hollytarren

Oeddech chi’n gwybod bod gan bob ysgol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg Nyrs Ysgol?

Pwy ydyn ni?

Efallai y byddwch yn meddwl bod Nyrs Ysgol yn eich anfon adref os ydych yn teimlo’n wael – ond fel arfer Swyddog Cymorth Cyntaf sy’n gweithio i’r ysgol wnaiff hynny. Mae Nyrsys Ysgol yn ymweld ag ysgolion yn aml ond nid ydym wedi’n lleoli ynddynt yn llawn amser.

Mae Nyrsys Ysgol yn nyrsys cymwysedig o amrywiaeth o gefndiroedd sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol fel y gallwn roi cyngor a gwybodaeth i chi am eich iechyd corfforol a meddyliol. 

Ble rydym yn gweithio?

Mae Nyrsys Ysgol wedi’u lleoli mewn canolfannau iechyd ac yn gweithio i’r GIG.

Rydym wedi’n rhannu’n dri thîm:

  • Dwyrain Caerdydd
  • Gorllewin Caerdydd
  • Bro Morgannwg

Rydym yn cwmpasu’r holl ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn yr ardal rydych chi’n byw ynddi.

Sut allwn ni eich helpu chi yn yr ysgol?

Mewn ysgolion cynradd – Mae athrawon neu rieni/gwarcheidwaid fel arfer yn cysylltu â ni os ydynt yn poeni amdanoch neu os oes angen gwybodaeth arnoch. Yna gallwn roi cyngor a chymorth unigol.

Mewn Ysgolion Uwchradd – Mae gan bob Ysgol Uwchradd Nyrs Ysgol a enwir, felly mae’r un nyrs yn mynd i mewn bob tro. Mae hyn yn golygu ein bod yn dod i’ch adnabod a gallwch ddod i’n hadnabod.

Gwelwn bobl ifanc yn yr ‘Hyb Iechyd Pobl Ifanc’ yn yr ysgol, sy’n lle cyfrinachol i chi siarad â ni.

  • Ystyr cyfrinachol yw na fyddwn yn rhannu’r hyn rydych wedi’i ddweud wrthym gydag unrhyw un arall.
  • Gallwch siarad yn rhydd ac yn agored am yr hyn sy’n eich poeni heb boeni y bydd pobl eraill yn cael gwybod.
  • Yr unig adeg y bydd yn rhaid i ni rannu rhywbeth rydych chi wedi’i ddweud wrthym yw os ydym yn poeni am eich diogelwch chi neu rywun arall.

Sut mae’n gweithio?

Mae pob ysgol Uwchradd yn rhedeg ei Hyb Iechyd Pobl Ifanc ychydig yn wahanol.

Fel arfer, mae aelod o staff yn yr ysgol yn cael ei nodi fel ein cyswllt ni. Gallwch ddweud wrthynt os hoffech ein gweld – nid oes angen i chi ddweud wrthynt pam.

Byddwn wedyn yn cwrdd â chi. Gallwn roi cymorth a chyngor am bynciau fel:

  • iechyd emosiynol
  • rhywioldeb
  • bwlio
  • bwyta a maeth
  • cysgu
  • camddefnyddio sylweddau
  • hunan-niweidio
  • ac unrhyw beth sy’n ymwneud â’ch iechyd a’ch lles corfforol neu emosiynol

Byddwn yn gwrando arnoch ac yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi. Gallwn eich cyfeirio at weithwyr proffesiynol eraill a all eich helpu hefyd.

Beth os nad ydw i’n mynd i’r ysgol?

Os cewch eich addysgu gartref, byddwch yn cael cynnig asesiad iechyd ac yn cael manylion cyswllt cartref yn dweud wrthych sut i gysylltu â’r Nyrsys Ysgol.

Beth arall rydyn ni’n ei gynnig?

Rydym hefyd yn rhedeg gwasanaeth o’r enw ‘Sgwrs Iechyd’ sy’n wasanaeth tecstio dienw a chyfrinachol i holl bobl ifanc Caerdydd a’r Fro sy’n 11 i 19 oed.

Gallwch anfon neges destun ar 07520615718 o ddydd Llun i ddydd Gwener 0830 i 1630.

Bydd Nyrs Ysgol yn cysylltu â chi i gynnig cyngor a chymorth, yn debyg iawn i’r hyn y byddem yn ei wneud yn yr Hyb Iechyd Pobl Ifanc.

Bydden ni wrth ein boddau’n cwrdd â chi!

Bydden ni wrth ein boddau’n cwrdd â chi! Chwiliwch am y posteri o amgylch yr ysgol neu siaradwch â’ch Pennaeth Blwyddyn/Tîm Cymorth Bugeiliol yn yr ysgol.

Rydyn ni’n gwybod y gall bywyd fod yn anodd weithiau, ond does dim rhaid i chi ei brofi ar eich pen eich hun. Rydym yma i’ch helpu a’ch cefnogi.