Gall Atal y Fro gefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd wedi profi neu gael eu heffeithio gan gam-drin domestig.
Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae llawer o wasanaethau a sefydliadau ar gael yng Nghaerdydd a’r Fro sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol.
Gall gwahanol wasanaethau gefnogi’r gwahanol anghenion sydd gennych neu’r heriau rydych chi’n eu hwynebu – does yr un ohonyn nhw’n well na’r llall.
Mae’n ymwneud â sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt – boed hynny yn eu hysgol, drwy eu meddyg teulu neu sefydliad cymunedol.
Mae’r dudalen hon yn parhau i gael ei datblygu. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw sefydliadau neu bynciau eraill y credwch y dylid eu hychwanegu at yr adnodd hwn.
Mae llawer o wasanaethau a sefydliadau ar gael yng Nghaerdydd a’r Fro sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol.
Gall gwahanol wasanaethau gefnogi’r gwahanol anghenion sydd gennych neu’r heriau rydych chi’n eu hwynebu – does yr un ohonyn nhw’n well na’r llall.
Mae’n ymwneud â sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt – boed hynny yn eu hysgol, drwy eu meddyg teulu neu sefydliad cymunedol.
Mae’r dudalen hon yn dal i gael ei datblygu. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw sefydliadau neu bynciau eraill y credwch y dylid eu hychwanegu at yr adnodd hwn.
Mae eiriolaeth yn golygu cael cefnogaeth gan berson arall i’ch helpu i fynegi eich barn a’ch dymuniadau, a’ch helpu i sefyll dros eich hawliau.
Ni fydd rhywun sy’n gweithredu fel eich eiriolwr yn dweud wrthych beth i’w feddwl, dweud neu wneud – gallant eich helpu i wneud pethau fel siarad am bethau sy’n bwysig i chi, ysgrifennu llythyrau a mynychu cyfarfodydd (neu wneud hynny ar eich rhan).
Advocacy Support Cymru (ASC) yn cynnig eiriolaeth broffesiynol, gyfrinachol ac annibynnol i’r rhai sy’n gymwys mewn lleoliadau gofal eilaidd ac iechyd meddwl cymunedol.
Maent yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc dan 18 oed.
I gysylltu â nhw:
Ffoniwch 02920 540444
E-bostiwch info@ascymru.org.uk
Mae’r Llinell Gymorth yn cynnig un pwynt mynediad am ddim i holl wasanaethau NYAS, gan gynnwys eiriolaeth.
Mae ein cynghorwyr yma i gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ledled Cymru a Lloegr, i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal.
I gael rhagor o wybodaeth:
Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a pobl ifanc sydd ag – neu a allai fod ag – anghenion addysgol arbennig neu anableddau.
Un o’r gwasanaethau am ddim y maent yn ei gynnig yw eiriolaeth arbenigol annibynnol.
I gysylltu â nhw:
Mae colli rhywun sy’n bwysig i chi yn un o heriau mwyaf bywyd, waeth beth fo’ch oedran. Gelwir hyn yn ‘brofedigaeth’.
Cymerwch olwg ar ein tudalen am fwy o wybodaeth am sut y gallech chi deimlo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Gwefan i bobl ifanc sy’n cynnig cyngor ar pan fydd rhywun yn marw, adnoddau defnyddiol a straeon personol gan bobl ifanc eraill sydd wedi profi colled.
Mae gan Cruse Bereavement Care, sy’n rhedeg y wefan, linell gymorth hefyd ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg, sydd ar agor ar ddyddiau Mercher, 10am – 12pm.
I gysylltu â nhw:
Mae gan Cruse hefyd linell gymorth genedlaethol sydd ar agor bob dydd – fel arfer rhwng 9:30am a 5pm yn ystod yr wythnos a rhwng 10am a 2pm ar benwythnosau.
Cysylltwch â nhw drwy ffonio 0808 808 1677
Mae Marie Curie yn cynnig gofal, arweiniad a chymorth i bobl sy’n byw gydag unrhyw salwch angheuol a’u teuluoedd
Maent hefyd yn cynnig llinell gymorth sy’n cynnig gwybodaeth ymarferol a chlinigol a chefnogaeth emosiynol – ar agor 8am – 6pm yn ystod yr wythnos ac 11am – 5pm ar ddydd Sadwrn.
I gysylltu â nhw:
Mae Winston’s Wish yn rhoi cymorth profedigaeth emosiynol ac ymarferol i blant, pobl ifanc hyd at 25 oed, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
Mae ganddynt linell gymorth am ddim lle gallwch gael cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar unwaith gan weithwyr proffesiynol profedigaeth hyfforddedig (ar agor 9am – 5pm yn ystod yr wythnos).
Mae cymorth arbenigol parhaus hefyd ar gael i’r rhai sydd ei angen.
I gysylltu â nhw:
Gall bod yn ddioddefwr neu’n dyst i gam-drin domestig gael effaith fawr ar sut rydych chi’n teimlo heddiw a sut y gallech ymdopi â phethau yn y dyfodol.
Cymerwch olwg ar yr adnoddau isod am fwy o wybodaeth
Gall Atal y Fro gefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd wedi profi neu gael eu heffeithio gan gam-drin domestig.
Gallant gynnig:
I gysylltu:
Mae BAWSO yn fudiad gwirfoddol sy’n gweithio ledled Cymru. Maent yn cynnig gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr a phobl sy’n dioddef o – neu sydd mewn perygl o ddioddef o – gamdriniaeth ddomestig a phob math o drais, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai o gefndir ethnig leiafrifol.
Os oes angen help arnoch, gallwch gysylltu â nhw 24/7:
Mae Byw Heb Ofn i’r rhai sydd wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu’r rhai sy’n poeni am ffrind neu berthynas sy’n profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth.
Mae’n rhad ac am ddim, ac ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
I gysylltu â nhw:
Mae RISE yn cynnig cymorth i fenywod, plant a phobl ifanc sy’n profi effeithiau unrhyw fath o drais.
I gysylltu:
Gall fod yn anodd cael ateb am ddefnyddio cyffuriau ac alcohol heb deimlo eich bod yn cael eich beirniadu – ond mae’n bwysig eich bod yn cael y ffeithiau.
Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth gyfrinachol am ddim ar gyffuriau.
I gysylltu â nhw:
Mae Nacoa yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth barhaus drwy linell gymorth neu e-bost am ddim i bobl o bob oed.
I gysylltu â nhw:
Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhoi gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar ystod o bynciau a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu.
Gall Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd siarad â chi am bob agwedd o’ch bywyd a chynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar bynciau fel bywyd teuluol, ymddygiad, presenoldeb ysgol a magu plant.
Gallwch hunanatgyfeirio at Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn y ffyrdd canlynol:
Gallwch siarad ag ymgynghorydd dros y ffôn ar y pryd, neu ar amser arall sy’n addas i chi. Byddant yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau defnyddiol, rhoi cyngor ar eich sefyllfa, a hyd yn oed weithio gyda chi a’ch teulu os bydd hyn yn helpu.
Gall y Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf siarad â chi am bob agwedd o’ch bywyd a chynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar bynciau fel bywyd teuluol, ymddygiad, presenoldeb ysgol a magu plant.
Gallwch hunanatgyfeirio i’r Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 4:30pm yn y ffyrdd canlynol:
Gallwch siarad ag ymgynghorydd dros y ffôn ar y pryd, neu ar amser arall sy’n addas i chi. Byddant yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau defnyddiol, rhoi cyngor ar eich sefyllfa, a hyd yn oed weithio gyda chi a’ch teulu os bydd hyn yn helpu.
Nid yw bod yn LGBT+ yn broblem iechyd meddwl, wrth gwrs – ond gallech wynebu rhai heriau ychwanegol a allai effeithio ar sut rydych chi’n teimlo.
Cymerwch olwg ar yr adnoddau LGBT+ penodol isod a’n tudalen teimlo’n wahanol am fwy o wybodaeth.
Mae Constellation yn cynnig gwasanaeth cwnsela am ddim a chymorth ymarferol i bobl ifanc LGBTQ+ 12-25 oed.
Maent hefyd yn cynnig gweithdai ar gyfer pobl ifanc draws 12-16 oed a 17-25 oed yng nghanol Caerdydd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Caryl Stock:
Sefydlwyd Glitter Cymru ym mis Mehefin 2016 fel grŵp cyfarfod misol i bobl sy’n uniaethu o dan y ddau acronym canlynol:
Mae Llinell Gymorth LGBTQ+ Cymru yn cynnig gwybodaeth gyffredinol, cyngor a chymorth cyfrinachol mewn sawl agwedd ar fywyd a materion amrywiol y gall pobl LGBTQ+, eu teuluoedd a’u ffrindiau eu hwynebu.
I gysylltu â nhw, ffoniwch 0800 917 9996 ar ddyddiau Llun rhwng 7pm a 9pm (os byddwch yn gadael neges peiriant ateb y tu allan i’r oriau hyn, byddant yn ceisio ymateb i chi o fewn 48 awr).
Mae Mind Out yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth iechyd meddwl (gan gynnwys cymorth cyfoedion) ac yn cael ei redeg gan ac ar gyfer pobl LGBTQ+.
Gall fod yn anodd ymdopi â theimladau, atgofion a sefyllfaoedd poenus neu lethol.
Weithiau mae’r teimladau cryf hyn yn gwneud i bobl fod eisiau brifo eu hunain yn fwriadol gan nad ydyn nhw’n gwybod sut i ymdopi fel arall.
Mae llawer o adnoddau ar gael os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei nabod yn hunan-niweidio – ewch i’n tudalen ar ein gwefan Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Alumina, sy’n cael ei redeg gan Self Harm UK, yn cynnig grwpiau ar-lein sy’n ymdrin â phynciau fel rheolaeth, caethiwed/dibyniaeth, emosiynau a phwysigrwydd siarad.
Mae 6-7 sesiwn i’r grwpiau ar-lein ac maent yn 1 awr o hyd – fel arfer grwpiau o 6-8 o bobl ifanc.
Gallwch gofrestru trwy eu gwefan.
Mae The Amber Project yn cefnogi pobl ifanc 14 – 25 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sydd â phrofiad o hunan-niweidio.
Maent yn cynnig gweithdai sy’n seiliedig ar weithgareddau, gweithdai theatr, cwnsela a chymorth ymarferol un i un.
I gysylltu â nhw, llenwch y ffurflen Gyswllt yma.
Sylwch nad gwasanaeth argyfwng yw hwn, ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:30am a 5:30pm.
Mae CALM yn sefyll mewn undod yn erbyn hunanladdiad. Mae ganddynt linell gymorth a gwe-sgwrs y gallwch gysylltu â nhw i siarad am unrhyw beth sy’n eich poeni.
Mae ganddyn nhw adnoddau da ar:
CALM are open between 5 pm and midnight every day of the year.
I gysylltu â nhw:
Os ydych chi’n cael meddyliau am ladd eich hun neu’n poeni am berson ifanc a allai fod, gallwch gysylltu â HOPELINEUK am gymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol.
Mae HOPELINEUK ar agor rhwng 9am a hanner nos bob diwrnod o’r flwyddyn.
I gysylltu â nhw:
Cysylltwch â Samariad os oes angen clust i wrando arnoch chi.
Cefnogaeth 24/7 am ddim drwy neges destun i bobl ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl.
Tecstiwch YM i 85258
Mae gofalwyr ifanc yn blant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun arall, fel rhiant, brawd neu chwaer neu aelod arall o’r teulu.
Os ydych chi’n berson ifanc sy’n gofalu am bobl eraill, mae’n bwysig eich bod yn cael y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnoch i ofalu amdanoch chi eich hun a’ch teulu. Ewch i’n tudalen ar ofalwyr ifanc i ddysgu mwy.
Preswylwyr Caerdydd – Gwasanaethau Byw’n Annibynnol: 029 2023 4234
Dydd Llun i ddydd Iau: 8.30am i 5pm
Dydd Gwener: 8.30am i 4.30pm
E-bost: ContactILS@cardiff.gov.uk
Mae gofalwyr di-dâl yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yng Nghaerdydd a’r Fro. Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr hyn y mae partneriaid ledled y rhanbarth wedi ymrwymo i’w wneud i gefnogi gofalwyr di-dâl trwy fynd i’n gwefan.
Preswylwyr Bro Morgannwg – Canolfan Gyswllt, Cyswllt Un Fro: 01446 700111
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.00am – 5.00pm
Neges Destun: C1V yna eich neges i 60066
E-bost: C1V@valeofglamorgan.gov.uk
Mae gofalwyr di-dâl yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yng Nghaerdydd a’r Fro. Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr hyn y mae partneriaid ledled y rhanbarth wedi ymrwymo i’w wneud i gefnogi gofalwyr di-dâl trwy fynd i’n gwefan.
Mae Join the Dot yn grŵp cyfranogiad iechyd meddwl i bobl ifanc sydd wedi’i sefydlu i ddarparu cymorth ac adnoddau yng Nghaerdydd a’r Fro i:
Cefnogi gofalwyr i gael y gefnogaeth orau bosib trwy ddeall pa gefnogaeth sydd ar gael, eu helpu i gyrchu gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu.
I gysylltu â hwy:
Mae’r prosiect gofalwyr ifanc ym Mro Morgannwg yn cael ei redeg gan YMCA Caerdydd ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi bron i 90 o ofalwyr ifanc ledled y Sir. Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg.
Mae’r Clwb Ieuenctid Gofalwyr Ifanc yng Nghanolfan YMCA, Court Road, Y Barri, CF63 4EE, ar agor bob nos Iau a Gwener yn ystod y tymor.
Dim ond i bobl ifanc sydd wedi’u derbyn i’r prosiect y mae’r clwb hwn.
Cysylltwch â’r Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf i atgyfeirio: