Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae angen help arna i nawr

24 October 2022
Cylchlythyr - Rhifyn 1
Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl
Croeso i rifyn cyntaf y cylchlythyr Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl!
Mae hyn yn ffordd i ni rannu datblygiadau cyffrous ynglŷn â’n gwasanaethau gyda phobl ifanc yn uniongyrchol.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau ar sut i wneud hyn yn well – mae croeso i chi gysylltu â ni!
Rydym yn bwriadu rhyddhau sawl cylchlythyr y flwyddyn. Rhowch wybod os oes unrhyw beth yn benodol rydych chi eisiau clywed amdano.
Rydyn ni’n gwybod bod llawer ohonoch wedi cael cyfnod anodd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o bobl ifanc nag erioed yn defnyddio ein gwasanaethau.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n newid y ffordd rydyn ni’n darparu cymorth lles emosiynol ac iechyd meddwl er mwyn i chi gael gwell profiad wrth ddefnyddio ein gwasanaeth.