Mae angen cyswllt ystyrlon â phobl eraill ar bob un ohonom er mwyn teimlo’n ddiogel, ein bod yn cael ein caru a’n gofalu amdano. Pan nad oes gennym hyn, mae’n arferol teimlo’n unig.

Weithiau disgrifir unigrwydd fel bod ar eich pen eich hun pan nad ydych am fod neu’n teimlo ar eich pen eich hun hyd yn oed pan fyddwch yng nghwmni pobl eraill. Bydd pawb wedi profi hyn yn wahanol.

Weithiau rydyn ni’n hoffi bod ar ein pen ein hunain – mae hyn yn wahanol i unigrwydd gan ein bod yn dewis treulio amser ar ein pen ein hunain.

Beth sy’n achosi unigrwydd?

Mae llawer o wahanol bethau’n achosi unigrwydd – bydd yn amrywio i bawb.

Weithiau, efallai na fyddwn yn deall pam rydyn ni’n teimlo’n unig.

Efallai y byddwch yn fwy tebygol o deimlo’n unig os ydych:

  • heb ffrindiau na theulu
  • yn gofalu am rywun arall
  • yn byw mewn ardal heb bobl eraill o gefndir tebyg i chi
  • yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol oherwydd prinder arian
  • yn profi gwahaniaethu oherwydd pethau fel eich rhyw, hil neu gyfeiriadedd rhywiol
  • wedi profi cam-drin corfforol, meddyliol neu rywiol – efallai y byddwch yn ei chael hi’n anoddach ffurfio perthynas agos â phobl eraill

Gall rhai digwyddiadau bywyd wneud i rywun deimlo’n unig:

  • Symud i le newydd heb deulu na ffrindiau
  • Dechrau ysgol newydd neu fynd i’r brifysgol
  • Os bydd rhywun sy’n agos atoch yn marw
  • Perthynas yn chwalu
  • Cwympo allan gyda ffrindiau, neu’n ymbellhau
  • yn gofalu ar gyfer aelod o’r teulu
  • Mae pobl eraill yn teimlo’n unig ar adegau penodol o’r flwyddyn.

Cyfryngau cymdeithasol ac unigrwydd

Gall y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg hefyd achosi unigrwydd.

Er y gall cyfryngau cymdeithasol ein helpu i wneud ffrindiau newydd a chwrdd â phobl sy’n rhannu ein diddordebau, ni allant ddisodli cyswllt wyneb yn wyneb go iawn a rhyngweithio.

Os yw’n gwneud hynny, gall achosi ynysu a gwneud i ni deimlo’n fwy unig.

Beth alla i ei wneud?

Mae’n gwbl normal teimlo’n unig – rydyn ni i gyd yn teimlo fel hyn ar ryw adeg yn ein bywyd.

Nid yw teimlo’n unig yn broblem iechyd meddwl, ond mae cysylltiad:

  • Gall teimlo’n unig effeithio ar eich iechyd meddwl
  • Gall wynebu heriau gyda’ch iechyd meddwl wneud i chi deimlo’n unig

Mae gan Gymdeithas y Plant restr o awgrymiadau ar sut i ymdopi ag unigrwydd a’i oresgyn:

Ceisiwch gysylltu â rhywun nad ydych wedi siarad ag ef neu hi ers tro. Gallai hyn fod yn neges destun gyflym neu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Weithiau rydyn ni’n teimlo fel ein bod yn adnabod llawer o bobl, ond dydyn ni ddim yn teimlo’n agos iawn atyn nhw.

 

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fod yn agored gyda ffrind neu aelod o’r teulu am sut rydych chi’n teimlo. Gallech hefyd siarad ag oedolyn arall yr ydych yn ymddiried ynddo, fel nyrs ysgol, athro neu feddyg teulu.

 

Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus bod yn agored gyda rhywun rydych chi’n ei adnabod, fe allech chi roi cynnig ar ffonio Meic Cymru.

Rhowch gynnig ar ysgrifennu neu ddarlunio sut rydych chi’n teimlo. Sut rydych chi’n teimlo wedyn?

 

Gallai hyn helpu i egluro eich teimladau os byddwch yn siarad â rhywun arall.

Gall bod allan a gweld pobl eraill eich helpu i deimlo’n well.

 

Cymerwch amser i sylwi ar y golygfeydd, y synau a’r arogleuon rydych chi’n eu profi. Efallai y byddwch yn gweld rhywbeth newydd neu’n cwrdd â rhywun rydych chi’n ei adnabod.

Mae dechrau ar brosiect neu hobi newydd yn ffordd wych o gadw’ch meddwl yn brysur a chwrdd â phobl sy’n hoffi’r un pethau rydych chi’n eu hoffi.

 

Gallech ofyn i rywun rydych chi’n ei adnabod ddangos i chi beth mae’n mwynhau ei wneud neu edrych ar YouTube am syniadau.

Gall gwirfoddoli eich amser fod yn ffordd wych o:

 

  • ddysgu sgil newydd,
  • teimlo’n dda amdanoch chi’ch hun, a
  • chwrdd â phobl sy’n angerddol am yr un pethau â chi!

Gall teimlo’n unig effeithio ar eich lles, a all ei gwneud yn anos ceisio gwneud newidiadau i’ch bywyd.

 

Edrychwch ar ein tudalennau hunangymorth am gyngor.