Mae colli rhywun sy’n bwysig i chi yn anodd iawn. Mae’n un o heriau mwyaf bywyd, waeth pa mor hen ydych chi. Gelwir hyn yn ‘brofedigaeth’.

Gall colli anwyliaid fod hyd yn oed yn anoddach os nad yw hyn erioed wedi digwydd i chi o’r blaen.

Gall hefyd deimlo’n unig os nad yw wedi digwydd i unrhyw un o’ch ffrindiau gan nad ydynt yn gallu deall sut rydych yn teimlo.

Sut deimlad yw e?

Pan fydd rhywun yn marw, mae’n arferol profi galar.

Bydd pawb yn profi galar yn wahanol. Does dim rheolau ynghylch sut i deimlo nac am ba hyd.

Mae’n gyffredin iawn teimlo cymysgedd o:

  •  Dristwch
  • Syndod
  • Rhyddhad, pe bai’r farwolaeth yn dilyn salwch hirdymor
  • Euogrwydd
  • Dicter
  • Gorbryder
  • Diymadferthed

Bydd y teimladau hyn ar eu dwysaf yn y dyddiau a’r wythnosau cynnar ar ôl i chi golli rhywun. Gydag amser, bydd yr emosiynau hyn yn dechrau lleihau.

Mae galar yn fwyaf cyffredin pan fydd rhywun wedi marw. Fodd bynnag, gall unrhyw golled achosi galar, gan gynnwys:

  • Colli cyfeillgarwch
  • Marwolaeth anifail anwes neu anifail rydych chi’n ei garu
  • Pan fo rhywun rydych chi’n ei garu yn ddifrifol sâl

Beth galla i ei wneud?

Mae’n hynod o bwysig siarad am eich teimladau. Chi sy’n penderfynu gyda phwy rydych chi’n siarad a dim ond chi sy’n gwybod sut rydych chi’n teimlo.

  • Gallai aelod o’r teulu fod yn berson da i siarad ag e os ydych wedi colli aelod arall o’r teulu. Y rheswm am hyn yw y bydd yn deall sut rydych chi’n teimlo. Efallai y bydd yn fuddiol rhannu atgofion o’ch anwylyd. Bydd aelodau eich teulu hefyd yn drist ac yn galaru, felly gall hyn eu helpu nhw hefyd.
  • Gall ffrind agos fod yn berson da i siarad ag e hefyd, hyd yn oed os nad yw wedi cael yr un profiad.
  • Gallech ysgrifennu neu greu celf am eich atgofion neu’ch teimladau am y sawl sydd wedi marw.
  • Ysgrifennwch lythyr at y sawl sydd wedi marw i ddweud y pethau rydych chi am eu dweud wrtho.
  • Mae yna linellau cymorth y gallwch gysylltu â nhw. Maent yn cynnwys Childline, Cruse Bereavement, Hope Again a Meic.

Mae hefyd yn bwysig iawn gofalu amdanoch eich hun yn ystod y cyfnod hwn.

  • Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd a bwyta’n dda.
  • Cymerwch amser bob dydd i ymlacio. Ceisiwch wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau a meddyliwch am sut rydych chi’n teimlo.
  • Mae’n iawn os oes angen help ychwanegol arnoch yn ystod y cyfnod hwn. Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, siaradwch â’ch meddyg neu edrychwch ar yr adnoddau isod i gael rhai syniadau ar ble i ddechrau.