Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae ein holl wybodaeth am Gysylltiadau Cymunedol ar un dudalen.
Cliciwch ar y dolenni isod i neidio i’r adrannau hynny.
Beth yw presgripsiynu cymdeithasol?
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl ifanc â grwpiau, gweithgareddau a chyfleoedd o fewn eu cymunedau lleol, i hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol.
Gallai hyn gynnwys:
- Ymuno â grŵp ieuenctid neu glwb chwaraeon
- Dod o hyd i ddiddordeb newydd
- Gwirfoddoli
- Gwybodaeth a chyngor
- Defnyddio gwasanaethau ac offer eraill
Cyn i ni ddechrau ar ein gwasanaeth, fe wnaethon ni siarad gyda llawer o bobl ifanc am ein cynlluniau.
Dywedon nhw nad oedden nhw’n hoffi’r term ‘presgripsiynu cymdeithasol’ am ei fod yn swnio fel bod rhywun yn dweud wrthyn nhw beth oedd ei angen arnyn nhw yn hytrach na gwrando arnyn nhw, dod i’w nabod nhw a chydweithio i lunio cynllun lles.
Roedden nhw’n hoffi’r syniad o gael eu cysylltu â gweithgareddau yn eu cymuned leol a chysylltu â phobl eraill.
Dyma pam y dewison ni’r enw Cysylltiadau Cymunedol i egluro’n well sut allwn ni helpu.
Pwy ydyn ni?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi derbyn arian gan Charities Together y GIG i gynnal peilot presgripsiynu cymdeithasol o fewn y Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae’r gwasanaeth peilot hwn ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sy’n wynebu heriau lefel isel i’w lles emosiynol.
Mae’r prosiect yn gyfle i brofi a yw gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol yn ddefnyddiol ar gyfer pobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, ac a yw’n cael effaith gadarnhaol ar eu lles emosiynol.
Cafodd ein gwasanaeth ei enw – Cysylltiadau Cymunedol – mewn ymateb i adborth gan bobl ifanc.
Beth yw Cysylltydd Cymunedol?
Mae Cysylltydd Cymunedol yn berson sy’n gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu i nodi eu nodau, datblygu cynllun lles, a chael mynediad at gyfleoedd yn eu cymuned.
Mae Cysylltydd Cymunedol:
- Yn blaenoriaethu eich anghenion, gwerthoedd, profiadau a barn
- Yn canolbwyntio ar ‘beth sy’n bwysig’ i chi
- Yn adeiladu perthynas a chydweithio gyda chi i nodi eich nodau
- Yn meddu ar wybodaeth dda am wasanaethau, grwpiau a gweithgareddau lleol sy’n hyrwyddo lles
- Yn gwirio gyda chi’n rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael mynediad at weithgareddau a chefnogaeth sy’n gweithio i chi
Dyma Pooja a Lauren – ein Cysylltwyr Cymunedol hyfryd! – a Holly – ein Arweinydd y Prosiect.
Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?
Os cewch eich derbyn i’r gwasanaeth, bydd eich Cysylltydd Cymunedol yn cysylltu â chi am sgwrs ac i drefnu amser i gwrdd.
Gallai hyn fod yn yr ysgol, yn eich cartref neu allan yn y gymuned (er enghraifft, mewn caffi neu barc) – lle bynnag rydych chi’n teimlo’n gyfforddus a diogel!
Pan fyddwn ni’n cwrdd, byddwn yn siarad ac yn dod i’ch nabod, gan gynnwys beth sy’n digwydd yn eich bywyd chi ar hyn o bryd. Gallai rhai o’r pethau y gallem siarad amdanynt gynnwys:
- Beth rydych yn hoffi ei wneud
- Unrhyw beth y gallwn ni helpu ag ef
- Sut rydych chi’n teimlo
- Pethau yr hoffech chi weithio arnynt – eich nodau
- Unrhyw heriau y gallech fod yn eu hwynebu
Yn seiliedig ar ein sgwrs, byddwn yn gweithio gyda chi i ddylunio cynllun lles. Bydd hwn yn unigryw i chi. Gallai gynnwys eich cysylltu â grwpiau a gweithgareddau yn eich ardal leol. Os hoffech chi, gallen ni ddod draw gyda chi neu eich helpu i gyrraedd yno.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd am hyd at dri mis. Byddwn yn dechrau cwrdd unwaith yr wythnos, ac ar ôl hyn byddwn yn siarad â chi am ba mor aml yr hoffech chi gwrdd.
Beth mae pobl ifanc yn ei feddwl hyd yma?
Treuliasom sawl wythnos yn ymweld â grwpiau ieuenctid ac yn defnyddio llwyfan ymgysylltu ar-lein i glywed barn pobl ifanc.
Roedd gennym ddiddordeb yn:
- beth roedden nhw eisoes yn ei wybod am bresgripsiynu cymdeithasol
- beth roedden nhw’n meddwl o’r syniad
- sut gallwn redeg y gwasanaeth i ddiwallu anghenion pobl ifanc
Ysgrifennom adroddiad ar hyn ym mis Rhagfyr 2022 (gallwch lawrlwytho hwn isod).
Sut galla i gymryd rhan?
Byddwn yn parhau i wrando ar bobl ifanc wrth i ni ddatblygu ein gwasanaeth – mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc.
Bydd adborth gan bobl ifanc yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i ddiwallu anghenion pobl ifanc.
Bydd y llwyfan ymgysylltu ar-lein yn parhau i fod ar waith trwy gydol y prosiect.
Rydym yn bwriadu:
- Gofyn cwestiynau newydd
- Cysylltu’r llwyfan â’n cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynyddu nifer yr ymatebion
Byddem wrth ein bodd yn clywed beth rydych chi’n ei feddwl – p’un a ydych chi’n defnyddio ein gwasanaeth neu â diddordeb mewn ffyrdd o ofalu am eich lles!
Mae amrywiaeth o weithgareddau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt – bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw ond yn cymryd 2-3 munud.
Rydym wir yn gwerthfawrogi unrhyw adborth rydych chi’n fodlon ei rannu gyda ni.
Dyddiadur lles
Rydym wedi datblygu dyddiadur lles.
Fe’i cynlluniwyd i fod yn estyniad o’r amser rydych chi’n ei dreulio gyda’ch Cysylltydd Cymunedol.
Gobeithiwn y bydd yn offeryn defnyddiol i chi, a fydd yn eich galluogi i fyfyrio ar eich taith lles.
Pan fyddwn yn gweithio gyda chi, byddwn yn gofyn a fyddai’n well gennych ddefnyddio copi papur neu gopi digidol. Gallwch lawrlwytho’r copi digidol isod.
Er ein bod wedi dylunio hwn ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio Cysylltiadau Cymunedol, rydym yn annog unrhyw un sydd am weithredu i wella ei les i gael golwg ar y wybodaeth a’r adnoddau sydd ar gael.
Rhowch eich barn yma.
Grwpiau a sefydliadau
Celfyddau
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig llawer o wahanol weithgareddau celfyddydol i bobl ifanc 11-25 oed. Mae’r rhain yn cynnwys dawnsio hip hop, cyrsiau lleisiau creadigol, grwpiau cerddoriaeth theatr ieuenctid a llawer mwy.
Maent yn gydweithfa gymunedol dan arweiniad pobl ifanc sy’n meithrin lleisiau creadigol yfory. Maent yn gweithio’n bennaf gyda phobl ifanc o gymunedau ar y cyrion. Mae’r gweithgareddau wedi’u gwreiddio’n bennaf mewn hip hop ac maent yn arwain gweithgareddau creadigol eraill hefyd.
Cynhelir sesiynau drama yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Chapter ar gyfer pobl ifanc sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw. Grŵp theatr ieuenctid cynhwysol ar gyfer plant 8-11 a 12-16 oed. Mae’r sesiynau drwy BSL ac mae cyfieithwyr hefyd yn gallu mynychu.
