Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae cadw’n heini yn bwysig i’ch corff a’ch meddwl.
Mae math o ymarfer corff i bawb, o chwarae rygbi, ymarfer ioga i geisio cerdded i’r ysgol neu i’r gwaith bob dydd. Os ydych chi’n dod o hyd i weithgaredd rydych chi’n ei fwynhau, ni ddylai deimlo’n ddiflas!
Mae rhai pobl yn hoffi ymarfer corff ar eu pennau eu hunain ac mae eraill yn hoffi ymarfer corff gyda phobl eraill. Mae’r naill neu’r llall yn wych, mae’n dibynnu ar yr hyn rydych chi’n mwynhau ei wneud.
Mae popeth yn cyfrif – bydd hyd yn oed mynd oddi ar y bws ychydig o orsafoedd yn gynnar yn eich helpu i symud.
Efallai y bydd rhesymau meddygol i chi fod yn ofalus neu’n bryderus ynghylch dechrau ymarfer corff.
Awgrymwn eich bod bob amser yn siarad â’ch meddyg neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddo cyn dechrau rhaglen ymarfer corff newydd neu gynyddu eich gweithgaredd.
Pam mae cadw’n heini yn bwysig?
- Mae’n eich helpu i gadw’n ffit ac yn iach
- Gall fod yn hwyl – mae’n ymwneud â dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi!
- Mae’n rhyddhau endorffinau ac yn eich helpu i deimlo’n dda yn ystod ac ar ôl ymarfer corff
- Mae’n gyfle i dysgu rhywbeth newydd a gwneud ffrindiau newydd
Mae cadw’n iach yn gorfforol hefyd yn helpu eich lles emosiynol.
Argymhellir ein bod i gyd yn gwneud o leiaf hanner awr o ymarfer corff bob dydd.
I gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau i bobl ifanc, ewch i wefan y GIG.
Sut galla i fod yn fwy actif?
Mae llawer o weithgareddau a wnewch bob dydd y gellir eu cyfnewid am opsiynau mwy actif:
- Rhowch gynnig ar sglefrio, beicio neu sgwterayn lle gyrru neu fynd ar y bws
- Chwarae gêm gyda eich ffrindiau yn lle gemau fideo
- Rhowch gynnig ar gerdded, beicio neu ymarfer iogai ymlacio yn lle chwarae gemau fideo
- Ewch allan gyda’ch teulu a’ch ffrindiau yn lle penwythnos diflas gartref
Mae llawer o wahanol fathau o ymarfer corff i roi cynnig arnynt. Y cyfan sydd ei angen yw dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi! Ydych wedi rhoi cynnig ar….:
- Cerdded
- Nofio
- Jogio
- Sglefrio iâ
- Sgipio
- Dawnsio
- Ioga
Beth os nad ydw i’n hoffi ymarfer corff?
Mae cadw’n heini yn bwysig i’ch corff a’ch meddwl, ond gall fod yn anodd dechrau arni os nad ydych erioed wedi gwneud hynny o’r blaen. Rydym wedi ceisio ateb rhai cwestiynau neu ofnau cyffredin am ymarferion i geisio eich helpu i symud.
Os ydych chi’n teimlo nad ydych yn ffit, nawr yw’r amser perffaith i wneud newid yn eich bywyd. Mae popeth yn cyfrif – felly rhowch gynnig ar weithgaredd ysgafn fel cerdded neu ioga yn gyntaf.
Wrth i chi fagu hyder, gallwch ddechrau rhoi cynnig ar bethau newydd neu eu gwneud am fwy o amser. Byddwch yn gweld cynnydd cyn bo hir!
Ydych chi erioed wedi rhoi cynnig ar ymarfer corff gartref? Gallwch neidio’n syth yn y gawod pan fyddwch yn barod.
Neu gallech roi cynnig ar weithgaredd ysgafn fel cerdded neu ioga fel eich bod yn llai tebygol o chwysu cymaint
Mae llawer o ymarferion cartref y gallech ddechrau arnyn nhw i fagu eich hyder, fel Joe Wicks.
Gallech roi cynnig ar dîm chwaraeon i ddechreuwyr neu gystadleuaeth gyfeillgar lle mae pawb yn dysgu gyda’i gilydd.
Yn ogystal â rhoi cynnig ar rywbeth newydd efallai y byddwch yn gwneud ffrindiau newydd!
Rwy’n barod i ddechrau ymarfer corff!
Newyddion da! Dyma rai syniadau ar gyfer ble i ddechrau:
- Efallai y byddai eich ysgol, coleg neu leoliad cymunedol lleol yn cynnal rhai gweithgareddau y gallech fod â diddordeb ynddynt
- Mae Sefydliad Dinas Caerdydd yn cynnig sesiynau pêl-droed am ddim i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y sesiynau a’r rhaglenni y maent yn eu cynnig
- Cynhelir Park run ledled y wlad – mae’r rhain yn rhediadau 5km am ddim a drefnir bob wythnos gan wirfoddolwyr. Gallwch chwilio ar-lein i ddod o hyd i un lleol i chi – mae un yn y Gored Ddu yng Nghaerdydd ac Ynys y Barri ym Mro Morgannwg
- Edrychwch ar-lein am glybiau chwaraeon lleol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
- Os ydych yn gweithio gyda gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr proffesiynol arall, efallai y byddant yn gallu eich cyfeirio at sesiynau bocsio gyda Empire Fighting Chance.
Ymarfer corff a phryder
Efallai y bydd rhesymau meddygol i chi fod yn ofalus neu’n bryderus ynghylch dechrau ymarfer corff.
Awgrymwn eich bod yn siarad â’ch meddyg neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddo cyn dechrau rhaglen ymarfer corff newydd neu gynyddu eich gweithgaredd.
- Gallwch ddweud wrthynt beth rydych chi’n poeni amdano a beth sy’n bwysig i chi
- Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddant yn gallu cynghori gweithgareddau i chi wneud yn ddiogel yn seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd gyda chi
Ymarfer cymelliadol
Mae gwneud llawer o ymarfer corff a theimlo na allech roi’r gorau i’w wneud yn arwydd posibl o anhwylder bwyta.
Mae anhwylderau bwyta yn gyflyrau iechyd meddwl difrifol gan y gallant effeithio ar eich iechyd meddwl a chorfforol.
Os yw’r syniad o golli sesiwn hyfforddi neu ymarfer corff yn achosi pryder eithafol i chi, rydym yn argymell siarad â’ch meddyg am gyngor.