hollytarren

Mae pandemig COVID-19 wedi cael dylanwad sylweddol ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc.

Yn 2021 roedd gan 1 ym mhob 6 plentyn a pherson ifanc cyflwr iechyd meddwl y gellir gwneud diagnosis, megis gorbryder neu iselder. Mae hyn wedi cynyddu o 1 ym mhob 9 yn 2017.

Nod cyflwyno Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar-leintrwy’r GIGi bobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru,yw ateby galw am wasanaethau iechyd meddwl plant trwy gynnig mynediad cynnar at gefnogaeth i’r rhai sydd eu hangen.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i yma.

Beth ydyw?

Mae SilverCloud yn wasanaeth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein,sy’n rhad ac am ddim, a ddarperir gan GIG Cymru mewn partneriaeth â SilverCloud gan Amwell, ac wedi’i gynllunio i gefnogi iechyd meddwl a lles

Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau SilverCloud am ddim i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru.

Mae gennymgyfres o raglenni newydd sydd wedi’u cynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n profi symptomau ysgafn i gymedrol o orbryder neu hwyliau isel.

Ar gyfer pwy mae e?

Gall rhieni a gofalwyr gofrestru ar gyfer rhaglen therapi 12 wythnos ar-lein,am ddim i gefnogi plant a phobl ifanc 4-18 gyda gorbryder ysgafn i gymedrol.

  • Mae Cefnogi Plentyn Gorbryderusyn helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi plant 4-11 oed i ddeall a rheoli eu gorbryder.
  • Mae Cefnogi Person Ifanc Gorbryderusyn helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi pobl ifanc 12-18 oed i ddeall a rheoli eu gorbryder.

Gall pobl ifanc rhwng 16-18 oed gofrestru ar gyfer rhaglen therapi ar-lein 12 wythnos am ddim, heb angen caniatâd oedolion, am gymorth gyda gorbryder neu hwyliau isel

  • Gall Gofod o Orbryder helpu pobl ifanc 16-18 oed deall a rheoli eu gorbryder.
  • Gall Gofod o Hwyliau Isel helpu pobl ifanc 16-18 oed deall a rheoli symptomau hwyliau isel.
  • Gall Gofod o Hwyliau Isel a Gorbryder helpu pobl ifanc 16-18 oed deall a rheoli symptomau gorbryder a hwyliau isel.

Beth nawr?

Dewiswch un o’r rhaglenni therapi rhyngweithiol, hawdd i’w defnyddiol, ar-lein i gwblhau dros 12 wythnos a derbyn adborth yn rheolaidd gan Gefnogwr SilverCloud cymwys.

Does dim angen atgyfeiriad gan eich Meddyg Teulu – defnyddiwch y rhaglen unrhyw le ar eich ffôn clyfar, llechen, neu gyfrifiadur

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i yma.