Dosbarth cerddoriaeth gyfoes ar gyfer plant 7-18 oed yn y Tyllgoed. Gwersi grŵp gitâr fas, drymiau a llais.
Mae Theatr y Sherman yn cynnig grwpiau ysgrifennu dramâu i bobl ifanc 15-18 oed a rhaglen Theatr Ieuenctid wythnosol ar gyfer plant 8 i 18 oed.
Chwaraeon a Ffitrwydd
Campfeydd a phyllau nofio mewn gwahanol ganolfannau hamdden ar draws Caerdydd a’r Fro. Maent yn cynnig aelodaeth ieuenctid am bris gostyngol ac mae ganddynt lonydd nofio am ddim i bobl o dan 16 oed i archebu lle i’w defnyddio yn ystod gwyliau’r ysgol. I drefnu lle a gweld yr amseroedd penodol, ewch i’r wefan i ddod o hyd i ganolfan hamdden sy’n lleol i chi!
Dosbarthiadau bocsio i blant 6-9 a 10-16 oed ar ddydd Llun, Mercher ac Iau ar ôl ysgol. Mae’n rhaid prynu aelodaeth ac yswiriant cyn mynychu’r dosbarth. Sesiwn i bobl ifanc ag ADHD bob yn ail fore Sadwrn – cysylltwch am ragor o wybodaeth/i drefnu lle
Gwersi bocsio yn Butetown ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Maent hefyd yn trefnu digwyddiadau cymunedol (e.e. sgiliau cyfrifiadurol i bobl ifanc) ac yn cynnig mentora 1:1 i bobl ifanc.
Anfonwch e-bost neu ffoniwch i drefnu lle yn y dosbarthiadau.
Yn gysylltiedig â Chwaraeon a Chwarae Y Fro – maent yn cynnig clybiau gwahanol i bobl ifanc. Yn cynnwys dawns, criced, carate, pêl-droed, gymnasteg, tenis.
Mae sesiynau Kicks Prif Gynghrair Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd yn rhoi mynediad i bobl ifanc rhwng 11-19 oed at sesiynau pêl-droed rhad ac am ddim mewn amgylchedd diogel.
Mae Doniau’r Adar Gleision yn rhaglen bêl-droed i bobl anabl sy’n gwella lles, yn datblygu hyder ac yn cynyddu rhyngweithio cymdeithasol. Grwpiau gwahanol ar gyfer oedran cynradd, iau a hŷn.
Wedi’i leoli yn Hwb YMCA, y Barri, nod ein rhaglen stiwdio ddawns gymunedol yw chwalu rhwystrau a chreu priodoleddau cadarnhaol ar gyfer bywyd i’n holl aelodau. Dyma ein rhaglen ddawns wythnosol, a gynlluniwyd yn arbennig, sy’n cael ei darparu i gymuned Bro Morgannwg. Mae yna ddosbarth sy’n addas i bawb a chyfle i bob un fwynhau manteision dawns.
Gall plant o dan 16 oed gael mynediad at wersi nofio am ddim yn Llanisien, Y Tyllgoed, Maendy, STAR Y Sblot a Chanolfannau Hamdden y Dwyrain.
Ar benwythnosau a dyddiau’r wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol.
Ewch i unrhyw un o wefannau Canolfannau Hamdden Better am fwy o wybodaeth/i archebu lle
Ar fore Sul, mae yna rasys 2k ar gyfer plant rhwng pedair ac 14 oed. Yn gallu cerdded, rhedeg, gwirfoddoli a gwylio. Gweithio gyda’r gymuned a chwrdd ag eraill.
Maent yn elusen yng Nghaerdydd sy’n annog ac yn galluogi plant ac oedolion o bob oed a gallu i brofi manteision beicio. Maent yn ymdrechu i oresgyn y rhwystrau i feicio, y mae llawer o bobl yn eu hwynebu, a gweithio i set allweddol o werthoedd. Cynigir cefnogaeth i seiclo yn ogystal â dosbarthiadau. Mae ganddynt amrywiaeth o feiciau tair olwyn a beiciau cynhwysol ac wedi’u haddasu.
