Mae bywyd yn llawn newid.

Mae’n digwydd i ni i gyd! Rydym yn newid ein cartrefi, ein hysgolion, ein ffrindiau – hyd yn oed ein dillad, gwallt a blas mewn cerddoriaeth.

Mae newid yn ein helpu i roi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â gwahanol bobl. Heb newid, byddai bywyd yn ddiflas!

  • Weithiau rydyn ni’n disgwyl Mae hyn yn golygu ein bod yn gwybod ei fod yn dod ac y gallai effeithio arnom.
  • Ar adegau eraill, mae newid yn annisgwyl – gall hyn deimlo’n frawychus gan na allwch baratoi ar ei gyfer i’r un graddau.

Fel plentyn, gall llawer o bethau yn eich bywyd newid allan o’ch rheolaeth.

Gall hyn fod yn anodd ei ddeall a delio ag ef.

Mae newid yn beth ychwanegol i feddwl amdano ar ben bywyd normal. Dyma rai awgrymiadau i helpu i ofalu amdanoch eich hun pan fydd pethau’n newid:

  • Dilynwch eich trefn arferol – bydd peidio â gorfod meddwl beth i’w wneud nesaf yn eich helpu i ymlacio
  • Ceisiwch dreulio amser yn yr awyr agored neu gyda’ch ffrindiau a’ch teulu
  • Cysgwch ddigon
  • Cymerwch amser i ymlacio yn ystod y dydd
  • Siaradwch am sut rydych chi’n teimlo i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo

Mae newid yn rhan o fywyd, felly mae gallu ymdopi â newidiadau yn bwysig iawn.

Os ydych yn ei chael hi’n anodd, mae digon o wasanaethau a all eich helpu.