Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
31 May 2022
Mewngymorth Ysgolion
Mae’r Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion yn falch o gyhoeddi lansiad ein cylchlythyr!
Mae Amy, ein harweinydd clinigol, yn sôn am y tîm newydd, y cynnig i ysgolion a’r hyn y gall staff addysg yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ei ddisgwyl gan y Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion yn ystod y misoedd nesaf.
Gallwch lawrlwytho diweddariad mis Mai 2022 isod.
Y ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion yw cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr drwy ychwanegu eich manylion at y ffurflen hon
Mae hyn yn golygu y bydd diweddariadau yn y dyfodol yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch cyfeiriad e-bost.
Gwyddom fod llawer o ddisgwyliadau gan ysgolion ac amgylcheddau addysg eraill am y Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion.
Gobeithiwn y bydd y diweddariadau hyn yn helpu i egluro beth i’w ddisgwyl gan y tîm newydd hwn.
Os oes gan staff addysg unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r wefan neu e-bostiwch y tîm – schoolinreach.cav@wales.nhs.uk