Clwb Tenis Bwrdd Cymunedol Dinas Caerdydd yw unig ganolfan tenis bwrdd pwrpasol Cymru. Mae’r clwb yn estyn croeso cynnes i chwaraewyr o bob gallu a lefel o brofiad. Gall y rhai sy’n newydd i’r gamp gael yr un cyfle i ddefnyddio’r byrddau â’r chwaraewyr proffesiynol, a gallant hefyd gael mynediad at hyfforddiant unigol neu mewn grŵp gan ein tîm cyfeillgar o hyfforddwyr o’r safon uchaf.
Grwpiau/Gwasanaethau Ieuenctid
Youth groups are a great way to meet other people with similar interests to you and to try out new activities.
Clwb ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed. Gweithgareddau wedi’u trefnu gan gynnwys Coginio. Rhan o Brosiect Treftadaeth CAER.
Mae’r clwb newydd hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Clwb Rygbi’r Barri, Sefydliad Cymunedol Rygbi Caerdydd a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru.
Cyswllt: Cynhelir y clwb ar ddydd Mercher rhwng 6.30-8pm. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno naill ai gysylltu ag Arweinydd Ieuenctid ‘Reservoir’, Ben McCarthy drwy e-bostio ben.mccarthy@cardiffrugby.cymru, neu ddod draw ar y noson.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o adran Addysg Cyngor Caerdydd. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i gynorthwyo gyda datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol trwy amrywiaeth o gyfleoedd.
Mae nifer o’n gweithgareddau ieuenctid yn canolbwyntio ar bobl ifanc ag ADY (anghenion dysgu ychwanegol), tra bod mynediad agored at sesiynau ieuenctid eraill. Anogir aelodau ieuenctid i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys: celf a chrefft, chwaraeon, gemau a dawns.
Mae’r grwpiau’n cynnwys: Clwb Ieuenctid Embassy, Clwb Ieuenctid Cynhwysol, IMPACT
Clwb ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11+ gyda gweithgareddau wedi’u trefnu sy’n cynnwys coginio, crefftau, chwaraeon, cyngor gyrfaoedd, a gemau. Fe’u cynhelir ar ddydd Mawrth a dydd Gwener o 6-8:30 yng Nghanolfan Wyndham Street.
Sefydliad ar gyfer pobl ifanc 12-18 oed sy’n eu helpu i ddatblygu sgiliau arwain a chreu cysylltiadau cryf â’r gymuned ehangach.
Maent yn cynnig nifer o wahanol wasanaethau gan gynnwys clybiau ieuenctid, Gwobr Dug Caeredin, cyrsiau achrededig, chwaraeon, digwyddiadau cymunedol, mentora ac ati.
Ar agor rhwng 3-9pm bob dydd i bobl ifanc 11-18 oed sy’n chwilio am gymorth iechyd meddwl, grwpiau lles, grwpiau creadigol neu wirfoddoli.
Mae’r Urdd yn darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc Cymru er mwyn eu galluogi i wneud cyfraniadau cadarnhaol i’w cymunedau.
Grwpiau iechyd meddwl
Cymorth eiriolaethar gyfer pobl ifanc.
Gweithdai creadigol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, sy’n defnyddio amrywiaeth o weithgareddau i helpu i hyrwyddo gwytnwch a lles cadarnhaol. Mae Youth Cymru yn cynnal ystod o raglenni drwy gydol y flwyddyn felly gweler y ddolen isod am ddiweddariad o’r rhaglenni.
Grwpiau eraill
Sefydliad dan arweiniad y gymuned sy’n cynnwys amrywiaeth o wasanaethau a chymorth – gofal plant, pantri bwyd, garddio cymunedol, gweithdai llythrennedd digidol, caffis iaith, a grwpiau cymorth diwylliannol/Islamaidd i bobl o bob oed.
