hollytarren

Mae’r grŵp Gofal Lles Emosiynol ac Iechyd  Meddwl wedi gweithio gyda Bwrdd Ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Promo Cymru ar set o fideos fel ffordd arall o rannu gwybodaeth am ein gwefan lles emosiynol newyddchyfryngau cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  

Dywedodd y Bwrdd Ieuenctid wrthym ei bod yn bwysig i bob plentyn a pherson ifanc allu cael hyd i wybodaeth hawdd ei deall am sut i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain yn ogystal â chael gwybodaeth am wasanaethau lleol – p’un a ydynt yn cael ychydig ddyddiau anodd neu a oes angen iddynt gael mynediad i wasanaeth arbenigol.  

Gweithiodd y Bwrdd Ieuenctid ar syniadau ar gyfer y fideos hyn, gan ddatblygu’r sgriptiau a hyd yn oed ymddangos yn y fideos.

Mae un wedi’i wneud yn null TikTok i gydnabod mai dyma’r ffordd mae llawer o bobl ifanc yn cael eu gwybodaeth.  

Mae’r fideos yn ymdrin â phynciau fel beth yw lles emosiynol a pham mae’n bwysig, y pum cam i helpu dy eichyd meddwl, y dull dim drws anghywir i iechyd meddwl a sut i helpu ffrind sy’n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl.  

Rydym yn hynod ddiolchgar am holl amser ac ymdrech aelodau’r Bwrdd Ieuenctid i’n helpu i wneud yr adnoddau hyn yn ddiddorol, yn ddifyr ac yn werthfawr i blant a phobl ifanc eraill. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn.   

Rydym yn hynod ddiolchgar am holl amser ac ymdrech aelodau’r Bwrdd Ieuenctid i’n helpu i wneud yr adnoddau hyn yn ddiddorol, yn ddifyr ac yn werthfawr i blant a phobl ifanc eraill.

Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn!   

Ein partneriaid 

Ariannwyd dau o’r fideos, ‘Llesiant emosiynol’ a ‘Y pum cam i helpu dy iechyd meddwl’, gan yr Elusen Iechyd.

Ariannwyd y ddau arall, ‘Dim drws anghywir’ a ‘Helpu ffrind’, gan Bartneriaeth Dechrau’n Dda y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Diolch i’r Elusen Iechyd a Dechrau’n Dda am eu cefnogaeth wrth ddatblygu’r fideos hyn.