Mae gan bob un ohonom adegau lle rydym yn teimlo’n isel neu’n drist weithiau ond mae rhai ohonom yn ei deimlo’n wahanol nag eraill.

Mae gan rai ohonom iselder. Mae hyn yn fwy na theimlo’n anhapus am ychydig ddyddiau – gall bara am amser hir ac ymyrryd ar eich bywyd. Gall ymddangos fel na fydd y meddyliau drwg byth yn diflannu – mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn gwneud pethau bob dydd arferol.

Nid yw cael iselder yn golygu eich bod yn wan.  Nid yw’n rhywbeth y dylid disgwyl i chi ‘ddod mas ohono’. Mae’n broblem gyffredin a gellir ei thrin.

Beth sy’n ei achosi?

  • Digwyddiadau bywyd megis marwolaeth anwylyn
  • Mae gan rai pobl hanes iselder yn eu teulu. Gall hyn olygu eu bod yn fwy tebygol o’i gael eu hunain.
  • Gall rhai pobl fynd yn isel eu hysbryd heb reswm clir.

Sut deimlad yw e?

Rydym yn meddwl am iselder fel yn golygu teimlo’n drist, ond gall effeithio arnoch chi mewn ffyrdd eraill:

  • Mae’n newid eich arferion bwyta neu gysgu
  • Mae’n ei gwneud hi’n anodd canolbwyntio neu gofio pethau
  • Mae’n newid sut rydych yn teimlo – efallai y byddwch yn teimlo’n fwy dig, am grïo neu’n fwy unig nag arfer
  • Mae’n gallu gwneud i chi deimlo’n anobeithiol
  • Mae’n eich gwneud i chi golli diddordeb mewn pethau rydych chi’n eu mwynhau fel arfer
  • Mae’n eich gwneud i chi feddwl yn fwy negyddol nag arfer

Sut galla i gael help?

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi siarad â gweithiwr proffesiynol am eich teimladau.

Darllenwch fwy am sut i gael mynediad i’n Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl.