Mae bwlio yn ymddygiad sy’n niweidio rhywun arall.

Gall wneud i chi deimlo’n unig ac yn bryderus am wneud pethau rydych chi fel arfer yn eu mwynhau.

Ond nid ydych ar eich pen eich hun. Mae pobl eraill yn cael eu bwlio hefyd, ac mae digon o bobl i siarad â nhw a all eich helpu.

Beth yw bwlio?

Gall bwlio gynnwys:

· galw enwau

· gwneud i bobl deimlo’n ddrwg amdanynt eu hunain

· gadael rhywun allan yn fwriadol

· brifo rhywun yn gorfforol

· a mwy.

Gall bwlio digwydd yn unrhyw le – gartref, yn yr ysgol, yn eich cymuned, neu hyd yn oed ar-lein.

P’un a yw’n digwydd unwaith neu drwy’r amser, mae bwlio’n peri pryder i’r sawl sy’n cael ei fwlio – ac mae’n gallu digwydd i bawb.

Nid oes gan unrhyw un yr hawl i’ch bwlio. Dylai pob plentyn deimlo’n ddiogel ac wedi’u cefnogi bob amser.

Beth galla i ei wneud?

Y peth gorau y gallwch ei wneud yw dweud wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel aelod o’r teulu, gofalwr neu rywun yn yr ysgol (fel eich athro / athrawes).

Gall fod yn anodd iawn dweud wrth rywun, ond gall eich helpu’n fawr. Ewch i’n tudalen dechrau sgwrs am awgrymiadau.

· Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth am help ar unwaith (gweler gwaelod y dudalen)

· Mae gan Gymdeithas y Plant restr o gyngor ar gyfer delio â bwlis. Mae hyn yn helpu os ydych yn cael eich bwlio ac os ydych yn ei weld yn digwydd i rywun arall.

Beth os yw rhywun arall yn cael ei fwlio?

Os ydych chi’n gweld rhywun arall yn cael ei fwlio, ceisiwch feddwl sut y gallai wneud i chi deimlo pe byddech chi’n cael eich bwlio.

Efallai y byddech chi’n teimlo’n drist iawn, neu’n ofnus, neu ar eich pen eich hun.

Ceisiwch siarad â nhw a’u cynnwys mewn pethau. Gallai eu helpu a’u gwneud yn hapusach.

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun arall yn cael ei fwlio, mae’n iawn rhoi gwybod am y peth i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo. Ni ddylech gael eich cosbi am hyn!