Mae Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl yn eiriau anodd eu hegluro oherwydd eu bod yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.

Mae cael lles emosiynol neu iechyd meddwl da fel arfer yn golygu bod rhywun yn hapus, iach a diogel, ond gall hefyd gynnwys pethau fel cael perthynas dda â phobl eraill, ymdeimlad o bwrpas, a theimlo bod gennych reolaeth o’ch bywyd.

Nid yw cael lles meddyliol ac iechyd da yn golygu ein bod bob amser yn teimlo’n hapus ac yn fodlon.  Mae gan bawb gydbwysedd teimladau, yn dda ac yn ddrwg.  Mae ein teimladau’n newid o ddydd i ddydd ac yn cael eu heffeithio gan yr hyn sy’n digwydd yn ein bywydau.  Mae gofalu am ein hiechyd meddwl yn ein helpu i ymdopi â’r bywyd.

Os yw teimladau gwael yn gyson ac yn ei gwneud yn anodd i chi wneud pethau arferol, fel mynd i’r ysgol neu fod gyda’ch ffrindiau, gallwn eich helpu i ddeall yn well yr heriau rydych chi’n eu hwynebu.

Gall digwyddiadau bywyd na allwn eu rheoli effeithio’n negyddol ar ein hiechyd meddwl a’n lles.   Mae pob un ohonom yn ymateb yn wahanol i bethau oherwydd mae pob un ohonom wedi cael profiadau gwahanol.

Bydd ein timau hefyd yn helpu i wneud i’ch problemau deimlo’n fwy hylaw.  Byddant yn dysgu sgiliau a thechnegau i chi i’ch paratoi’n well i wynebu heriau yn y dyfodol.

Mae’n bosibl gwella o afiechyd meddwl, yn union fel sut y byddech yn gwella ar ôl coes wedi torri.

Mae eich lles emosiynol a’ch iechyd meddwl yn bersonol iawn i chi.  Waeth beth sy’n digwydd yn eich bywyd, mae ein timau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl yma i’ch cefnogi a’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau.