Byddwn yn eich ffonio neu’n anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi beth sydd wedi digwydd gyda’ch atgyfeiriad a beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf.

  • Gallai hyn fod yn asesiad gyda’n gwasanaeth arbenigol neu eich cyfeirio at rywun a all eich cefnogi yn eich cymuned leol.

Isod rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau ac adnoddau i’ch cefnogi y mae pobl ifanc a theuluoedd eraill wedi eu cael yn ddefnyddiol wrth aros am y cam nesaf yn eu siwrne.

Rydym bob amser yn ceisio gwella profiad pobl ifanc sy’n aros am apwyntiadau. Os oes gennych unrhyw adborth neu syniadau am bethau i’w cynnwys ar y dudalen hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Pa mor hir y bydd angen i mi aros am apwyntiad?

Yn aml gallai fod angen aros rhwng eich atgyfeiriad yn cael ei wneud a’ch apwyntiad cyntaf gyda ni.

Bydd hyd yr amser aros hwn yn amrywio gan ddibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch ond byddwn bob amser yn ceisio eich gweld cyn gynted â phosibl.

Mae’n ddrwg iawn gennym os ydych wedi gorfod aros am apwyntiad. Rydym yn gwneud ein gorau i’ch gweld cyn gynted â phosibl ac yn y modd mwyaf diogel posibl.

Cliciwch yma i weld beth i’w wneud os ydych yn poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch eraill o’ch cwmpas cyn eich apwyntiad.

Cyn fy apwyntiad

Cyn eich apwyntiad, efallai y byddai’n ddefnyddiol gofyn i chi’ch hun:
• Pa heriau ydych chi’n eu hwynebu? Pa mor hir mae’r heriau hyn wedi bod yn digwydd?
• Beth hoffech chi ei newid? Sut fyddech chi’n gwybod pe bai pethau’n wahanol?
• Sut gallai’r problemau hyn fod wedi dechrau?
• Beth sydd wedi bod yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol hyd yma?
• Pwy sydd yn eich teulu a sut rydych chi i gyd yn dod ymlaen â’ch gilydd?
• Pa gymorth sydd gennych eisoes o fewn eich teulu, ymhlith eich ffrindiau a gyda’ch rhwydwaith ehangach?
• Sut beth yw bywyd yn yr ysgol a gyda’ch ffrindiau?
• Sut mae eich hwyliau wedi bod yn ddiweddar? Ydych chi wedi bod yn teimlo’n bryderus neu’n isel?
• Beth ydych chi am ei gyflawni neu ei newid?

Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol o gymorth:
• Cadwch ddyddiadur o faterion neu deimladau rydych chi’n poeni amdanynt
• Traciwch eich hwyliau a’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud am ychydig ddyddiau – gallech ddefnyddio un o’r appiau a restrir ar ein tudalen Adnoddau
• Meddyliwch am unrhyw gwestiynau y gallech fod am eu gofyn i’ch ymarferydd
• Edrychwch ar CAMHS Ready am restr o bethau y gallech fod am siarad neu feddwl amdanynt

Ein hadnoddau

Mae gennym lawer o wybodaeth, cyngor ac adnoddau ar gael yn yr adran hon i gyd ar gyfer pobl ifanc.

Edrychwch ar yr adnoddau, gallech ddod o hyd i rywbeth defnyddiol.

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella’r cynnwys sydd ar gael ar y wefan hon. Os oes rhywbeth ar y wefan hon wedi bod yn ddefnyddiol neu os oes rhywbeth ar goll a fyddai’n ddefnyddiol, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni.