Mae llawer o bethau y gallwn i gyd eu gwneud i ofalu am ein lles emosiynol.

Gall gwybod beth allwn ni ei wneud i ofalu amdanom ein hunain neu ble i fynd am gyngor ein helpu i deimlo’n well a chael gwell perthynas â’r bobl o’n cwmpas – heddiw ac yn y dyfodol.

Hunanofal

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pum cam y gallwch eu cymryd i wella eich iechyd a’ch lles emosiynol.

Edrychwch ar ein fideo ar y pum ffordd i les, wedi’u cyd-gynhyrchu gan Fwrdd Ieuenctid y BIP, i gael gwybod mwy.

Mae gennym hefyd lawer o awgrymiadau hunanofal eraill a fydd yn eich helpu i deimlo’n well.

Adnoddau ac apps ar-lein

Rydym wedi llunio rhestr o apps ac adnoddau ar-lein i’ch helpu gyda’ch lles emosiynol.

Mae ein gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Os ydych dros 18 oed, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar Stepiau ar gyfer adnoddau hunangymorth a sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i oedolion.

Os oes gennych unrhyw syniadau am adnoddau defnyddiol i’w cynnwys ar y rhestr hon, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni!

Hyb Mind

MindHub – adnodd wedi’i greu gan bobl ifanc i bobl ifanc.

Edrychwch ar eu gwefan am amrywiaeth o ddolenni a gasglwyd gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd.