hollytarren

Croeso i rifyn cyntaf y cylchlythyr Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl 

Mae hyn yn ffordd i ni rannu datblygiadau cyffrous ynglŷn â’n gwasanaethau gyda phobl ifanc yn uniongyrchol.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau ar sut i wneud hyn yn well – mae croeso i chi gysylltu â ni!  

Rydym yn bwriadu rhyddhau sawl cylchlythyr y flwyddyn. Rhowch wybod os oes unrhyw beth yn benodol rydych chi eisiau clywed amdano.  

Rydyn ni’n gwybod bod llawer ohonoch wedi cael cyfnod anodd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o bobl ifanc nag erioed yn defnyddio ein gwasanaethau.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n newid y ffordd rydyn ni’n darparu cymorth lles emosiynol ac iechyd meddwl er mwyn i chi gael gwell profiad wrth ddefnyddio ein gwasanaeth.