Gweithdai a grwpiau ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 12-25 oed sy’n draws, yn anneuaidd neu’n archwilio eu rhywedd.
Mae Grassroots yn cynnal Grŵp Rhieni Ifanc rheolaidd bob dydd Mawrth rhwng 1-3pm. Yn cynnig cyngor, cefnogaeth, sgiliau sylfaenol, ynghyd â gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau lleol eraill. Maent hefyd yn cynnal gweithgareddau, gweithdai a theithiau i rieni ifanc.
Yn ogystal, cynhelir grŵp ar gyfer pobl ifanc 14–25 oed gydag ASD, wedi’i arwain gan berson ifanc. Cynhelir gwahanol ddigwyddiadau gan gynnwys gemau, cerddoriaeth, Photoshop, celf, animeiddio, coginio, dosbarthiadau ffotograffiaeth.
Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig cyfleoedd ymarferol, creadigol a chynhwysol i unigolion a chymunedau archwilio atebion a gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Mae Gerddi’r Rheilffordd yn y Sblot/Adamsdown ar gael ar gyfer garddio cymunedol. Mae hefyd yn cynnwys siop trwsio, grwpiau ar gyfer plant iau a gweithdai rhad ac am ddim/cost isel.
Grŵp ieuenctid LHDTC+ 52 wythnos. Amgylchedd cyfeillgar a diogel sy’n eich galluogi i ddod yn ffrindiau gyda phobl o’r un anian wrth gymdeithasu, cymryd rhan mewn chwaraeon, celf a chrefft, gweithdai, ac weithiau teithiau a thripiau preswyl. Mae’r grŵp hwn ar gyfer pobl ifanc 13–21 oed yn bennaf.
Ariennir Prosiect Plant a Phobl Ifanc DPIA gan raglen Plant Mewn Angen y BBC. Mae’r prosiect yn darparu rhaglen wythnosol o grwpiau a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd o dan 18 oed.
Agored i blant 11-25 oed sydd â phrofiad o ofal sy’n ymwneud â Gwasanaethau Plant Caerdydd. Cwrdd â phlant eraill sydd â phrofiad o ofal, cymryd rhan mewn gweithgareddau.
Mae Scouts (10 ½ – 14 oed) ac Explorers (14-18 oed) yn darparu lle diogel i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd ac archwilio pethau newydd i’w dysgu. Gall pobl ifanc deilwra eu profiad i’w diddordebau, gan ennill bathodynnau ar gyfer pob sgil newydd maen nhw’n ei ddysgu a chael cyfle i fynd ar deithiau dros nos.
Mae’r prosiect ‘Time 4 Me’ yn darparu cefnogaeth a seibiant i Ofalwyr Ifanc; cyfle i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill; gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl, ar draws Caerdydd a’r Fro! Mae Gofalwyr Ifanc yn blant a phobl ifanc 7 i 18 oed sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n byw gyda nhw.
Mae ‘Umbrella Allies’ yn ofod cyfeillgar, diogel a chefnogol sy’n caniatáu i bobl ifanc 12-18 oed sy’n ystyried eu hunain yn LHDTCRhA+ (a chynghreiriaid) i gwrdd â phobl o’r un anian. Maent yn cwrdd bob dydd Gwener o 18:15 tan 20:45 yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoors, Stryd Sanquhar, CF24 2AD.
Cwestiynau Cyffredin
Mae ein gwasanaeth yn newydd sbon – felly rydyn ni’n gwybod efallai y bydd gennych rai cwestiynau am sut mae’n gweithio.
Rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau cyffredin isod.
Os oes gennych ragor, Cysylltwch â Ni a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch ateb.
Gwybodaeth gyffredinol
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl ifanc â grwpiau, gweithgareddau a chyfleoedd o fewn eu cymunedau lleol, i hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol.
