Rhieni a Gofalwyr
Stori Sara
Cyn i fi allu helpu fy mab, roedd angen cymorth arna i
Beth sy’n digwydd gyda fi
Rwy’n fam i fachgen yn ei arddegau, roedd ei ymddygiad yn anodd iawn, gan gynnwys gwrthod mynd i’r ysgol, hwyliau isel, ymddygiadau peryglus, ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn delio â’r cyfan.
Wedyn, roedd yn edrych fel petai wedi gwella, felly doeddwn i ddim yn poeni, tan i fi gael galwad yn dweud ei fod wedi cael ei ganfod ar bont yn paratoi i neidio.
Yn ffodus roedd rhywun wedi gallu siarad ag ef a’i gael e i adael y bont, ond roedd y sioc a’r gofid yn llethol i bob un ohonon ni. Aethon ni i’r Adran Frys a gwelodd e’r tîm creisis ond gadawodd hyn ni fel teulu mewn ansicrwydd.
Fy nghyflwr meddwl
Roeddwn i wedi torri, roedd hi mor anodd canolbwyntio ar unrhyw beth arall ac aeth bywyd yn niwl o boeni. Roeddwn i’n poeni ble’r oedd e a beth roedd e’n ei wneud ac yn teimlo bod ei gadw’n ddiogel ac yn ‘hapus’ yn dasg amhosib.
Roeddwn i’n drist ac yn gallu gweld ei fod yn cael effaith ar fy iechyd meddwl i hefyd. Ces i gymorth teuluol ond doedd neu wir yn deall effaith iechyd meddwl gwael, ar fy mab ac arna i. Dyw fy symudedd ddim yn wych, felly roeddwn i hefyd yn teimlo’n ynysig iawn yn gorfforol.
Gofalu am fy lles
Cawson ni weithiwr cymdeithasol a atgyfeiriodd fi at Platfform i Deuluoedd. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’n addas i fi ac roeddwn i’n nerfus iawn.
Erbyn diwedd yr alwad gyntaf, roeddwn i’n teimlo wedi cyffroi ac yn llawn cymhelliant ac roeddwn i eisiau cymryd rhan gan fy mod yn deall bod angen cymorth arna i cyn i fi allu helpu fy mab, ac roedd hyn yn mynd i fod yn rhywbeth i fi – yn union beth oedd ei angen arna i.
Dechreuais i’n syth gyda’r grŵp, ac roeddwn i wrth fy modd!
- Dysgais i am beth oedd angen arna i, ac fe ges i offer i fy helpu i ddelio â sefyllfaoedd.Dysgais hefyd am bwysigrwydd gofalu amdana i fy hun.
- Cwrddais i â phobl eraill ac roedd gennym lawer yn gyffredin ac yn fuan roeddwn yn ein helpu ac yn ein cefnogi ei gilydd.
- Rwy’n caru cyfarfodydd y grŵp – maen nhw’n fy nghadw i’n gysylltiedig â phobl ac wedi bod yn achubiaeth i fi!
Dysgais fwy amdanaf fy hun yn y sesiynau un-wrth-un, helpon nhw fi i weld patrymau yn fy ymddygiad a sut roedd digwyddiadau/trawma yn y gorffennol yn effeithio arna i yn fy mywyd bob dydd, doeddwn i erioed wedi meddwl am y peth o’r blaen, ond roedd yn gwneud synnwyr llwyr ac mae wedi fy rhyddhau’n emosiynol ac mae’n fy helpu i ddelio â bywyd yn llawer gwell.
Gwnaeth cael gafael ar y cymorth hwn fy helpu i ddeall fy hun a fy sefyllfa mwy, ac mae fy mherthynas â fy mab gymaint yn well oherwydd hyn.
Mae wedi agor fy llygaid i ffyrdd eraill o feddwl a gwneud pethau ac rwy’n ymdopi’n well â phopeth. Rwyf hefyd wedi dechrau astudio pynciau iechyd meddwl gyda’r Coleg Adfer, mae’r rhain yn fy helpu’n bersonol a hefyd yn fy helpu i helpu fy nheulu.
Rwy’n gweld bywyd yn wahanol nawr ac yn teimlo fy mod i’n darganfod pwy ydw i am y tro cyntaf. Rwyf wedi cwblhau uned mentora cymheiriaid lefel 1 ac rwy’n edrych ymlaen at helpu i gefnogi’r grwpiau a dysgu mwy. Mae’n bendant wedi gweithio i fi! Mae wedi agor fy meddwl i olwg newydd arna i fy hun a fy nheulu.
Dysgwch fwy am y Platfform i Deuluoedd a’r cymorth y maent yn ei gynnig i rieni.
Cliciwch yma am y cymorth sydd ar gael i rieni a gofalwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.