Pobl ifanc

Stori Nevaeh

Gweithio gyda'r Gwasanaethau Ieuenctid yn ystod cyfnod anodd

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o adran Addysg y Cyngor. Mae’r tîm yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i helpu eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol trwy amrywiaeth o gyfleoedd. Yn ystod y pandemig, mae’r staff wedi parhau i gynnig rhai o’u gwasanaethau ar adeg pan oedd eu hangen fwyaf ar bobl ifanc. 

Roedd Nevaeh, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, yn cael trafferth gyda phryder a phresenoldeb ysgol ers i’w brawd hŷn farw mewn damwain drasig. Bu dirywiad yn ei hiechyd meddwl a’i lefel ymgysylltu yn ystod pandemig Covid-19 ac roedd hi’n cael trafferth gyda’i gwersi ar-lein tra oedd yr ysgol ar gau.

Dechreuodd Gweithiwr Ieuenctid o Dîm AHY Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd weithio gyda Nevaeh yn wythnosol yng Nghanolfan Gymunedol Gabalfa lle roeddent yn mynd amdroeon cerdded lles a chymryd rhan mewn sesiynau coginio a chelf a chrefft.

Mae Nevaeh wedi magu hyder, cryfder a gwydnwch wrth barhau i brosesu ei galar ac mae ei chynnydd wedi bod yn anhygoel ac yn ysbrydoledig.

Mae hi bellach yn mynychu’r ysgol ac yn gwirfoddoli yn ei chanolfan gymunedol yng Ngabalfa ac mae’n bwriadu dod yn weithiwr ieuenctid cymwysedig yn y dyfodol i gefnogi eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Dywedodd ei Mentor Ieuenctid, Josie: “Rwyf mor ddiolchgar y bues i’n rhan o daith Nevaeh ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld popeth byddwch yn parhau i’w gyflawni yn ei dyfodol, a fyydd yn un disglair yn sicr.”

Ysgrifennodd Nevaeh gerdyn diolch i’w Mentor Ieuenctid gyda’r geiriau hyn: “Diolch o galon am fy helpu gyda phopeth. Rwy’n gwerthfawrogi popeth rydych chi’n ei wneud i mi. Diolch am wrando ar bopeth rwy’n ei ddweud, DIOLCH AM FOD YN CHI. Chi yw’r person mwyaf anhygoel sydd wedi gweithio gyda mi. Rwy’n gallu bod yn hollol agored gyda chi, felly diolch eto.”