Gallai hyn gynnwys:
- Ymuno â grŵp ieuenctid neu glwb chwaraeon
- Dod o hyd i ddiddordeb newydd
- Cymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli
- Gwybodaeth a chyngor
- Defnyddio gwasanaethau ac offer eraill
Enw’r gwasanaeth hwn yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yw Cysylltiadau Cymunedol ac fe’i harweinir gan Gysylltwyr Cymunedol.
Mae Cysylltydd Cymunedol yn berson sy’n gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu i nodi eu nodau, datblygu cynllun lles, a chael mynediad at gyfleoedd yn eu cymuned.
Mae Cysylltydd Cymunedol:
- Yn blaenoriaethu eich anghenion, gwerthoedd, profiadau a barn
- Yn canolbwyntio ar ‘beth sy’n bwysig’ i chi
- Yn adeiladu perthynas a chydweithio gyda chi i nodi eich nodau
- Yn meddu ar wybodaeth dda am wasanaethau, grwpiau a gweithgareddau lleol sy’n hyrwyddo lles
- Yn gwirio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael mynediad at weithgareddau a chefnogaeth sy’n gweithio i chi
Mae ein gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc 11 i 18 oed sy’n profi heriau lefel isel i’w lles emosiynol.
Gallai hyn gynnwys ynysu cymdeithasol, gorbryder lefel isel, bwlio neu ddiffyg hunan-barch.
Nid ydym yn cwrdd ag unrhyw berson ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl mwy cymhleth neu ddifrifol.
Bydd angen i weithiwr proffesiynol rydych chi’n ymddiried ynddo wneud cais am gymorth i’r Un Pwynt Mynediad (UPM) Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl. Mae angen i geisiadau am gymorth ddod drwy weithiwr iechyd neu weithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, fel meddyg teulu neu nyrs ysgol.
Bydd angen i chi gael sgwrs gyda nhw am yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd a dweud yr hoffech chi roi cynnig ar bresgripsiynu cymdeithasol. Wedyn gallwch ofyn iddyn nhw wneud cais am gymorth i’r adran Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl.
Bydd y cais am gymorth yn mynd yn uniongyrchol i’r tîm UPM – byddant yn edrych ar y wybodaeth ac yn helpu i benderfynu beth allai fod fwyaf buddiol i chi. Mae’n fwy tebygol y bydd y cais am gymorth yn cyrraedd Cysylltiadau Cymunedol os yw presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei grybwyll ynddo!
Hyd yn oed os na fyddwn ni’n gweithio’n uniongyrchol gyda’n gilydd, efallai y bydd opsiynau eraill ar gael i chi o fewn Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl neu wasanaethau eraill. Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu i adnabod a chael mynediad at yr opsiynau hyn.
Ar hyn o bryd rydym ond yn derbyn ceisiadau am gymorth trwy’r Un Pwynt Mynediad (UPM). Os yw’r person ifanc yn cael trafferth gyda’i les emosiynol, gallwch ei annog i siarad â’i feddyg teulu neu nyrs ysgol a gallant nhw wneud cais am gymorth i UPM.
Sylwer: Rydym yn cynnig cymorth lles emosiynol lefel isel ac efallai na fydd bob amser yn bosib i ni dderbyn pob cais am gymorth. Mae’n bosib y byddwn yn cydweithio â phobl ifanc ar ôl ystyried sut mae ein gwasanaeth yn diwallu eu hanghenion orau, a’n capasiti.
Fodd bynnag, hyd yn oed os na fyddwn ni’n gweithio’n uniongyrchol gyda’n gilydd, efallai y bydd opsiynau eraill ar gael o fewn Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl neu wasanaethau eraill.
Defnyddio’r gwasanaeth
Pan fydd hynny’n gyfleus i chi! Gallwch gwrdd â Chysylltydd Cymunedol ar amser sy’n gweithio orau i chi.
Gallai hyn fod yn ystod oriau ysgol, ar ôl ysgol neu ar-lein. Bydd eich Cysylltydd Cymunedol yn cysylltu â chi i drafod amser a bydd yn gwneud ei orau i ddod o hyd i amser sy’n gyfleus i chi.
