Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae pob un ohonom eisiau gofalu am ein hanwyliaid.
Mae rhai plant a phobl ifanc yn gofalu am aelodau o’u teulu. Os ydych chi’n gwneud hyn, mae’n bwysig eich bod yn cael y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnoch i ofalu amdanoch chi eich hun a’ch teulu.
Beth yw gofalwr ifanc?
Gofalwr ifanc yw rhywun dan 18 oed sy’n gofalu am aelod o’r teulu. Gall hyn fod oherwydd bod yr aelod o’r teulu yn sâl, yn anabl neu’n wynebu heriau iechyd meddwl.
Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud i’ch teulu yn rhan o’ch trefn ddyddiol ac o bosibl yn teimlo’n normal – efallai y byddai’n rhyfedd meddwl amdanoch chi’ch hun fel ‘gofalwr’!
Mae gofalu am bobl eraill yn gyfrifoldeb mawr a gall fod yn llawer o waith – efallai y bydd gofalwyr ifanc yn gofalu am aelod o’u teulu drwy’r dydd a’r nos. Mae hyn yn cynnwys rhoi meddyginiaeth iddynt, coginio prydau bwyd a glanhau’r tŷ ymhlith pethau eraill.
Gall fod yn llawer o waith, yn enwedig ar ben unrhyw beth arall rydych yn ei wneud, fel mynd i’r ysgol.
Mae yna bobl a all eich helpu os yw gofalu’n effeithio gormod ar eich bywyd.
Ni ddylech deimlo cywilydd yn derbyn cymorth – mae angen help ar bob un ohonom weithiau.
Mae yna hefyd wasanaethau y gallwch fynd iddynt a all eich helpu i gwrdd â gofalwyr eraill a gwneud ffrindiau newydd!