Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
12 October 2022
Silvercloud
Gwasanaeth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Ar-lein Rhaglenni i Blant a Phobl Ifanc
Mae pandemig COVID-19 wedi cael dylanwad sylweddol ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc.
Yn 2021 roedd gan 1 ym mhob 6 plentyn a pherson ifanc cyflwr iechyd meddwl y gellir gwneud diagnosis, megis gorbryder neu iselder. Mae hyn wedi cynyddu o 1 ym mhob 9 yn 2017.
Nod cyflwyno Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar-leintrwy’r GIGi bobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru,yw ateby galw am wasanaethau iechyd meddwl plant trwy gynnig mynediad cynnar at gefnogaeth i’r rhai sydd eu hangen.
Beth ydyw?
Mae SilverCloud yn wasanaeth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein,sy’n rhad ac am ddim, a ddarperir gan GIG Cymru mewn partneriaeth â SilverCloud gan Amwell, ac wedi’i gynllunio i gefnogi iechyd meddwl a lles
Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau SilverCloud am ddim i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru.
Mae gennymgyfres o raglenni newydd sydd wedi’u cynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n profi symptomau ysgafn i gymedrol o orbryder neu hwyliau isel.
Ar gyfer pwy mae e?
Gall rhieni a gofalwyr gofrestru ar gyfer rhaglen therapi 12 wythnos ar-lein,am ddim i gefnogi plant a phobl ifanc 4-18 gyda gorbryder ysgafn i gymedrol.
- Mae Cefnogi Plentyn Gorbryderusyn helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi plant 4-11 oed i ddeall a rheoli eu gorbryder.
- Mae Cefnogi Person Ifanc Gorbryderusyn helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi pobl ifanc 12-18 oed i ddeall a rheoli eu gorbryder.
Gall pobl ifanc rhwng 16-18 oed gofrestru ar gyfer rhaglen therapi ar-lein 12 wythnos am ddim, heb angen caniatâd oedolion, am gymorth gyda gorbryder neu hwyliau isel
- Gall Gofod o Orbryder helpu pobl ifanc 16-18 oed deall a rheoli eu gorbryder.
- Gall Gofod o Hwyliau Isel helpu pobl ifanc 16-18 oed deall a rheoli symptomau hwyliau isel.
- Gall Gofod o Hwyliau Isel a Gorbryder helpu pobl ifanc 16-18 oed deall a rheoli symptomau gorbryder a hwyliau isel.
Beth nawr?
Dewiswch un o’r rhaglenni therapi rhyngweithiol, hawdd i’w defnyddiol, ar-lein i gwblhau dros 12 wythnos a derbyn adborth yn rheolaidd gan Gefnogwr SilverCloud cymwys.
Does dim angen atgyfeiriad gan eich Meddyg Teulu – defnyddiwch y rhaglen unrhyw le ar eich ffôn clyfar, llechen, neu gyfrifiadur