Os na allwch gwrdd fel y cytunwyd, rhowch wybod i’ch Cysylltydd Cymunedol cyn gynted â phosibl. Os ydych chi am wneud newidiadau ar unrhyw adeg, gallwch siarad â’ch Cysylltydd Cymunedol i drefnu cynllun newydd gyda’ch gilydd.
Yn yr un modd, bydd eich Cysylltydd Cymunedol bob amser yn rhoi gwybod i chi os na all gwrdd â chi mwyach fel y cynlluniwyd.
Ble bynnag sy’n gweithio orau i chi! Bydd eich Cysylltydd Cymunedol yn trafod gyda chi i ddod o hyd i rywle lle rydych chi’n teimlo gyfforddus a diogel.
Gallai hyn fod yn eich ysgol neu goleg, gartref neu rywle yn y gymuned fel caffi neu barc.
Os na allwch gwrdd fel y cytunwyd, rhowch wybod i’ch Cysylltydd Cymunedol cyn gynted â phosibl. Os ydych chi am wneud newidiadau ar unrhyw adeg, siaradwch â’ch Cysylltydd Cymunedol, a gyda’ch gilydd gallwch drefnu cynllun newydd.
Yn yr un modd, bydd eich Cysylltydd Cymunedol bob amser yn rhoi gwybod i chi os na all gwrdd â chi mwyach fel y cynlluniwyd.
Byddwch yn cwrdd â Chysylltydd Cymunedol dros 12 wythnos. Bydd y cyfarfodydd hyn yn dechrau’n wythnosol a gallent newydd i fod bob yn ail wythnos, yn dibynnu ar beth sy’n gweithio orau i chi.
Bydd pob cyfarfod yn tua awr o hyd.
Wrth gwrs! Os byddai’n hynny’n gwneud i chi deimlo’n fwy cyfforddus, gallwch wahodd rhywun rydych chi’n teimlo’n ddiogel gyda nhw, fel rhiant neu gwarcheidwad ffrind. Gallant ymuno â ni ar gyfer cymaint o sesiynau ag y dymunwch.
Yn yr un modd, os nad ydych chi eisiau i neb ddod gyda chi, mae hynny’n iawn hefyd! Cyn belled â’ch bod yn cael caniatâd gan eich gwarcheidwad/rhiant cyfreithiol i gwrdd â ni.
Mae hwn yn wasanaeth gwirfoddol. Mae hyn yn golygu, os nad ydych chi am gwrdd â Chysylltydd Cymunedol mwyach, does dim rhaid i chi!
Mewn achos o’r fath, byddem yn cael sgwrs gyda’n gilydd i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei newid am ein cyfarfodydd i’w helpu i fod o fudd i chi, ac fel eich bod yn teimlo’n fwy cyfforddus a diogel.
Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cyrraedd pen eich taith presgripsiynu cymdeithasol, yna does dim pwysau i aros! Gallwch barhau i fod yn rhan o’ch cymuned a chael mynediad at yr un gweithgareddau/grwpiau heb Gysylltydd Cymunedol yn gweithio ochr yn ochr â chi.
Mae ein gwasanaeth yn ymwneud â grymuso pobl ifanc i ofalu am eu lles eu hunain yn eu hardal leol. Rydyn ni’n gweithio gyda chi am 12 wythnos i ddod i’ch nabod chi, gweithio gyda’n gilydd ar gynllun sy’n diwallu eich anghenion, yna’n parhau i wirio gyda chi i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn iawn i chi. Mae teimlo’n fwy annibynnol ac yn barod i symud ymlaen o Cysylltiadau Cymunedol yn arwydd cadarnhaol!
Fel arall, os yw pethau wedi newid i chi a’ch bod yn meddwl bod angen cymorth iechyd meddwl arbenigol arnoch, byddwn yn cael sgwrs gyda chi ac yna ein cydweithwyr i weld beth fyddai’n gweithio orau i chi.