fel na fydd yn dod yn broblem fawr.
Siaradwch am sut rydych chi’n teimlo â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo.