Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Hoffem wybod am eich profiadau o’r gofal a ddarparwn.
Rydym wedi creu rhai holiaduron i’n helpu i ddysgu am eich profiadau o gael mynediad at ein gwasanaeth. Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei defnyddio i wneud gwelliannau i’n gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Bydd yr holiadur yn cymryd tua 5 munud i’w gwblhau. Gallwn eich sicrhau y bydd yr holl ymatebion yn ddienw.
Peidiwch â disgrifio unrhyw fanylion personol na phryderon lles uniongyrchol/brys.

Arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc 9-11 oed sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau.

Arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc 12-18 oed sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau.

Arolwg i Rieni a Gofalwyr plant a phobl ifanc sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth.
Mae eich adborth yn bwysig i ddarparu gwasanaethau a gwelliant parhaus. Cofiwch fod yr holl ymatebion yn gyfrinachol.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y caiff eich gwybodaeth ei phrosesu, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data o dan GDPR y DU yw Erthygl 6(1)(f). Cedwir data yn unol â Chod Ymarfer Rheoli Cofnodion ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2022.
Os oes gennych unrhyw gwynion ynghylch y ffordd y mae eich data wedi’i drin, cysylltwch â hb.Dpo@wales.nhs.uk