Mae cadw’n heini’n bwysig iawn.

Mae’n eich cadw chi’n iach a gall helpu i gynnal eich hwyliau.

Mae math o ymarfer corff i bawb, o chwarae campau, dawnsio, i gerdded i’r ysgol bob dydd.

Dewch o hyd i weithgaredd rydych chi’n dwlu arno – gall ymarfer corff fod yn hwyl iawn!

Y peth gorau yw bod pob ymarfer corff yn cyfrif – mae hyd yn oed mynd oddi ar y bws ychydig o orsafoedd yn gynnar yn helpu.

Os oes gennych reswm meddygol i osgoi rhai ymarferion, gofynnwch i’ch meddyg am help.

Pam mae cadw’n heini yn bwysig?

  • Mae’n eich helpu i gadw’n ffit ac yn iach
  • Mae’n ffordd o roi cynnig ar rywbeth newydd a chyffrous
  • Gall fod yn ffordd o wneud ffrindiau
  • Gall fod yn hwyl a gwneud i chi deimlo’n dda!

Dylem i gyd geisio gwneud o leiaf hanner awr o ymarfer corff bob dydd.

Sut galla i fod yn fwy actif?

Mae llawer o bethau a wnewch bob dydd y gellir eu cyfnewid am rywbeth mwy actif:

  • Rhowch gynnig ar sglefrio, beicio neu sgwterayn lle mynd yn y car neu ar y bws
  • Chwaraewch gêm gyda’ch ffrindiau yn lle gemau fideo
  • Rhowch gynnig ar gerdded neu feicio i ymlacio yn lle gwylio YouTube
  • Ewch allan gyda’ch teulu a’ch ffrindiau yn lle penwythnos diflas gartref

 

Beth os nad ydw i’n hoffi ymarfer corff?

Mae cadw’n heini’n bwysig iawn, ond gall fod yn anodd dechrau arni os nad ydych erioed wedi gwneud hynny o’r blaen.

Rydym wedi ateb rhai cwestiynau ac ofnau cyffredin am ymarfer corff isod:

Rhowch gynnig ar ymarfer corff gartref! Gallwch gael cawod neu fath pan fyddwch wedi darfod

 

Gallech hefyd roi cynnig ar ymarfer corff ysgafn fel cerdded fel nad ydych yn chwysu cymaint

Mae llawer o weithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer plant y gallwch eu gwneud gartref i fagu eich hyder.

Rhowch gynnig ar ymuno â thîm chwaraeon i ddechreuwyr. Mae pawb yn dysgu gyda’i gilydd ac mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau.

Ymarfer corff a phryder

Efallai y bydd rhesymau meddygol i chi fod yn bryderus ynghylch dechrau ymarfer corff.

Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo neu’ch meddyg cyn dechrau ymarfer mwy.

  • Gallwch ddweud wrthynt beth rydych chi’n poeni amdano a beth sy’n bwysig i chi.
  • Efallai y gallent awgrymu gweithgareddau gallwch eu gwneud yn ddiogel.

Mae rhai plant a phobl ifanc yn poeni am sut maen nhw’n edrych neu faint maen nhw’n ei bwyso, ac yn poeni os ydyn nhw’n teimlo nad ydyn nhw’n gwneud digon o ymarfer corff.

Os yw hyn yn bryder i chi, awgrymwn eich bod yn siarad am sut rydych yn teimlo â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo.